Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gallwch chi baratoi nawr am y byd gwell sydd ar y gorwel

Y Byd Newydd Sydd ar y Gorwel!

Y Byd Newydd Sydd ar y Gorwel!

Creodd Duw y ddaear i bobl ffyddlon gael byw arni am byth. (Salm 37:29) Rhoddodd y cwpl cyntaf, Adda ac Efa, yng ngardd hyfryd Eden, a rhoi iddyn nhw a’u disgynyddion y cyfrifoldeb o edrych ar ôl y ddaear.—Genesis 1:28; 2:15.

Mae’r byd heddiw yn bell o fod yn Baradwys fel roedd Duw wedi ei fwriadu. Ond, dydy Duw ddim wedi newid ei feddwl. Sut bydd ef yn cyflawni ei fwriad gwreiddiol? Fel mae’r erthyglau blaenorol wedi dangos, fydd Duw ddim yn dinistrio’r ddaear ei hun, yn hytrach bydd yn caniatáu i bobl ffyddlon fyw arni. Pan fydd Duw yn cyflawni ei addewidion, sut bydd bywyd ar y ddaear?

Un llywodraeth fyd-eang

Yn fuan, pan fydd llywodraeth nefol newydd Duw yn rheoli dros y ddynoliaeth gyfan, bydd y ddaear yn lle hapus lle gall pobl fyw gyda’i gilydd mewn undod, gwneud gwaith da, a chael boddhad o hynny. Mae Duw wedi penodi Iesu Grist i reoli dros y ddaear. Yn wahanol i gymaint o arweinwyr heddiw, bydd Iesu wastad yn gwneud beth sydd orau i’r bobl. Cariad fydd sail ei reolaeth, ac fe fydd yn Frenin caredig, trugarog, a theg.—Eseia 11:4.

Undod rhyngwladol

Fydd pobl ddim yn cael eu gwahanu gan genedl na hil. Bydd y ddynoliaeth gyfan yn gwbl unedig. (Datguddiad 7:9, 10) Bydd pawb ar y ddaear yn caru Duw a’u cymydog, a byddan nhw’n cydweithio mewn heddwch i gyflawni pwrpas gwreiddiol Duw i ofalu am eu cartref, y ddaear.—Salm 115:16.

Harmoni â natur

Pan fydd Teyrnas Dduw yn rheoli’r ddaear, bydd y Creawdwr hefyd yn rheoli’r tywydd yn llwyr, gan ei gadw mewn cydbwysedd perffaith. (Salm 24:1, 2) Tra oedd ef ar y ddaear, dangosodd Iesu beth roedd yn gallu ei wneud â phŵer Duw pan wnaeth ef dawelu storm ofnadwy. (Marc 4:39, 41) O dan reolaeth Crist, fydd gan neb reswm i ofni trychinebau naturiol. Bydd Teyrnas Dduw hefyd yn adfer yr harmoni gwreiddiol oedd rhwng natur a bodau dynol.—Hosea 2:18.

Iechyd perffaith a digonedd o fwyd

Bydd pawb yn mwynhau iechyd perffaith. Fydd neb yn mynd yn sâl, yn heneiddio, nac yn marw. (Eseia 35:5, 6) Bydd pobl yn mwynhau amgylchiadau prydferth a glân, fel gwnaeth y cwpl cyntaf eu mwynhau yng ngardd Eden. Yn y byd newydd, yn union fel yn Eden, bydd y tir yn cynhyrchu digonedd o fwyd i bawb ar y ddaear. (Genesis 2:9) Fel pobl Dduw yn Israel gynt, bydd gan bawb ym Mharadwys “fwy na digon i’w fwyta.”—Lefiticus 26:4, 5.

Heddwch a diogelwch go iawn

O dan lywodraeth fyd-eang Duw, bydd pawb yn mwynhau heddwch ac yn trin ei gilydd mewn ffordd gariadus a theg. Fydd ’na ddim rhyfeloedd, fydd neb yn camddefnyddio eu hawdurdod, a fydd dim angen stryffaglu i ofalu am anghenion sylfaenol bywyd. Mae’r Beibl yn addo: “Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.”—Micha 4:3, 4.

Cartref clyd i bawb a gwaith i’w fwynhau

Bydd gan bob teulu gartref, heb orfod poeni am ei golli. A bydd yr holl waith byddwn ni’n ei wneud yn werth chweil. Fel mae’r Beibl yn dweud, fydd y rhai sy’n byw ym myd newydd Duw “ddim yn gweithio’n galed i ddim byd.”—Eseia 65:21-23.

Yr addysg orau

Mae’r Beibl yn addo: “Llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.” (Eseia 11:9, BCND) Bydd pobl sy’n byw o dan Deyrnas Dduw, yn dysgu oddi wrth ddoethineb di-ben-draw eu Creawdwr, Jehofa, ac am y pethau hyfryd gwnaeth ef eu creu. Fyddan nhw ddim yn defnyddio’r hyn maen nhw’n ei wybod i adeiladu arfau nac i frifo pobl eraill. (Eseia 2:4) Yn hytrach, byddan nhw’n dysgu sut i fyw gyda’i gilydd mewn heddwch a sut i ofalu am y ddaear.—Salm 37:11.

Byw am byth

Cymerodd Duw ofal mawr i baratoi’r ddaear fel ein bod ni’n gallu mwynhau pob diwrnod o’n bywydau. Mae’n bwriadu i bobl fyw ar y ddaear am byth. (Salm 37:29; Eseia 45:18) I wneud hynny’n bosib, bydd Duw yn sicrhau y bydd “marwolaeth wedi’i lyncu am byth.” (Eseia 25:8) Mae’r Beibl yn addo: “Ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach.” (Datguddiad 21:4) Bydd Duw yn rhoi’r cyfle i fyw am byth i bawb—y rhai mae’n eu hachub pan fydd yn dinistrio’r byd drygionus hwn, yn ogystal â’r nifer enfawr bydd yn eu hatgyfodi yn y byd newydd sydd i ddod.—Ioan 5:28, 29; Actau 24:15.

Mae miliynau o bobl wedi dechrau paratoi i fyw o dan Deyrnas Dduw sydd ar y gorwel. Er eu bod nhw’n amherffaith, maen nhw eisoes yn ceisio bod y math o berson mae Duw eisiau yn ei fyd newydd. Sut? Drwy ddysgu am Jehofa Dduw, a’r un gwnaeth ef ei anfon, Iesu Grist.—Ioan 17:3.

Dysgwch fwy am sut gallwch chi oroesi diwedd y byd hwn a byw yn y byd gwell sydd ar y gorwel. Beth am drio cwrs rhyngweithiol am y Beibl am ddim gydag un o Dystion Jehofa, gan ddefnyddio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!