Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y FFORDD I HAPUSRWYDD

Maddeuant

Maddeuant

“YN YSTOD FY MHLENTYNDOD, CLYWAIS LOT O WEIDDI A SGRECHIAN,” meddai Patricia. “Wnes i ddim dysgu sut i faddau. Hyd yn oed ar ôl tyfu i fyny, roeddwn i’n hel meddyliau am bethau negyddol am ddiwrnodau, ac yn colli cwsg.” Yn wir, dydy bywyd sy’n llawn dicter ddim yn un hapus nac yn un iach. Mae astudiaethau yn dangos bod pobl sy’n gwrthod maddau yn gallu . . .

  • Gadael i chwerwder a dicter droi perthynas yn sur, gan wneud i’r unigolyn deimlo’n unig

  • Bod yn groendenau, yn bryderus, ac yn isel iawn eu hysbryd

  • Canolbwyntio gymaint ar y cam fel nad ydyn nhw’n gallu mwynhau bywyd

  • Tynnu’n groes i’w gwerthoedd ysbrydol

  • Dioddef mwy o stres a pheryglu eu hiechyd, sefyllfa a all arwain at broblemau sy’n cynnwys pwysau gwaed uchel, clefydau’r galon, ac anhwylderau poenus fel arthritis a chur pen *

BETH YW MADDEUANT? Maddau rhywun sydd wedi pechu yn eich erbyn, a dewis peidio â dal dig o unrhyw fath. Nid yw’n golygu cau llygad ar ddrwgweithredu, ei drin yn ysgafn, na chymryd arnoch nad ydy’r peth wedi digwydd yn y lle cyntaf. Yn hytrach, mae maddeuant yn ddewis personol y mae rhywun wedi meddwl yn ofalus amdano ac sy’n dangos sut rydych chi’n teimlo am gadw heddwch a meithrin perthynas dda â phobl eraill.

Mae maddeuant hefyd yn dangos dealltwriaeth. Mae person maddeugar yn deall ein bod ni i gyd yn pechu mewn gair a gweithred. (Rhufeiniaid 3:23) Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud: “Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai.”—Colosiaid 3:13.

Nid yw’n syndod felly fod maddau yn agwedd bwysig ar gariad, sy’n “clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd.” (Colosiaid 3:14) Yn wir, yn ôl gwefan y Mayo Clinic, mae maddeuant yn gallu . . .

  • Cyfrannu at berthynas iach rhwng pobl, a chreu teimladau o gydymdeimlad, dealltwriaeth, a thrugaredd tuag at y sawl sydd wedi pechu yn ein herbyn

  • Gwella lles ysbrydol a meddyliol

  • Lleihau stres, gorbryder, a gelyniaeth

  • Arwain at lai o symptomau iselder

MADDAU I CHI’CH HUN. Y math hwn o faddeuant ydy’r un “mwyaf anodd ichi ei gyflawni,” ond eto yr un “sy’n fwyaf pwysig o ran iechyd”—eich iechyd meddwl a chorfforol—meddai’r cyfnodolyn Disability & Rehabilitation. Beth all eich helpu i faddau i chi’ch hun?

  • Peidiwch â disgwyl perffeithrwydd gennych chi’ch hun, gan dderbyn eich bod chi—fel pawb arall—yn mynd i wneud camgymeriadau.—Pregethwr 7:20

  • Dysgwch oddi wrth eich camgymeriadau er mwyn peidio â’u hailadrodd

  • Byddwch yn amyneddgar â chi’ch hun; ni fydd rhai gwendidau nac arferion drwg yn diflannu dros nos.—Effesiaid 4:23, 24

  • Sicrhewch eich bod chi’n cymdeithasu â ffrindiau caredig a chadarnhaol sy’n mynd i’ch annog chi ond eto sy’n mynd i siarad yn onest â chi.—Diarhebion 13:20

  • Os ydych chi’n brifo rhywun, byddwch yn barod i gyfaddef hynny ac ymddiheurwch yn syth. Bydd cadw heddwch yn rhoi heddwch mewnol i chithau hefyd.—Mathew 5:23, 24

MAE EGWYDDORION Y BEIBL YN GWEITHIO!

Ar ôl astudio’r Beibl, gwnaeth Patricia, a ddyfynnwyd ar y cychwyn, ddysgu sut i faddau. “Rwy’n teimlo fy mod i wedi cael fy rhyddhau o’r dicter a oedd yn gwenwyno fy mywyd,” ysgrifennodd. “Dydw i ddim yn dioddef mwyach, a dydw i ddim yn gwneud i eraill ddioddef. Mae egwyddorion y Beibl yn cadarnhau bod Duw yn ein caru ac eisiau’r gorau inni.”

Dywedodd dyn o’r enw Ron: “Doeddwn i ddim yn gallu rheoli meddyliau na gweithredoedd pobl eraill. Ond roeddwn i’n gallu rheoli rhai fi fy hun. Os oeddwn i eisiau heddwch, roedd yn rhaid imi ollwng fy ngafael ar ddicter. Dyma fi’n dod i ddeall bod heddwch a dicter fel y gogledd a’r de. Doeddwn i ddim yn gallu bod yn y ddau le ar yr un pryd. Mae gen i, erbyn hyn, gydwybod lân.”

^ Par. 8 Cyfeiriadau: Gwefannau Mayo Clinic a Johns Hopkins Medicine a’r cyfnodolyn Social Psychiatry and Psychiatric Epidemiology.