Neidio i'r cynnwys

Dathliad a Gwybodaeth ar Gyfer Brodorion Cynhenid America yn Efrog Newydd

Dathliad a Gwybodaeth ar Gyfer Brodorion Cynhenid America yn Efrog Newydd

Mae llawer o bobl yn tybio bod y rhan fwyaf o Indiaid, neu Frodorion Cynhenid America, yn byw ar warchodfeydd mewn rhannau mwy gwledig y wlad. Ond y ffaith amdani yw, mae dros 70 y cant o’r rhai sydd o dras y Brodorion yn byw mewn trefi a dinasoedd. Rhoddodd dinas fwyaf yr Unol Daleithiau, Efrog Newydd, groeso i “Gateway to Nations” (Porth y Cenhedloedd), dathliad a powwow y Brodorion Cynhenid, o 5-7 Mehefin, 2015. a Pan ddaeth yr achlysur i sylw rhai o Dystion Jehofa yn Efrog Newydd, aethon nhw ati yn syth i wneud cynlluniau i fod yno. Pam?

Mae Tystion Jehofa yn cyfieithu llenyddiaeth wedi ei seilio ar y Beibl i gannoedd o ieithoedd, gan gynnwys llawer o ieithoedd Brodorol America, fel Sicsicá (iaith y Traed Duon), Dacota, Hopi, Mohoceg, Nafaho, Odawa, a Chri’r Paith. Felly gosododd y Tystion byrddau a throlïau llenyddiaeth yn yr ŵyl “Gateway to Nations” er mwyn dangos yr amrywiaeth o lenyddiaeth sydd ar gael yn yr ieithoedd Brodorol, gan gynnwys y daflen Gallwch Ymddiried yn y Creawdwr!

Mae gan ein gwefan swyddogol ddetholiad o recordiadau sain a fideo yn rhan fwyaf o’r ieithoedd blaenorol. Yn ystod “Gateway to Nations” chwaraeodd y Tystion nifer o’r recordiadau hyn i ymwelwyr chwilfrydig. Sylwodd y rhain fod y rhan fwyaf o’r arddangosfeydd eraill, yr arwyddion, a’r perfformiadau yn Saesneg neu Sbaeneg yn unig.

Cafodd nifer o’r ymwelwyr eu plesio’n fawr, nid yn unig gan ein hymdrech i gyfieithu llenyddiaeth mewn cymaint o ieithoedd Brodorol America, ond hefyd gyda’n gwaith o addysg Feiblaidd mewn dinasoedd ac ar warchodfeydd. Ar ôl gweld ein gwaith, fe wnaeth un aelod o staff yr achlysur hyd yn oed ofyn am astudiaeth Feiblaidd, gan ddweud, “Dw i’n edrych ymlaen yn arw at eich ymweliad ac i ddysgu am y Beibl!”

Daeth cwpl priod Brodorol a oedd yn fyddar at un o’n harddangosfeydd, ond roedd y Tystion yn methu cyfathrebu â nhw. Ond toc wedyn, daeth Tyst a oedd wedi dysgu iaith arwyddion i’r stondin. Treuliodd hi tua hanner awr yn siarad â’r cwpl a’u helpu cael hyd i gynhadledd iaith arwyddion wedi’i threfnu gan Dystion Jehofa yn eu hardal nhw.

Daeth mwy na 50 o Dystion Jehofa ynghyd i’r trefniant arbennig hwn o gyflwyno addysg Feiblaidd, a derbyniodd ymwelwyr i’r arddangosfeydd dros 150 darn o lenyddiaeth dros dridiau’r ŵyl.

a Yn ôl yr anthropolegwr William K. Powers, mae powwow heddiw yn “achlysur seciwlar lle mae dynion, merched, a phlant yn dod at ei gilydd i ddawnsio’n gymdeithasol gyda grwpiau’n canu’n gyfeiliant iddo.”​—Ethnomusicology, Medi 1968, tudalen 354.