Neidio i'r cynnwys

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu Penblwyddi?

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu Penblwyddi?

 Mae Tystion Jehofa yn credu bod dathlu penblwyddi yn annerbyniol i Dduw, a dyna pam nad ydyn ni’n eu dathlu. Er nad yw’r Beibl yn dweud yn benodol na ddylid dathlu penblwyddi, y mae’n cynnwys gwybodaeth a all ein helpu ni i ddeall safbwynt Duw. Ystyriwch bedair agwedd ar ddathliadau pen-blwydd a rhai egwyddorion o’r Beibl sy’n berthnasol.

  1.   Mae gwreiddiau paganaidd i ddathliadau pen-blwydd. Yn ôl Funk & Wagnalls Standard Dictionary of Folklore, Mythology, and Legend, tarddiad dathliadau pen-blwydd oedd y gred fod “dylanwadau ac ysbrydion drwg yn cael cyfle i ymosod ar yr un sy’n dathlu,” a bod “presenoldeb cyfeillion a’u cyfarchion yn medru ei amddiffyn.” Yn ôl y llyfr The Lore of Birthdays, yn yr hen ddyddiau roedd cadw cofnod o benblwyddi “yn hanfodol ar gyfer llunio horosgop” gan ddefnyddio “gwyddor astroleg.” Mae’r llyfr yn ychwanegu: “Credir ar goel gwlad fod hud arbennig yn perthyn i ganhwyllau pen-blwydd i wireddu dymuniadau.”

     Sut bynnag, mae’r Beibl yn rhestru dewiniaeth a hudoliaeth ymhlith y pethau nad yw Duw’n eu caniatáu. (Deuteronomium 18:14; Galatiaid 5:​19-​21) Astroleg, sydd yn ffurf ar ddewiniaeth, oedd un o’r rhesymau i Dduw farnu hen ddinas Babilon. (Eseia 47:11-​15) Nid yw Tystion Jehofa yn pryderu’n ormodol am wreiddiau pob un traddodiad, ond pan welwn rywbeth yn y Beibl sy’n awgrymu’n gryf beth yw safbwynt Duw, nid ydyn ni’n ei anwybyddu.

  2.   Nid oedd y Cristnogion cynnar yn dathlu penblwyddi. Dywed The World Book Encyclopedia fod y Cristnogion cynnar yn “ystyried dathlu genedigaeth i fod yn arferiad paganaidd.” Mae’r Beibl yn dangos fod yr apostolion ac eraill a ddysgwyd gan Iesu ei hun wedi sefydlu patrwm ar gyfer pob Cristion.​—2 Thesaloniaid 3:6.

  3.   Yr unig achlysur mae Cristnogion dan orchymyn i’w gadw yw marwolaeth Iesu, nid ei enedigaeth. (Luc 22:17-​20) Ni ddylai hynny fod yn syndod, oherwydd mae’r Beibl yn dweud bod “dydd marw yn well na dydd geni.” (Pregethwr 7:1) Erbyn diwedd ei fywyd ar y ddaear, roedd gan Iesu enw da yng ngolwg Duw, ac felly roedd y diwrnod y bu farw yn bwysicach na diwrnod ei eni.​—Hebreaid 1:4.

  4.   Nid oes dim sôn yn y Beibl am weision Duw yn dathlu penblwyddi. Nid cyd-ddigwyddiad mo hynny, oherwydd y mae sôn yn y Beibl am ddau ddathliad pen-blwydd gan rai nad oedd yn weision Duw. Ond mae’r ddau yn cael eu portreadu’n anffafriol.​—Genesis 40:20-​22; Marc 6:​21-​29.

Ydy plant Tystion Jehofa ar eu colled oherwydd nad ydyn nhw’n dathlu penblwyddi?

 Fel rhieni da ym mhob man, mae Tystion Jehofa yn dangos eu cariad tuag at eu plant drwy’r flwyddyn, gan roi anrhegion a sicrhau bod eu plant yn mwynhau amser gyda’u ffrindiau. Maen nhw’n ceisio dilyn esiampl berffaith Duw, sy’n rhoi pethau da i’w blant drwy’r amser. (Mathew 7:​11) Nid yw plant Tystion Jehofa yn teimlo ar eu colled, fel y gwelwn o’r sylwadau canlynol:

  •   “Mae cael anrheg heb ddisgwyl amdani yn gymaint o hwyl!”​—Tammy, 12 oed.

  •   “Dydw i ddim yn cael anrhegion ar fy mhenblwydd, ond mae Mam a Dad yn prynu pethau imi ar adegau eraill. Dw i’n hoffi hynny, achos mae’n syrpréis.”​—Gregory, 11 oed.

  •   “Ydych chi’n meddwl fod deg munud, ychydig o gacennau, a chân yn gwneud parti? Dylech chi ddod draw i’n tŷ ni i gael parti go iawn!”​—Eric, 6 oed.