Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Corff Llywodraethol Tystion Jehofa?

Beth Yw Corff Llywodraethol Tystion Jehofa?

 Mae’r Corff Llywodraethol yn grŵp bach o Gristnogion aeddfed sy’n rhoi arweiniad i Dystion Jehofa ledled y byd. Mae eu gwaith nhw’n cynnwys dau beth:

 Mae’r Corff Llywodraethol yn dilyn yr esiampl a osododd “yr apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem” yn y ganrif gyntaf a oedd yn gwneud penderfyniadau pwysig ar ran y gynulleidfa Gristnogol gyfan. (Actau 15:2) Yn debyg i ddynion ffyddlon yr oes honno, nid aelodau’r Corff Llywodraethol yw arweinwyr y gyfundrefn. Maen nhw’n edrych at y Beibl am arweiniad, gan gydnabod mai Iesu yw’r un mae Duw wedi ei benodi yn Ben ar y gynulleidfa.​—1 Corinthiaid 11:3; Effesiaid 5:​23.

Pwy yw aelodau’r Corff Llywodraethol?

 Aelodau’r Corff Llywodraethol yw Kenneth Cook, Jr., Gage Fleegle, Samuel Herd, Geoffrey Jackson, Stephen Lett, Gerrit Lösch, Mark Sanderson, David Splane a Jeffrey Winder. Maen nhw’n gwasanaethu ym mhencadlys Tystion Jehofa yn Warwick, Efrog Newydd, U.D.A.

Sut mae’r Corff Llywodraethol yn cael ei drefnu?

 Mae’r Corff Llywodraethol wedi sefydlu chwe phwyllgor i oruchwylio gwahanol agweddau o’n gwaith. Mae pob aelod yn gwasanaethu ar un neu fwy o’r pwyllgorau yma.

  •   Pwyllgor y Cydlynwyr: Goruchwylio materion cyfreithiol ac ymateb i drychinebau, i ddigwyddiadau lle mae Tystion Jehofa yn cael eu herlid am eu daliadau crefyddol, ac i faterion brys eraill sy’n effeithio ar Dystion Jehofa.

  •   Pwyllgor Personél: Goruchwylio trefniadau ar gyfer aelodau’r teulu Bethel.

  •   Pwyllgor Cyhoeddi: Goruchwylio cynhyrchiad a chludiant llenyddiaeth Feiblaidd, adeiladu Neuaddau’r Deyrnas, swyddfeydd cyfieithu, a changhennau.

  •   Pwyllgor Gwasanaeth: Arolygu’r gwaith o ‘gyhoeddi’r newyddion da am y Deyrnas.’​—Mathew 24:14.

  •   Pwyllgor Addysgu: Arwain y paratoad o gyfarwyddyd ysbrydol sy’n dod trwy’r cyfarfodydd, yr ysgolion, a’r rhaglenni sain a fideo.

  •   Pwyllgor Ysgrifennu: Maen nhw’n goruchwylio’r gwaith cyfieithu ac yn arwain y paratoad o gyfarwyddyd ysbrydol sy’n cael ei ddarparu trwy ffurfiau printiedig ac ar ein gwefan.

 Yn ychwanegol i’r gwaith sy’n cael ei wneud trwy’r pwyllgorau yma, mae’r Corff Llywodraethol yn cyfarfod yn wythnosol i drafod anghenion y gyfundrefn. Yn y cyfarfodydd hyn, mae’r aelodau yn trafod yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud, ac y maen nhw’n gadael i ysbryd glân Duw eu harwain nhw, gan ymdrechu i gyrraedd penderfyniadau unfrydol.​—Actau 15:25.

Pwy yw’r cynorthwywyr i’r Corff Llywodraethol?

 Mae’r dynion yma’n Gristnogion dibynadwy sy’n rhoi cymorth i bwyllgorau’r Corff Llywodraethol. (1 Corinthiaid 4:2) Mae ganddyn nhw’r gallu a’r profiad yn y gwaith sy’n cael ei oruchwylio gan y pwyllgor y maen nhw wedi ei aseinio iddo, ac y maen nhw’n mynychu cyfarfod y pwyllgor hwnnw bob wythnos. Er nad ydyn nhw’n gwneud y penderfyniadau, mae’r rhai sy’n rhoi cymorth yn cynnig cyngor gwerthfawr, yn rhannu gwybodaeth gefndirol, yn rhoi penderfyniadau’r pwyllgor ar waith, ac yn cadw golwg ar ganlyniadau’r penderfyniadau a wnaed. Efallai y bydden nhw’n cael eu haseinio gan y Corff Llywodraethol i ymweld â’r frawdoliaeth mewn gwahanol wledydd ar draws y byd, ac i roi anerchiadau mewn cyfarfodydd blynyddol neu gyfarfodydd graddio Gilead.

RHESTR O’R CYNORTHWYWYR

Pwyllgor

Enw

Cydlynwyr

  • Ekrann, John

  • Gillies, Paul

  • Snyder, Troy

Personél

  • Grizzle, Gerald

  • LaFranca, Patrick

  • Molchan, Daniel

  • Scott, Mark

  • Walls, Ralph

Cyhoeddi

  • Butler, Robert

  • Corkern, Harold

  • Glockentin, Gajus

  • Gordon, Donald

  • Luccioni, Robert

  • Reinmueller, Alex

  • Sinclair, David

Gwasanaeth

  • Breaux, Gary

  • Dellinger, Joel

  • Georges, Betty

  • Griffin, Anthony

  • Hyatt, Seth

  • Jedele, Jody

  • Mavor, Christopher

  • Perla, Baltasar, Jr.

  • Rumph, Jacob

  • Smith, Jonathan

  • Turner, William, Jr.

  • Weaver, Leon, Jr.

Addysgu

  • Banks, Michael

  • Curzan, Ronald

  • Flodin, Kenneth

  • Malenfant, William

  • Noumair, Mark

  • Schafer, David

Ysgrifennu

  • Ahladis, Nicholas

  • Christensen, Per

  • Ciranko, Robert

  • Godburn, Kenneth

  • Mantz, James

  • Marais, Izak

  • Martin, Clive

  • Myers, Leonard

  • Smalley, Gene

  • van Selm, Hermanus