Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 13

Crist, Ein Hesiampl

Crist, Ein Hesiampl

(1 Pedr 2:21)

  1. 1. O’i gariad, rhoddodd Duw

    Ei Fab dros ddynol ryw—

    Ei Fab anwylaf, Ei gyntaf-anedig.

    I’r ddaear hon daeth Crist,

    Yn gaethwas ac yn dyst.

    Esiampl berffaith yw Iesu i ni.

  2. 2. Crist gafodd nerth i fyw

    Drwy fwydo ar Air Duw;

    Datblygodd ddeall, doethineb, a gallu.

    Gosododd batrwm da

    O blesio’n fawr ei Dad.

    Meddylfryd Iesu sy’n enghraifft i ni.

  3. 3. Wrth efelychu Crist,

    Gwir gariad yw ein gwisg,

    A chawn y pleser o blesio Jehofa.

    Boed i ni roi mawrhad

    I Dduw ein nefol Dad,

    A dilyn ôl traed Crist Iesu bob cam.