Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bydd Duw yn Rhoi Terfyn ar Ein Holl Ddioddefaint

Bydd Duw yn Rhoi Terfyn ar Ein Holl Ddioddefaint

“ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alw cyn i ti fy ateb i? Dw i’n gweiddi, ‘Trais!’ ond ti ddim yn achub.” (Habacuc 1:2, 3) Geiriau Habacuc ydy’r rhain, dyn da a oedd yn plesio Duw. A oedd ei ddeisyfiad yn dangos diffyg ffydd? Ddim o gwbl! Gwnaeth Duw sicrhau Habacuc ei fod wedi pennu amser er mwyn rhoi terfyn ar ddioddefaint.—Habacuc 2:2, 3.

Pan fyddwch chi neu rywun sy’n agos atoch chi’n dioddef, hawdd fyddai dod i’r casgliad fod Duw yn araf i weithredu, ac y dylai Duw fod wedi ymyrryd ynghynt. Ond eto mae’r Beibl yn ein sicrhau ni: “Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi ei addo, fel mae rhai yn meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.”—2 Pedr 3:9.

PRYD BYDD DUW YN GWEITHREDU?

Yn fuan iawn! Datgelodd Iesu y bydd cenhedlaeth benodol yn gweld cyfuniad unigryw o amgylchiadau a fyddai’n nodi diwedd trefn y byd. (Mathew 24:3-42) Mae proffwydoliaeth Iesu yn cael ei chyflawni yn ein dyddiau ni hefyd, ac mae hyn yn dangos y bydd Duw yn ymyrryd mewn materion dynol yn fuan iawn. *

Ond sut bydd Duw yn rhoi terfyn ar holl ddioddefaint pobl? Pan oedd Iesu ar y ddaear, dangosodd fod grym Duw yn gallu lleddfu dioddefaint dynolryw. Ystyriwch rai esiamplau o hyn.

Trychinebau Naturiol: Tra oedd Iesu a’i apostolion yn hwylio ar Fôr Galilea, dyma storm ffyrnig yn bygwth suddo eu cwch. Ond dangosodd Iesu ei fod yntau a’i Dad yn gallu rheoli’r elfennau naturiol. (Colosiaid 1:15, 16) Dywedodd Iesu yn syml: “Distaw! Byddwch lonydd!” Y canlyniad? “Stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel.”—Marc 4:35-39.

Salwch: Roedd Iesu’n adnabyddus iawn am ei allu i iacháu’r dall, y cloff, ynghyd â’r rhai a oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf, epilepsi, neu unrhyw fath arall o salwch. Gwnaeth Iesu “iacháu pawb oedd yn sâl.”—Mathew 4:23, 24; 8:16; 11:2-5.

Diffyg Bwyd: Defnyddiodd Iesu y grym a roddwyd iddo gan ei Dad i droi ychydig bach o fwyd yn ddigonedd o fwyd. Mae’r Beibl yn dweud iddo fwydo miloedd o bobl ddwywaith yn ystod ei weinidogaeth.—Mathew 14:14-21; 15:32-38.

Marwolaeth: Mae’r ffaith fod gan Jehofa y grym i ddileu marwolaeth yn cael ei ddangos yn glir yn hanes y Beibl am Iesu yn cyflawni tri atgyfodiad. Roedd un o’r rhai a gafodd ei atgyfodi ganddo wedi bod yn farw am bedwar diwrnod.—Marc 5:35-42; Luc 7:11-16; Ioan 11:3-44.

^ Par. 5 Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r dyddiau diwethaf, gweler gwers 32 y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a gyhoeddir gan Dystion Jehofa ac sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim oddi ar www.isa4310.com/cy.