Yr Ail at y Thesaloniaid 3:1-18
3 Yn olaf, frodyr, parhewch i weddïo droston ni, er mwyn i air Jehofa ddal i ledaenu yn gyflym a chael ei ogoneddu, yn union fel y mae yn eich plith,
2 ac i ni gael ein hachub rhag dynion drwg iawn, oherwydd nid oes gan bawb ffydd.
3 Ond mae’r Arglwydd yn ffyddlon, a bydd ef yn eich cryfhau chi ac yn eich gwarchod chi rhag yr un drwg.
4 Ar ben hynny, mae gynnon ni hyder yn yr Arglwydd amdanoch chi, eich bod chi’n dilyn ein cyfarwyddiadau, ac y byddwch yn parhau i’w dilyn.
5 Rydyn ni’n dymuno i’r Arglwydd barhau i gyfeirio eich calonnau yn llwyddiannus at garu Duw ac at y dyfalbarhad sydd ei angen arnoch chi i wasanaethu Crist.
6 Nawr rydyn ni’n rhoi cyfarwyddiadau i chi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, i dynnu’n ôl oddi wrth bob brawd sy’n cerdded yn afreolus ac nid yn ôl y traddodiad* a dderbynioch chi* gynnon ni.
7 Rydych chi’ch hunain yn gwybod sut y dylech chi ein hefelychu ni, oherwydd dydyn ni ddim wedi ymddwyn mewn ffordd afreolus yn eich plith,
8 nac wedi bwyta bwyd unrhyw un am ddim.* I’r gwrthwyneb, drwy lafurio ac ymdrechu roedden ni’n gweithio nos a dydd er mwyn peidio â gosod baich ariannol ar unrhyw un ohonoch chi.
9 Mae gynnon ni’r awdurdod, ond roedden ni eisiau bod yn esiampl i chi i’w hefelychu.
10 Yn wir, pan oedden ni gyda chi, roedden ni’n arfer rhoi’r gorchymyn hwn ichi: “Os nad ydy rhywun eisiau gweithio, ni ddylai fwyta.”
11 Oherwydd rydyn ni’n clywed bod rhai yn cerdded yn afreolus yn eich plith, a dydyn nhw ddim yn gweithio o gwbl, ond yn busnesu mewn pethau sydd ddim yn fusnes iddyn nhw.
12 I bobl o’r fath rydyn ni’n rhoi’r gorchymyn a’r cyngor yn yr Arglwydd Iesu Grist, iddyn nhw weithio’n dawel ac ennill eu tamaid.*
13 Ond chithau frodyr, peidiwch â rhoi’r gorau i wneud daioni.
14 Ond os bydd unrhyw un yn anufudd i’n gair ni drwy’r llythyr hwn, cadwch eich llygaid arno* a stopiwch gymdeithasu ag ef, er mwyn iddo deimlo cywilydd.
15 Er hynny peidiwch â’i ystyried yn elyn, ond daliwch ati i roi cyngor iddo fel brawd.
16 Nawr rydyn ni’n gweddïo y bydd Arglwydd heddwch yn rhoi ichi heddwch yn barhaol ym mhob ffordd. Rydyn ni’n dymuno i’r Arglwydd fod gyda chi i gyd.
17 Mae’r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul, sy’n arwydd ym mhob llythyr; fel hyn rydw i’n ysgrifennu.
18 Rydyn ni’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist fod gyda chi i gyd.
Troednodiadau
^ Neu “cyfarwyddyd.”
^ Neu efallai, “a dderbynion nhw.”
^ Neu “heb dalu.”
^ Llyth., “a bwyta bwyd y maen nhw eu hunain wedi ei ennill.”
^ Llyth., “gosodwch nod arno.”