Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rydyn Ni Angen Byd Gwell!

Rydyn Ni Angen Byd Gwell!

“Rydyn ni’n byw mewn byd llawn problemau,” meddai António Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Mae’n siŵr eich bod chi’n cytuno.

Mae’r newyddion yn llawn adroddiadau erchyll:

  • Clefydau a phandemigau

  • Trychinebau naturiol

  • Tlodi a newyn

  • Llygredd a chynhesu byd-eang

  • Trosedd, trais, ac anonestrwydd

  • Rhyfeloedd

Yn amlwg, rydyn ni angen byd gwell, un lle mae ’na:

  • Iechyd perffaith

  • Diogelwch i bawb

  • Digonedd o fwyd

  • Amgylchedd glân

  • Cyfiawnder i bawb

  • Heddwch byd-eang

Ond beth rydyn ni’n ei olygu wrth sôn am fyd gwell?

Beth fydd yn digwydd i’r byd rydyn ni’n byw ynddo nawr?

Beth gallwn ni ei wneud i fyw mewn byd gwell?

Bydd y rhifyn hwn o’r Tŵr Gwylio yn esbonio atebion cysurlon y Beibl i’r cwestiynau hyn a rhai tebyg.