Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Ymdopi â Hunan-Ynysu

Sut i Ymdopi â Hunan-Ynysu

 Ydych chi’n teimlo ar wahân ac yn unig? Os felly, rydych chi’n teimlo fel y salmydd a ddywedodd: “Dw i fel aderyn unig ar ben tŷ.” (Salm 102:7) Gall doethineb y Beibl eich helpu i ymdopi â’r problemau sy’n codi wrth hunan-ynysu.

 Closio at Dduw

 Hyd yn oed pan ydych ar eich pen eich hun, gallwch fod yn hapus drwy gydnabod bod angen ichi glosio at Dduw ac yna cymryd y camau i gyflawni hyn. (Mathew 5:3, 6, NWT) Gall yr adnoddau canlynol eich helpu—ar gael yn rhad ac am ddim.

Darllen adnodau cysurus o’r Beibl

  Mae’r Ysgrythurau canlynol wedi dod â chysur i lawer o bobl. Yn lle darllen sawl darn ar y tro, manteisiwch ar y cyfle o fod ar eich pen eich hun i fyfyrio ar ddarnau bach yn y Beibl ac i weddïo.—Marc 1:35.

Deall pam mae pethau drwg yn digwydd yn y byd

  Gallwch lwyddo mewn sefyllfa anodd os ydych yn gwybod pam mae pethau drwg yn digwydd a sut bydd Duw yn eu datrys.—Eseia 65:17.

Osgoi pryder diangen

 Bydd erthyglau ar y pynciau canlynol yn eich helpu i ymdopi â straen sy’n cael ei achosi gan hunan-ynysu ac i beidio â phryderu.—Mathew 6:25.

Meithrin ffrindiau da

 Mae ffrindiau da yn cael effaith bositif ar eich iechyd meddyliol ac emosiynol. Ac mae’r rhain yn bwysicach byth pan mae’n anodd cysylltu â phobl wyneb yn wyneb. Os mae’n rhaid ichi aros yn eich tŷ, gallwch alw eich ffrindiau ar y ffôn neu fideo a gallwch wneud ffrindiau newydd hefyd. Gall yr erthyglau canlynol eich helpu i wneud ffrindiau da a bod yn ffrind da i eraill.—Diarhebion 17:17.

Mae ymarfer corff yn bwysig

 Mae’r Beibl yn dweud bod “ymarfer corff yn beth da.” (1 Timotheus 4:8) Gall hyn gael effaith bositif ar eich iechyd meddyliol, yn enwedig wrth hunan-ynysu. Hyd yn oed pan mae’n rhaid aros yn eich tŷ, gallwch ddod o hyd i bethau i wneud er mwyn cadw’n heini.