Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 12

Mawr Dduw, Jehofa

Mawr Dduw, Jehofa

(Exodus 34:6, 7)

  1. 1. Mawr Dduw, Jehofa, nef yw’th breswylfa.

    Barnau cyfiawn gennyt sy’;

    Canu wnawn dy foliant di.

    Crëwr y bydoedd, mawr dy weithredoedd—

    Haeddu rwyt pob clod a bri.

  2. 2. Tad wyt sy’n caru’n dyner ei blantos;

    At ‘Wrandawr gweddi’ trown,

    Calon dyner Duw cyffrown.

    Darllen, myfyrio, ceisiwn dy blesio;

    Am dy help, mawr ddiolch rhown.

  3. 3. “Teilwng o’r clod, y nerth a’r anrhydedd

    Wyt, ein Harglwydd Iôr a’n Duw,”

    Cana nef a dynol-ryw.

    Mawr Dduw Jehofa, craig wyt a noddfa,

    Derbyn fawl dy weision triw.

(Gweler hefyd Deut. 32:4; Diar. 16:12; Math. 6:10; Dat. 4:11)