Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Y Wobr Orau Oll

Y Wobr Orau Oll
  • GANWYD 1967

  • GWLAD ENEDIGOL Y FFINDIR

  • HANES CHWARAEWR TENNIS PROFFESIYNOL

FY NGHEFNDIR

 Cefais fy magu mewn ardal ddistaw, braf ar gyrion Tampere, yn y Ffindir. Doedden ni ddim yn rhy grefyddol fel teulu, ond roedd addysg a chwrteisi yn bwysig iawn. Almaenes yw fy mam, a phan oeddwn i’n fach, bydden ni’n treulio amser o bryd i’w gilydd yng Ngorllewin yr Almaen, lle roedd Nain a Taid yn byw.

 Rydw i’n mwynhau chwaraeon ers imi fod yn blentyn. Yn fachgen, roeddwn i’n ymuno ym mhob math o chwaraeon, ond pan oeddwn i tua 14, penderfynais ganolbwyntio ar chwarae tennis. Erbyn imi droi’n 16 oed, roeddwn i’n gwneud dau sesiwn hyfforddi proffesiynol bob dydd, ac yn ymarfer ar fy mhen fy hun gyda’r nos. Roeddwn i wedi gwirioni ar bob agwedd ar y gêm; roedd tennis yn her i fy nghorff a fy meddwl. Er imi fwynhau mynd allan gyda ffrindiau a chael ambell i gwrw bob hyn a hyn, doeddwn i byth yn cymryd cyffuriau nac yn goryfed. Roedd fy holl fywyd yn troi o gwmpas tennis.

 Dechreuais chwarae mewn twrnameintiau ATP pan oeddwn i’n 17 oed. a Ar ôl ennill nifer o dwrnameintiau, roeddwn i’n enwog drwy’r wlad. Yn 22 oed, roeddwn i’n un o’r 50 chwaraewr tennis gorau yn y byd.

 Am flynyddoedd, roeddwn i’n teithio’r byd yn chwarae tennis proffesiynol. Gwelais lefydd hynod o ddiddorol, ond sylwais hefyd ar y problemau ofnadwy sy’n wynebu’r byd, gan gynnwys materion amgylcheddol, troseddu, a’r camddefnydd o gyffuriau. Roedd hyn i gyd yn fy mhoeni. Ar ben hynny, er fy mod i wrth fy modd yn chwarae tennis, ar ddiwedd y dydd roeddwn i’n teimlo’n wag y tu mewn.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Roedd fy nghariad Sanna wedi dechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Braidd yn ddoniol imi oedd gweld bod ganddi ochr grefyddol, ond roeddwn i’n ddigon hapus iddi hi astudio. Priodon ni ym 1990, a chafodd hi ei bedyddio’n un o Dystion Jehofa y flwyddyn wedyn. Yn bersonol, doeddwn i ddim yn gweld fy hun yn ddyn crefyddol, ond roeddwn i’n credu yn Nuw. Cofiais fod Nain yn yr Almaen yn darllen y Beibl yn aml, ac roedd hi hyd yn oed wedi dysgu imi sut i weddïo.

 Un diwrnod, pan oedd Sanna a minnau’n ymweld â chwpl sy’n Dystion Jehofa, fe wnaeth Kari, y gŵr, ddangos imi broffwydoliaeth yn y Beibl sy’n sôn am y “cyfnod olaf.” (2 Timotheus 3:​1-5) Roedd hynny’n taro deuddeg, gan ei fod yn esbonio pam mae’r byd mewn cyflwr mor ddrwg. Wnaethon ni ddim sôn llawer mwy am grefydd y diwrnod hwnnw, ond o hynny ymlaen dechreuais drafod y Beibl gyda Kari. Roedd popeth a ddysgais yn gwneud synnwyr. Oherwydd fy mywyd prysur a’r holl deithio, roedd hi’n anodd inni gyfarfod yn rheolaidd, ond doedd Kari ddim yn digalonni. Fe fyddai’n nodi’r cwestiynau a godais yn ein sesiynau astudio, ac yna’n eu hateb drwy’r post. Cefais atebion rhesymegol yn y Beibl i gwestiynau mawr bywyd, ac yn araf deg gwelais fod thema i’r Beibl, sef y bydd pwrpas Duw yn cael ei gyflawni drwy fodd ei Deyrnas. Dysgais enw Duw, Jehofa, a gwelais bopeth y mae wedi’i gwneud droson ni, ac roedd hynny yn gwneud argraff fawr arna i. (Salm 83:18, Y Beibl Cysegr-lân) Ond yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf oedd aberth Iesu. Nid cam cyfreithiol dideimlad oedd hynny, ond ffordd Duw o ddangos ei gariad tuag aton ni. (Ioan 3:​16) Dysgais hefyd fod cyfle i mi ddod yn ffrind i Dduw, a byw am byth mewn paradwys heddychlon. (Iago 4:8) Dechreuais ofyn i mi fy hun, “Sut galla’ i ddangos i Dduw fy mod i’n ddiolchgar iddo?”

 Edrychais o ddifri ar fy mywyd. Roeddwn i’n dysgu o’r Beibl mai rhoi yw cyfrinach hapusrwydd, ac roedd gen i awydd i rannu fy ffydd ag eraill. (Actau 20:35) Fel athletwr proffesiynol, roeddwn i oddi cartref am tua 200 diwrnod y flwyddyn yn cystadlu mewn twrnameintiau. Fi oedd canolbwynt holl fywyd y teulu​—fy hyfforddiant, fy nhrefn ddyddiol, fy ngyrfa. Sylweddolais fod rhaid i rywbeth newid.

 Gwyddwn na fyddai pawb yn deall fy mhenderfyniad i roi’r gorau i yrfa lwyddiannus ym myd chwaraeon am resymau crefyddol. Ond roedd y cyfle i adnabod Jehofa a chael bywyd tragwyddol yn well nag unrhyw wobr y gallai tennis ei gynnig, felly roedd y penderfyniad yn un eithaf hawdd. Roeddwn i’n benderfynol na fyddwn yn cymryd dim sylw o’r pethau y byddai pobl eraill yn eu dweud​—fi oedd biau’r dewis. Un adnod a oedd yn help arbennig i wrthod y pwysau oedd Salm 118:6: “Mae’r ARGLWYDD ar fy ochr, felly fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?”

 Tua’r un pryd, cefais gynnig hynod o dda gan rai o’m noddwyr. Byddai wedi caniatáu i mi chwarae tennis proffesiynol am flynyddoedd heb ddim pryderon ariannol. Sut bynnag, roeddwn i wedi penderfynu ac felly gwrthodais y cynnig a rhoi’r gorau i chwarae mewn twrnameintiau ATP. Fe wnes i barhau i astudio’r Beibl ac ar 2 Gorffennaf, 1994, cefais fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.

FY MENDITHION

 Yn fy achos i, nid trychineb personol a wnaeth i mi feddwl am Dduw. Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n chwilio am y gwirionedd. Yn wir, roeddwn i’n teimlo bod bywyd yn braf ac nad oeddwn i’n gallu gofyn am fwy. Yn hollol annisgwyl, roeddwn i wedi darganfod ystyr dyfnach mewn bywyd. Roedd fel petai gwirionedd y Beibl wedi bod yno trwy’r amser yn aros i mi ddod o hyd iddo. Ers hynny mae bywyd yn well nag erioed! Mae’r teulu yn gryfach ac yn fwy unedig. Ac rydw i wrth fy modd bod y tri mab wedi dilyn fy esiampl​—nid ym myd chwaraeon ond fel Cristnogion.

 Rydw i’n dal i fwynhau chwarae tennis. Ar hyd y blynyddoedd rydw i wedi ennill bywoliaeth drwy weithio ym maes tennis fel hyfforddwr ac fel rheolwr canolfan tennis. Ond nid chwaraeon yw canolbwynt fy mywyd bellach. Yn y gorffennol roeddwn i’n treulio oriau bob wythnos yn ymarfer er mwyn bod yn bencampwr. Ond heddiw, rydw i’n cyhoeddi’r newyddion da yn llawn amser. Rydw i mor hapus i helpu pobl eraill i ddysgu am y Beibl a rhoi ar waith yr egwyddorion a newidiodd fy mywyd. A’r peth sy’n rhoi’r hapusrwydd mwyaf i mi yw fy mherthynas â Jehofa Dduw a rhannu fy ngobaith am ddyfodol gwell ag eraill.​—1 Timotheus 6:​19.

a Ystyr ATP yw Association of Tennis Professionals. Hwn yw’r corff llywodraethol sy’n trefnu cylchdeithiau tennis proffesiynol i ddynion. Mae cylchdaith yr ATP yn cynnwys sawl twrnamaint proffesiynol sy’n rhoi pwyntiau a gwobrau ariannol i’r enillwyr. Mae safle y chwaraewr ym myd tennis yn dibynnu ar gyfanswm y pwyntiau a enillir.