Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

“Crefftau Ymladd Oedd Fy Mhasiwn”

“Crefftau Ymladd Oedd Fy Mhasiwn”
  • Ganwyd: 1962

  • Gwlad Enedigol: Yr Unol Daleithiau

  • Hanes: Yn frwdfrydig am grefftau ymladd

FY NGHEFNDIR

 O’n i wedi brifo fy mhartner sbario yn fwy nag yr oeddwn i’n disgwyl. O’n i wedi ei gicio yn ei drwyn mewn camgymeriad. O’n i’n teimlo’n euog, a wnes i ddechrau meddwl a ddylwn i barhau i ymarfer crefftau ymladd. Pam dylai’r camgymeriad yma wneud imi gwestiynu rhywbeth oeddwn i’n ei garu gymaint? Yn gyntaf, gadewch imi esbonio sut des i i fod mor frwdfrydig am grefftau ymladd.

 Wnes i dyfu i fyny yn ardal Buffalo, Efrog Newydd, UDA, mewn teulu Catholig heddychlon a selog. Es i i ysgolion Catholig ac mi o’n i’n was allor. Roedd fy rhieni eisiau i fy chwaer a minnau lwyddo mewn bywyd. Felly, roedden nhw’n gadael imi wneud chwaraeon ar ôl yr ysgol neu weithio’n rhan amser ar yr amod fy mod i’n cael marciau da yn yr ysgol. Oherwydd hynny, wnes i feithrin hunanddisgyblaeth yn gynnar yn fy mywyd.

 Pan o’n i’n 17, wnes i ddechrau astudio crefftau ymladd. Am lawer o flynyddoedd o’n i’n ymarfer am dair awr y dydd, chwe diwrnod yr wythnos. Bob wythnos o’n i hefyd yn treulio oriau yn ymarfer technegau a symudiadau yn fy meddwl ac yn gwylio fideos ar sut i wella. O’n i’n hoffi ymarfer gyda mwgwd dros fy llygaid, hyd yn oed pan o’n i’n ymarfer gydag arfau. O’n i’n gallu torri bordiau neu frics gydag un trawiad. O’n i’n un o’r goreuon yn y maes, ac mi wnes i ennill llawer o gystadlaethau. Crefftau ymladd oedd bwysicaf yn fy mywyd.

 O’n i’n meddwl fy mod i’n llwyddiannus. Wnes i raddio o’r brifysgol gydag anrhydedd. O’n i’n gweithio i gwmni mawr fel peiriannydd systemau cyfrifiadurol. Oedd gen i dŷ fy hun a chariad. Roedd fy mywyd yn edrych yn wych ar y wyneb, ond roedd gen i gwestiynau mawr am fywyd.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Er mwyn cael atebion i fy nghwestiynau, wnes i ddechrau mynd i’r eglwys ddwywaith yr wythnos a gweddïo ar Dduw am help. Ond un diwrnod, ges i sgwrs gyda ffrind, a gwnaeth hynny newid fy mywyd. “Wyt ti erioed wedi meddwl pam ’dyn ni yma?” gofynnais, gan ychwanegu, “Mae ’na gymaint o broblemau ac anghyfiawnder!” Dywedodd fy ffrind ei fod wedi gofyn cwestiynau tebyg ac wedi cael atebion yn y Beibl oedd yn gwneud synnwyr. Rhoddodd lyfr imi o’r enw You Can Live Forever in Paradise on Earth. a Esboniodd ei fod wedi bod yn astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. O’n i’n gyndyn o dderbyn y llyfr i ddechrau oherwydd oeddwn i’n meddwl na ddylwn i ddarllen llenyddiaeth o grefydd arall. Ond, gwnaeth fy awydd i wybod yr atebion i fy nghwestiynau wneud imi edrych os oedd yr hyn oedd y Tystion yn ei ddysgu yn gwneud synnwyr.

 Ces i fy synnu pan wnes i ffeindio allan beth oedd y Beibl yn ei ddysgu. Dysgais mai pwrpas gwreiddiol Duw oedd i bobl fyw am byth ar baradwys ddaear, a bod pwrpas Duw ddim wedi newid. (Genesis 1:28) Wnes i synnu hefyd o weld enw Duw, Jehofa, yn fy nghopi personol o Feibl y Brenin Iago, ac i ddysgu mai dyma ydy’r enw o’n i wedi bod yn gweddïo amdano wrth adrodd Gweddi’r Arglwydd. (Salm 83:18, BC; Mathew 6:9) Ar ben hynny, des i i ddeall o’r diwedd pam mae Duw yn caniatáu i bobl ddioddef ar hyn o bryd. Roedd popeth o’n i’n ei ddysgu yn gwneud gymaint o synnwyr! O’n i wrth fy modd.

 Wna i byth anghofio sut o’n i’n teimlo pan wnes i ddechrau mynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Roedd pawb yn gyfeillgar ac eisiau gwybod fy enw. Yn fy nghyfarfod cyntaf, roedd ’na anerchiad cyhoeddus arbennig am y math o weddïau mae Duw yn gwrando arnyn nhw. Roedd gen i ddiddordeb yn y pwnc hwnnw gan fy mod i wedi bod yn gweddïo ar Dduw am help. Nesaf, es i i Goffadwriaeth marwolaeth Iesu. Yn y cyfarfodydd hyn, o’n i’n rhyfeddu i weld bod hyd yn oed y plant yn dilyn yn y Beibl. I gychwyn doeddwn i ddim yn siŵr sut i ffeindio’r adnodau, ond roedd y Tystion yn barod i helpu ac i fy nysgu sut i ddefnyddio’r Beibl.

 Wrth imi fynd i fwy o gyfarfodydd, des i i werthfawrogi safon uchel o ddysgu y Tystion yn fawr iawn. Wnes i ddysgu gymaint ym mhob cyfarfod, ac o’n i wastad yn gadael yn teimlo fy mod i wedi cael fy adfywio a fy nghalonogi. Yna, ges i gynnig Astudiaeth Feiblaidd bersonol.

 Roedd yr hyn o’n i’n ei weld ymysg Tystion Jehofa yn hollol wahanol i beth o’n i’n ei weld yn fy eglwys i. O’n i’n sylwi bod ’na undod rhwng y Tystion a’u bod nhw’n trio eu gorau i blesio Duw. Des i’n sicr mai gwir Gristnogion oedden nhw am eu bod nhw’n dangos cariad tuag at ei gilydd.​—Ioan 13:35.

 Y mwyaf o’n i’n astudio’r Beibl, y mwyaf o newidiadau o’n i’n eu gwneud er mwyn byw yn ôl safonau’r Beibl. Ond, o’n i’n teimlo fy mod i ddim yn gallu rhoi’r gorau i grefftau ymladd. O’n i wrth fy modd yn ymarfer a chystadlu. Pan wnes i ddweud hynny wrth y Tyst oedd yn astudio’r Beibl gyda fi, dywedodd wrtho i yn garedig, “Dalia ati i astudio a dw i’n gwybod byddi di’n gwneud y penderfyniad iawn.” Dyna’n union o’n i angen ei glywed. Y mwyaf o’n i’n astudio, y mwyaf o’n i eisiau plesio Jehofa Dduw.

 Trobwynt i mi oedd y ddamwain wnes i sôn amdani ar y cychwyn, pan wnes i gicio fy mhartner sbario yn ei drwyn. Gwnaeth y ddamwain honno wneud imi feddwl os oeddwn i’n gallu bod yn un o ddilynwyr heddychlon Crist petaswn i’n parhau i ymarfer crefftau ymladd. O’n i wedi dysgu bod Eseia 2:3, 4 yn rhagfynegi bydd y rhai sy’n dilyn cyfarwyddyd Jehofa “ddim yn ymladd.” A hefyd, gwnaeth Iesu ddysgu eraill i beidio â throi at drais hyd yn oed pan oedden nhw’n cael eu trin yn annheg. (Mathew 26:52) Felly, wnes i roi’r gorau i’r crefftau o’n i mor hoff ohonyn nhw.

 Ar ôl hynny, wnes i ddilyn cyngor y Beibl “i fyw fel mae Duw am iti fyw.” (1 Timotheus 4:7) Bellach, o’n i’n defnyddio’r holl amser ac egni o’n i’n arfer rhoi i grefftau ymladd er mwyn closio at Dduw a’i wasanaethu. Doedd fy nghariad ddim yn cytuno â beth o’n i’n ei ddysgu o’r Beibl, felly gwnaethon ni wahanu. Ces i fy medyddio ar Ionawr 24, 1987. Yn fuan wedyn, wnes i ddechrau pregethu’n llawn amser, yn gwirfoddoli fy amser i ddysgu’r Beibl i eraill. Dw i wedi aros yn y weinidogaeth llawn amser ers hynny, ac wedi gwasanaethu am gyfnod ym mhencadlys Tystion Jehofa yn Efrog Newydd, UDA.

FY MENDITHION

 Nawr fy mod i’n gwybod y gwir am Dduw dw i wedi cael hyd i beth oedd ar goll yn fy mywyd. Dydw i ddim yn teimlo’n wag bellach. Yn hytrach, mae gen i fywyd llawn ystyr, mae gen i obaith go iawn am y dyfodol, a dw i’n hapus dros ben. Dw i dal yn mwynhau ymarfer corff yn rheolaidd, ond nid dyna’r peth pwysicaf i mi bellach. Y flaenoriaeth yn fy mywyd ydy gwasanaethu Jehofa Dduw.

 Pan o’n i’n ymarfer crefftau ymladd, o’n i wastad yn effro i bwy oedd o nghwmpas, ac yn meddwl am sut i amddiffyn fy hun petasai rhywun yn ymosod arna i. Heddiw, dw i dal yn effro i bwy sydd o nghwmpas, ond am reswm gwahanol—i’w helpu nhw. Mae’r Beibl wedi fy helpu i fod yn berson hael, ac yn ŵr gwell i fy ngwraig brydferth, Brenda.

 Crefftau ymladd oedd fy mhasiwn, ond dw i wedi eu newid am rywbeth gwell. Mae’r Beibl yn ei dweud hi orau: “Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach—mae’n dda i ti yn y bywyd hwn a’r bywyd sydd i ddod.”—1 Timotheus 4:8.

a Cyhoeddwyd gan Dystion Jehofa ond bellach allan o brint.