Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Dych chi’n llawer mwy gwerthfawr.”—MATHEW 10:31

Ydy Duw yn Cymryd Sylw Ohonoch Chi?

Ydy Duw yn Cymryd Sylw Ohonoch Chi?

BETH MAE’R GREADIGAETH YN EIN DYSGU?

Mae’r 60 munud cyntaf o fywyd babi y tu allan i’r groth yn gyfnod pwysig iawn o ymaddasu. Pam? Oherwydd bod mam sy’n bondio â’i babi newydd-anedig yn ystod yr amser hanfodol hwnnw yn helpu’r babi i dyfu ac i ddatblygu yn well. *

Beth sy’n ysgogi mam i ofalu am ei babi newydd-anedig? Mae’r Athro Jeannette Crenshaw yn esbonio yn The Journal of Perinatal Education fod lefel uchel o’r hormon ocsitosin “yn sbarduno teimladau naturiol ar ôl y geni o fod eisiau magu plentyn wrth i’r fam gyffwrdd â’i baban, syllu arno, a’i fwydo ar y fron.” Mae hormon arall a ryddheir yr un pryd yn “helpu’r fam i ymateb i’w babi” ac yn atgyfnerthu’r cysylltiad rhyngddyn nhw. Pam mae hynny’n arwyddocaol?

Crëwyd y berthynas glòs rhwng mam a babi gan ein Creawdwr cariadus, Jehofa. * Rhoddodd y Brenin Dafydd y clod i Dduw am ddod ag ef “allan o’r groth” ac am wneud iddo deimlo’n ddiogel ym mreichiau ei fam. Gweddïodd: “Dw i wedi dibynnu arnat ti o’r dechrau cyntaf. Ti ydy fy Nuw i ers i mi gael fy ngeni.”—Salm 22:9, 10.

YSTYRIWCH: Os ydy Duw wedi creu system gymhleth o’r fath a hynny i sicrhau bod mam yn gofalu’n dyner am ei babi ac yn ymateb i’w anghenion, onid rhesymol ydy credu bod Duw yn dangos diddordeb personol ynon ninnau, sy’n “blant Duw”?—Actau 17:29.

BETH MAE’R BEIBL YN EI DDYSGU INNI AM OFAL CARIADUS DUW?

Gwnaeth Iesu Grist, yr un sy’n adnabod y Creawdwr yn well nag unrhyw un arall, ddysgu: “Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi’n gallu prynu dau ohonyn nhw am newid mân! Ond does dim un aderyn bach yn syrthio’n farw heb i’ch Tad wybod am y peth. Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd; dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to!”—Mathew 10:29-31.

Ychydig iawn ohonon ni sy’n cymryd sylw o bob aderyn bach rydyn ni’n ei weld, heb sôn am sylwi pan fydd un ohonyn nhw’n syrthio i’r ddaear. Ond mae ein Tad nefol yn sylwi ar bob un ohonyn nhw! A dydy adar—hyd yn oed llawer o adar—byth yn werth mwy i Dduw na phobl. Felly, mae’r wers yn glir: Peidiwch â “bod ofn” nad ydy Duw yn cymryd sylw ohonoch chi. I’r gwrthwyneb, mae ganddo ddiddordeb mawr ynoch chi!

Mae gan Dduw ddiddordeb mawr yn ein lles ac mae’n gwylio droson ni yn llawn cariad

Mae’r Ysgrythurau yn ein cysuro ni

  • “Mae’r ARGLWYDD yn gweld popeth, mae’n gwylio’r drwg a’r da.”—DIARHEBION 15:3.

  • “Mae’r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn, ac yn gwrando’n astud pan maen nhw’n galw arno.”—SALM 34:15.

  • “Bydda i’n dathlu’n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon. Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo.”—SALM 31:7.

“ROEDDWN I’N TEIMLO NAD OEDD JEHOFA YN FY NGHARU”

Ydy hi’n gwneud gwahaniaeth mewn bywyd o wybod bod gan Dduw ddiddordeb mawr yn ein lles personol ac yn gofalu amdanon ni mewn ffordd gariadus? Ydy, mae hi, fel mae Hannah, * o Loegr yn esbonio:

“Lawer, lawer gwaith, yr oeddwn i’n teimlo nad oedd Jehofa yn fy ngharu i nac ychwaith yn ateb fy ngweddïau. Roeddwn i’n meddwl mai’r rheswm dros hynny oedd fy niffyg ffydd. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy nghosbi neu fy anwybyddu oherwydd nad oeddwn i’n bwysig. Roeddwn i’n teimlo nad oedd Duw yn malio dim amdana’ i.”

Fodd bynnag, dydy Hannah ddim yn amau mwyach nad ydy Jehofa yn ei charu nac yn cymryd sylw ohoni hi. Beth wnaeth newid ei hagwedd? “Yn araf deg bach y newidiodd pethau,” meddai. “Rwy’n cofio un anerchiad Beiblaidd flynyddoedd yn ôl a oedd yn sôn am aberth pridwerthol Iesu Grist ac fe gafodd yr anerchiad effaith ddofn arna’ i, gan roi sicrwydd imi fod Jehofa yn fy ngharu. Ac ar ôl i fy ngweddïau gael eu hateb, rwy’n aml wedi dechrau crio, oherwydd imi sylweddoli fod Jehofa yn fy ngharu wedi’r cwbl. Hefyd, mae astudio’r Beibl a mynychu cyfarfodydd Cristnogol wedi dysgu mwy imi am Jehofa, ei bersonoliaeth, a’r ffordd mae’n teimlo amdanon ni. Nawr, rwy’n gweld yn glir fod Jehofa yn ein cefnogi ac yn caru pob un ohonon ni a’i fod eisiau gofalu amdanon ni fel unigolion.”

Mae geiriau Hannah yn galonogol. Ond sut gallwch chi deimlo’n sicr fod Duw yn deall ac yn cofio am eich teimladau? Bydd yr erthygl nesaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.

^ Par. 3 Mae rhai mamau sy’n dioddef o iselder ar ôl geni yn gallu cael trafferth bondio â’u babis. Ond, ni ddylen nhw deimlo mai nhw sydd ar fai. Yn ôl Sefydliad Cenedlaethol Iechyd Meddwl yr Unol Daleithiau, mae iselder ôl-enedigol “yn fwy na thebyg yn gyfuniad o ffactorau corfforol ac emosiynol . . . ond nid yw’n digwydd oherwydd yr hyn y mae’r fam yn ei wneud neu ddim yn ei wneud.” Am fwy o wybodaeth ar y pwnc, gweler yr erthygl “Understanding Postpartum Depression” yn rhifyn 8 Mehefin 2003 o’r cylchgrawn Awake!

^ Par. 5 Mae’r Beibl yn datgelu mai Jehofa ydy enw Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

^ Par. 15 Newidiwyd rhai o’r enwau yn y gyfres hon o erthyglau.