Neidio i'r cynnwys

Beth Mae Tystion Jehofa yn ei Gredu?

Beth Mae Tystion Jehofa yn ei Gredu?

Fel Tystion Jehofa, rydyn ni’n ceisio cadw at y Gristnogaeth a ddysgwyd gan Iesu ac a ddilynwyd gan ei apostolion. Mae’r erthygl hon yn crynhoi ein prif ddaliadau.

  1.   Duw. Rydyn ni’n addoli’r unig wir Dduw, y Creawdwr Hollalluog. Ei enw yw Jehofa. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân; Datguddiad 4:11) Ef yw Duw Abraham, Moses, a Iesu.​—Exodus 3:6; 32:11; Ioan 20:17.

  2.   Y Beibl. Credwn mai neges ysbrydoledig Duw i’r ddynolryw yw’r Beibl. (Ioan 17:17; 2 Timotheus 3:​16) Rydyn ni’n seilio ein daliadau ar y 66 llyfr sydd yn ffurfio’r “Hen Destament” a’r “Testament Newydd.” Da y dywedodd yr Athro Jason D. BeDuhn pan ysgrifennodd fod Tystion Jehofa wedi adeiladu “eu daliadau a’u harferion o ddeunydd crai’r Beibl, heb benderfynu o flaen llaw beth a ddylai fod yno.” a

     Rydyn ni’n derbyn y Beibl cyfan, ond nid ffwndamentalwyr mohonon ni. Rydyn ni’n cydnabod bod rhannau o’r Beibl yn defnyddio iaith drosiadol neu symbolaidd na ddylid ei chymryd yn llythrennol.

  3.   Iesu. Rydyn ni’n dilyn dysgeidiaeth ac esiampl Iesu Grist, a’i anrhydeddu fel ein Gwaredwr ac fel Mab Duw. (Mathew 20:28; Actau 5:​31) Felly, rydyn ni’n Gristnogion. (Actau 11:26) Sut bynnag, rydyn ni wedi gweld yn y Beibl nad y Duw Hollalluog yw Iesu, ac nad oes dim sail Ysgrythurol i ddysgeidiaeth y Drindod.​—Ioan 14:28.

  4.   Teyrnas Dduw. Llywodraeth go iawn yn y nefoedd yw’r Deyrnas, yn hytrach na rhywbeth yng nghalonnau Cristnogion. Fe fydd yn disodli pob llywodraeth ddynol a chyflawni ewyllys Duw ar gyfer y ddaear. (Daniel 2:​44; Mathew 6:​9, 10) Fe fydd hyn yn digwydd yn fuan, oherwydd mae proffwydoliaeth y Beibl yn dangos ein bod ni’n byw yn y “dyddiau diwethaf.”​—2 Timotheus 3:​1-5; Mathew 24:​3-​14.

     Iesu yw Brenin Teyrnas Dduw yn y nefoedd. Dechreuodd deyrnasu ym 1914.​—Datguddiad 11:15.

  5.   Gwaredigaeth. Mae gwaredigaeth rhag pechod a marwolaeth yn bosibl oherwydd aberth pridwerthol Iesu. (Mathew 20:28; Actau 4:​12) I gael budd o’i aberth, y mae’n rhaid i ni roi ein ffydd yn Iesu ar waith, newid ein ffordd o fyw, a chael ein bedyddio. (Mathew 28:19, 20; Ioan 3:​16; Actau 3:​19, 20) Mae ein gweithredoedd yn profi bod ein ffydd yn fyw. (Iago 2:​24, 26) Ond nid ein gweithredoedd sy’n gyfrifol am ein hachub​—‘gras Duw’ sy’n gwneud hynny.​—Galatiaid 2:​16, 21.

  6.   Y Nefoedd. Mae Jehofa, Iesu Grist, a’r angylion ffyddlon yn byw yn y nefoedd. b (Salm 103:19-​21; Actau 7:​55) Caiff nifer cymharol fach o bobl​—144,000​—eu hatgyfodi i’r nefoedd i fod yn frenhinoedd gyda Iesu yn y Deyrnas.​—Daniel 7:​27; 2 Timotheus 2:​12; Datguddiad 5:​9, 10; 14:​1, 3.

  7.   Y Ddaear. Creodd Duw y ddaear i fod yn gartref tragwyddol i’r ddynolryw. (Salm 104:5; 115:16; Pregethwr 1:4) Gyda bendith Duw, caiff pobl ufudd iechyd perffaith a bywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear.​—Salm 37:11, 34.

  8.   Drygioni a dioddefaint. Dechreuodd y pethau hyn pan wrthryfelodd un o angylion Duw. (Ioan 8:​44) Ar ôl hynny, cafodd yr angel hwnnw’r enwau “Satan” a “Diafol.” Fe berswadiodd y bobl gyntaf ar y ddaear i ochri ag ef, gyda chanlyniadau trychinebus i’w disgynyddion. (Genesis 3:​1-6; Rhufeiniaid 5:​12) Er mwyn ateb y cwestiynau moesol a gododd Satan, mae Duw wedi caniatáu drygioni a dioddefaint, ond ni fydd yn caniatáu hyn am byth.

  9.   Marwolaeth. Mae pobl sy’n marw yn peidio â bod. (Salm 146:4; Pregethwr 9:​5, 10) Nid ydyn nhw’n dioddef mewn uffern danllyd.

     Bydd Duw yn atgyfodi biliynau o bobl. (Actau 24:15) Sut bynnag, bydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi, ond sy’n gwrthod dysgu am ffordd Duw, yn cael eu difa am byth, heb obaith am atgyfodiad eto.​—Datguddiad 20:14, 15.

  10.   Teulu. Cadwn at safon wreiddiol Duw ynglŷn â phriodas, sef partneriaeth rhwng un dyn ac un ddynes. Anfoesoldeb rhywiol yw’r unig sail dros ysgaru. (Mathew 19:​4-9) Rydyn ni’n sicr bod y doethineb yn y Beibl yn helpu teuluoedd i fod yn llwyddiannus.​—Effesiaid 5:22–​6:1.

  11.   Addoliad. Nid ydyn ni’n anrhydeddu’r groes neu unrhyw ddelw arall. (Deuteronomium 4:​15-​19; 1 Ioan 5:​21) Prif nodweddion ein haddoliad yw:

  12.   Cyfundrefn. Rydyn ni wedi ein trefnu yn gynulleidfaoedd, pob un â chorff henuriaid i’w harolygu. Er hynny, nid clerigwyr mo’r henuriaid ac nid ydyn nhw’n cael eu talu. (Mathew 10:8; 23:8) Nid ydyn ni’n talu degwm, ac ni wneir casgliad byth yn ein cyfarfodydd. (2 Corinthiaid 9:7) Cefnogir ein gwaith i gyd drwy gyfraniadau dienw.

     Mae gwaith Tystion Jehofa drwy’r byd yn cael ei gyfarwyddo gan y Corff Llywodraethol, sef grŵp bach o Gristnogion profiadol sy’n gwasanaethu yn ein pencadlys.​—Mathew 24:45.

  13.   Undod. Rydyn ni’n gytûn yn ein daliadau ar draws y byd. (1 Corinthiaid 1:​10) Rydyn ni hefyd yn gwneud ein gorau i osgoi unrhyw raniadau ar sail hil, ethnigrwydd, neu safle cymdeithasol. (Actau 10:34, 35; Iago 2:4) Eto i gyd, mae ein hundod yn caniatáu inni wneud penderfyniadau personol. Mae pob un Tyst yn gwrando ar ei gydwybod ei hun ac yn dilyn egwyddorion y Beibl.​—Rhufeiniaid 14:​1-4; Hebreaid 5:​14.

  14.   Ymddygiad. Ym mhob peth, ceisiwn ddangos cariad anhunanol. (Ioan 13:34, 35) Rydyn ni’n osgoi pethau sy’n pechu yn erbyn Duw, gan gynnwys camddefnyddio gwaed drwy dderbyn trallwysiadau gwaed. (Actau 15:28, 29; Galatiaid 5:​19-​21) Pobl heddychlon sy’n gwrthod rhyfela ydyn ni. (Mathew 5:9; Eseia 2:4) Rydyn ni’n parchu llywodraeth y wlad ac yn ufuddhau i’r gyfraith, cyn belled nad yw hynny’n gofyn inni fod yn anufudd i ddeddfau Duw.​—Mathew 22:21; Actau 5:​29.

  15.   Perthynas ag eraill. Gorchymyn Iesu oedd: “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” Dywedodd hefyd nad yw Cristnogion “yn perthyn i’r byd.” (Mathew 22:39; Ioan 17:16) Felly, rydyn ni’n ceisio ‘gwneud da i bawb,’ ond yn aros yn hollol niwtral mewn materion gwleidyddol ac yn osgoi cysylltiad â chrefyddau eraill. (Galatiaid 6:​10; 2 Corinthiaid 6:​14) Er hynny, parchwn ddewisiadau pobl eraill yn y materion hyn.​—Rhufeiniaid 14:12.

 Os oes gennych ragor o gwestiynau am ddaliadau Tystion Jehofa, gallwch ddarllen mwy ar ein gwefan, cysylltu ag un o’n swyddfeydd, mynd i un o’n cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas, neu siarad ag un o’r Tystion yn eich ardal chi.

a Gweler y llyfr Truth in Translation tudalen 165.

b Bodau ysbrydol yw’r angylion drwg hefyd, ond maen nhw wedi cael eu bwrw allan o’r nef.​—Datguddiad 12:​7-9.