Neidio i'r cynnwys

Sut Mae Tystion Jehofa yn Defnyddio Cyfraniadau?

Sut Mae Tystion Jehofa yn Defnyddio Cyfraniadau?

 Rydyn ni’n defnyddio cyfraniadau i gynnal ein gweithgareddau crefyddol a dyngarol. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhan o’n prif genhadaeth, a hynny yw helpu pobl i ddod yn ddisgyblion i Iesu Grist.—Mathew 28:19, 20.

 Dydyn ni byth yn defnyddio cyfraniadau i wneud unigolion yn gyfoethog. Dydyn ni ddim yn talu cyflog i henuriaid neu weinidogion, ac dydy Tystion Jehofa ddim yn derbyn cyflog am fynd o ddrws i ddrws. Mae’r rhai sy’n gwasanaethu yn ein swyddfeydd cangen ac yn ein pencadlys, gan gynnwys y rhai sydd ar y Corff Llywodraethol, yn aelodau digyflog o urdd grefyddol.

Rhai o’n Gweithgareddau

  •   Cyhoeddi: Rydyn ni’n cyfieithu, argraffu, a dosbarthu miliynau o Feiblau a chyhoeddiadau Cristnogol eraill bob blwyddyn, i gyd am ddim. Yn yr un modd, ar ein gwefan jw.org ac ar yr ap JW Library, mae ein cyhoeddiadau digidol ar gael am ddim a heb hysbysebion.

  •   Adeiladu a Gwaith Cynnal a Chadw: Rydyn ni’n adeiladau ac edrych ar ôl addoldai syml trwy’r byd fel y gall cynulleidfaoedd gynnal cyfarfodydd a moli Duw. Rydyn ni’n gwneud yr un peth i ddarparu swyddfeydd cangen a swyddfeydd cyfieithu. Mae gwirfoddolwyr yn gwneud llawer o’r gwaith, sydd yn helpu i leihau costau.

  •   Gwaith Gweinyddol: Rydyn ni’n defnyddio arian a roddir at ein gwaith byd-eang i gynnal gwaith ein pencadlys, swyddfeydd cangen a swyddfeydd cyfieithu, yn ogystal â gwaith ein gweinidogion teithiol.

  •   Rhannu’r Newyddion Da: Dydy Tystion ddim yn cael eu talu am rannu’r newyddion da nac am ddysgu eraill am “neges Duw.” (2 Corinthiaid 2:17) Sut bynnag, yn debyg i’r hyn a wnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf, mae rhai gweinidogion sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y gwaith pregethu, yn derbyn llety syml ac anghenion bywyd.—Philipiaid 4:16, 17; 1 Timotheus 5:17, 18.

  •   Hyfforddiant: Mae ein cynulliadau a’n cynadleddau hefyd yn cael eu cynnal gan gyfraniadau. Ar ben hynny, rydyn ni’n creu rhaglenni sain a fideo sy’n esbonio’r Beibl. Hefyd rydyn ni’n cynnal ysgolion sy’n hyfforddi henuriaid a gweinidogion llawn amser i fod yn fwy effeithiol yn eu gwaith.

  •   Cymorth ar ôl Trychinebau: Rydyn ni’n darparu bwyd, dŵr, a lloches i’r rhai sy’n dioddef yn sgil trychinebau. Mae’r gwaith dyngarol hwn yn helpu nid yn unig ein “teulu o gredinwyr” ond hefyd pobl sydd heb fod yn Dystion.—Galatiaid 6:10.