Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Osgoi Rhywun a Oedd yn Perthyn i’w Crefydd?

Ydy Tystion Jehofa yn Osgoi Rhywun a Oedd yn Perthyn i’w Crefydd?

 Dydyn ni ddim yn osgoi pobl sydd wedi cael eu bedyddio fel Tystion Jehofa ond sydd bellach wedi stopio pregethu ac efallai dros amser wedi stopio cymdeithasu â chyd-addolwyr. I’r gwrthwyneb, rydyn ni’n gwneud ymdrech mawr i’w helpu ac rydyn ni’n ceisio aildanio eu diddordeb mewn pethau ysbrydol.

 Dydyn ni ddim yn diarddel rhywun sy’n pechu’n ddifrifol yn awtomatig. Ond, os ydy un o’r Tystion sydd wedi ei fedyddio yn mynd yn groes i foesau’r Beibl yn rheolaidd, heb edifarhau, fe fydd yn cael ei ddiarddel. Mae’r Beibl yn dweud yn glir: “Rhaid diarddel y dyn drwg o’ch plith.”—1 Corinthiaid 5:13.

 Beth am ddyn sydd wedi cael ei ddiarddel ond sydd â gwraig a phlant sy’n dal yn Dystion Jehofa? Mae eu perthynas grefyddol yn newid, ond mae’r berthynas waed yn aros. Ac mae’r briodas a’r bywyd teuluol hefyd yn parhau.

 Caiff rhywun sydd wedi ei ddiarddel fynychu ein cyfarfodydd crefyddol. Os yw’n dymuno, gall henuriaid y gynulleidfa roi cyngor ysbrydol iddo hefyd. Y bwriad yw helpu pob unigolyn i fod yn gymwys unwaith eto i fod yn un o Dystion Jehofa. Mae croeso i unrhyw un sydd wedi ei ddiarddel ddod yn un o Dystion Jehofa eto os ydyn nhw’n gwrthod ymddygiad drwg ac yn dangos awydd i fyw yn unol â safonau’r Beibl.