Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y FFORDD I HAPUSRWYDD

Iechyd Corfforol a Dycnwch

Iechyd Corfforol a Dycnwch

GALL IECHYD GWAEL CRONIG NEU ANABLEDD GAEL EFFAITH FAWR AR FYWYD PERSON. Ar ôl cael ei barlysu, mae Ulf, dyn a oedd ar un adeg yn iach, yn dweud: “Dechreuais ddioddef o iselder ofnadwy. Doedd gen i ddim cryfder, dewrder, nac unrhyw nerth ar ôl . . . ac roeddwn i’n teimlo fel roedd fy myd ar ben.”

Mae profiad Ulf yn dangos nad oes gan neb reolaeth lwyr dros ei iechyd. Ond eto, mae’n bosib inni gymryd camau i leihau’r risg o fynd yn sâl. Ond beth petai ein hiechyd yn dirywio? Ydy hynny yn ein condemnio ni i fywyd anhapus? Ddim o gwbl, fel y byddwn ni’n gweld. Yn gyntaf, gadewch inni ystyried rhai egwyddorion sy’n hyrwyddo iechyd da.

“YMDDWYN YN GYFRIFOL.” (1 Timotheus 3:2, 11) Wrth gwrs, mae gorfwyta neu oryfed drwy’r amser yn ddrwg i’n hiechyd—heb sôn am yr effaith ar ein poced! “Paid cael gormod i’w wneud gyda’r rhai sy’n goryfed, ac yn stwffio eu hunain hefo bwyd. Bydd y rhai sy’n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd.”—Diarhebion 23:20, 21.

PEIDIWCH Â LLYGRU EICH CORFF. “Gadewch i ni lanhau’n hunain o unrhyw beth allai’n gwneud ni’n aflan.” (2 Corinthiaid 7:1) Mae pobl yn halogi eu cyrff pan fyddan nhw’n cnoi neu’n smocio tybaco neu’n camddefnyddio alcohol neu gyffuriau. Mae ysmygu, er enghraifft, “yn arwain at afiechydon ac anabledd ac yn niweidio bron pob un o organau’r corff,” meddai Canolfannau yr Unol Daleithiau ar gyfer Rheoli ac Atal Afiechydon.

YSTYRIED EICH CORFF A’CH BYWYD YN ANRHEGION GWERTHFAWR. “Dŷn ni’n byw, yn symud ac yn bod” oherwydd Duw. (Actau 17:28) Mae cydnabod hynny yn ein hannog ni i beidio â mentro ein bywydau, p’un a ydyn ni yn y gweithle, yn gyrru’r car, neu’n mwynhau ein hamser hamdden. Dydy teimlo gwefr dros dro ddim yn werth gorfod byw gweddill eich oes yn anabl!

RHEOLI EMOSIYNAU NEGYDDOL. Mae eich meddwl a’ch corff yn gweithio’n agos iawn. Felly, ceisiwch osgoi poeni’n ddiangen, gwylltio’n wirion, cenfigennu, ac emosiynau niweidiol eraill. “Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer,” meddai Salm 37:8. Rydyn ni hefyd yn darllen: “Peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw.”—Mathew 6:34.

CANOLBWYNTIO AR FEDDWL YN BOSITIF. “Mae ysbryd tawel yn iechyd i’r corff,” meddai Diarhebion 14:30. Mae’r Beibl hefyd yn dweud: “Mae llawenydd yn iechyd i’r corff.” (Diarhebion 17:22) Mae hwnnw’n ddatganiad sy’n wyddonol ddibynadwy. “Os wyt ti’n hapus,” meddai doctor yn yr Alban, “mi wyt ti’n fwy tebygol yn y dyfodol o fod yn fwy iach na’r rhai sy’n anhapus.”

MEITHRIN DYCNWCH. Fel y dywedodd Ulf gynnau, pan fydd anawsterau yn parhau, mae’n rhaid i ninnau ddyfalbarhau. Ond eto gallwn feddwl am ffyrdd i ymdopi. Mae rhai yn cael eu llethu gan ddigalondid, rhywbeth sydd ond yn gwneud y sefyllfa’n waeth. “Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau, mae gen ti angen mwy o nerth,” meddai Diarhebion 24:10.

Mae eraill, ar ôl cael eu llorio gan deimladau o anobaith, yn llwyddo i gael eu traed danyn nhw unwaith eto. Maen nhw’n addasu ac yn dysgu sut i ymdopi. Dyna oedd yn wir am Ulf. Roedd yn dweud ei fod, ar ôl gweddïo a myfyrio cryn dipyn ar neges gadarnhaol y Beibl, “wedi dechrau gweld cyfleoedd yn hytrach na rhwystrau.” Ar ben hynny, fel llawer sydd wedi gorfod dioddef o dan brawf, dysgodd wersi pwysig am drugaredd a chydymdeimlad, a gwnaeth hyn ei annog i rannu neges gysurus y Beibl ag eraill.

Person arall sydd wedi dioddef cryn dipyn ydy Steve. Pan oedd yn 15 oed, cafodd ddamwain ac oherwydd hynny roedd wedi ei barlysu o’r gwddf i lawr. Erbyn iddo droi’n 18 oed, roedd yn gallu defnyddio ei freichiau unwaith eto. Yna, aeth i’r brifysgol a dechreuodd gymryd cyffuriau, goryfed, a chyflawni anfoesoldeb rhywiol. Doedd ganddo ddim gobaith—nes iddo ddechrau astudio’r Beibl, a rhoddodd hynny iddo agwedd newydd ar fywyd yn ogystal â’i helpu i drechu ei arferion drwg. “Roedd y gwacter a oedd wedi bod yn fy mywyd am gyfnod mor hir wedi mynd,” meddai. “Bellach, mae fy mywyd yn llawn heddwch, hapusrwydd, a bodlondeb.”

Mae sylwadau Steve ac Ulf yn ein helpu i gofio geiriau Salm 19:7, 8: “Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith—mae’n rhoi bywyd newydd i mi! . . . Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy’n iawn ac yn gwneud y galon yn llawen. Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn bur ac yn ein goleuo ni.”