Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Francesco Carta fotografo/Moment via Getty Images

Unigrwydd ar Gynnydd—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Unigrwydd ar Gynnydd—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Yn ôl un arolwg diweddar a a oedd yn holi pobl mewn gwahanol rannau o’r byd, mae un ym mhob pedwar o bobl yn teimlo’n unig.

  •   “Mae unigedd cymdeithasol yn gallu effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oedran, yn unrhyw le.”​—Chido Mpemba, cyd-gadeirydd Comisiwn ar Gyswllt Cymdeithasol Sefydliad Iechyd y Byd.

 Yn groes i’r hyn mae llawer yn ei gredu, mae unigrwydd yn effeithio ar bobl ifanc, pobl iach, pobl lwyddiannus, a phobl briod, yn ogystal â’r rhai mewn oed a’r rhai sy’n byw ar eu pen ei hunain. Mae unigedd cymdeithasol ac unigrwydd yn gallu effeithio’n ddifrifol ar ein hiechyd corfforol ac emosiynol.

  •   “Mae unigrwydd yn llawer mwy na theimlad annifyr,” meddai Dr. Vivek Murthy, llawfeddyg cyffredinol UDA. Mae’n ychwanegu: “O ran marwolaethau, mae effaith diffyg cyswllt cymdeithasol yn debyg i effaith ysmygu hyd at 15 sigaréts y dydd.”

Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

 Nid yw’r Creawdwr yn dymuno inni fod yn unig. Pwrpas Duw yw i bobl gael ffrindiau da a chael pleser o gymdeithasu.

  •   Egwyddor o’r Beibl: “Dywedodd Jehofa Dduw: ‘Dydy hi ddim yn beth da i’r dyn barhau i fod ar ei ben ei hun.’”​—Genesis 2:18.

 Mae Jehofa’n dymuno inni gael perthynas agos ag ef. Mae’n addo nesáu aton ni os ydyn ni’n ceisio nesáu ato ef.​—Iago 4:8.

  •   Egwyddor o’r Beibl: “Hapus ydy’r rhai sy’n ymwybodol fod ganddyn nhw angen ysbrydol, oherwydd bod Teyrnas y nefoedd yn perthyn iddyn nhw.”​—Mathew 5:3.

 Mae Duw yn dymuno inni ei addoli yng nghwmni pobl eraill. Mae gwneud hynny yn ein helpu ni i deimlo’n hapusach.

  •   Egwyddor o’r Beibl: “Gadewch inni ystyried ein gilydd er mwyn inni annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud pethau da, heb esgeuluso ein cyfarfodydd, . . . ond calonogi ein gilydd.”—Hebreaid 10:24, 25.

 Am fwy o wybodaeth am pam mae’n bwysig mynd i’r afael ag unigrwydd, darllenwch yr erthygl “Loneliness in a World of Mass Connection.”

a The Global State of Social Connections, by Meta and Gallup, 2023.