Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Credu Mai Nhw yn Unig Fydd yn Cael eu Hachub?

Ydy Tystion Jehofa yn Credu Mai Nhw yn Unig Fydd yn Cael eu Hachub?

 Nac ydyn. Caiff miliynau a oedd yn byw yn y canrifoedd diwethaf, rhai nad oedden nhw’n Dystion Jehofa, gyfle i gael iachawdwriaeth. Mae’r Beibl yn egluro y “bydd atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn” yn y byd newydd y mae Duw wedi ei addo. (Actau 24:15) Hefyd, efallai bydd llawer o bobl sy’n byw nawr yn dechrau addoli Duw, ac fe fyddan nhw’n cael iachawdwriaeth. Y ffaith ydy, nid ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu pwy fydd yn cael ei achub. Cyfrifoldeb Iesu yn unig yw hynny.—Ioan 5:22, 27.