Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Derbyn Triniaeth Feddygol?

Ydy Tystion Jehofa yn Derbyn Triniaeth Feddygol?

 Ydyn, mae Tystion Jehofa yn derbyn meddyginiaeth a thriniaeth feddygol. Er ein bod ni’n ceisio gofalu am ein hiechyd a’n cyrff, ar adegau “y mae angen meddyg” arnon ni. (Luc 5:31) Fel Luc a oedd yn byw yn y ganrif gyntaf, mae rhai o Dystion Jehofa yn feddygon.—Colosiaid 4:14.

 Ond nid yw pob triniaeth yn cyd-fynd ag egwyddorion y Beibl, felly rydyn ni’n gwrthod rhai ohonyn nhw. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn derbyn trallwysiadau gwaed gan fod y Beibl yn gwahardd cymryd gwaed i gynnal bywyd. (Actau 15:20) Yn yr un modd, mae’r Beibl yn gwahardd triniaethau sy’n cynnwys dewiniaeth.—Galatiaid 5:19-21.

 Ond, nid yw’r mwyafrif o driniaethau meddygol yn mynd yn groes i egwyddorion y Beibl. Felly, mae angen i bawb benderfynu dros eu hunain. Efallai byddai un Tyst yn derbyn rhyw fath o feddyginiaeth neu driniaeth, tra bo un arall yn penderfynu ei gwrthod.—Galatiaid 6:5.