Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Barn Tystion Jehofa ar Addysg?

Beth Yw Barn Tystion Jehofa ar Addysg?

 Mae ein barn ar addysg yn seiliedig ar egwyddorion y Beibl. Mae pob unigolyn yn defnyddio ei gydwybod sydd wedi ei hyfforddi yn ôl y Beibl, i benderfynu sut i roi’r egwyddorion ar waith, megis y rhai sydd i ddilyn. a

 Mae addysg yn hanfodol

 Mae addysg yn helpu rhywun i ddatblygu doethineb a’r gallu i feddwl yn graff, sy’n rhinweddau gwerthfawr yn ôl y Beibl. (Diarhebion 2​10, 11; 3:​21, 22) Gwnaeth Iesu ofyn i’w ddilynwyr ddysgu eraill am ei orchmynion. (Mathew 28:19, 20) Felly rydyn ni’n annog ac yn helpu’r rhai yn ein cynulleidfaoedd i gael addysg dda, sy’n cynnwys sgiliau darllen, ysgrifennu, a chyfathrebu, b yn ogystal â gwybodaeth am grefyddau a diwylliannau eraill.​—1 Corinthiaid 9:​20-​22; 1 Timotheus 4:​13.

 Mae’r llywodraethau hefyd yn ystyried addysg yn werthfawr, ac felly yn gofyn i bobl ifanc gael addysg gynradd ac uwchradd. Rydyn ni’n cydymffurfio â chyfreithiau o’r fath sy’n cytuno â’r gorchymyn: “Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth.” (Rhufeiniaid 13:1) Rydyn ni hefyd yn annog ein plant i ymdrechu yn yr ysgol ac i wneud eu gorau, ac i beidio â bodloni ar wneud y mymryn lleiaf o waith. c Dywed Gair Duw: “Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi’n gweithio i’r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol.”​—Colosiaid 3:​23.

 Mae addysg yn ein helpu i ofalu am ein teuluoedd. Yn ôl y Beibl, “mae unrhyw un sy’n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na’r bobl sydd ddim yn credu.” (1 Timotheus 5:8) Mae addysg seciwlar yn gallu ein helpu i gyflawni y ddyletswydd mae Duw wedi ei rhoi inni, sef, gofalu am ein teuluoedd. Yn ôl Llywodraeth Cymru, diben y cwricwlwm yw “cynorthwyo’n plant a’n pobl ifanc i fod yn . . . cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith . . . fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.” Mae rhywun medrus, sydd wedi cael addysg dda, yn fwy parod i ofalu am ei deulu ac yn fwy tebygol o gadw ei swydd.​—Diarhebion 22:29.

 Mae rhieni hefyd yn paratoi eu plant ar gyfer bywyd pan fyddan nhw’n hŷn, a gall addysg ffurfiol fod yn amhrisiadwy yn hyn o beth. (2 Corinthiaid 12:14) Rydyn ni’n annog rhieni i ddarparu addysg ffurfiol i’w plant hyd yn oed mewn ardaloedd lle nad yw addysg ffurfiol yn rhad ac am ddim, yn anodd ei chael, neu’n mynd yn groes i ddiwylliant arferol. d Rydyn ni hefyd yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut y gall rhieni gael rhan yn addysg eu plant. e

 Rhaid ystyried addysg yn wrthrychol

 Rydyn ni’n rhoi sylw manwl i opsiynau addysg seciwlar. Mae’r Beibl yn dweud: “Y mae’r gwirion yn credu pob gair, ond y mae’r call yn ystyried pob cam.” (Diarhebion 14:15, Beibl Cymraeg Newydd) Rydyn ni’n rhoi yr egwyddor hon ar waith drwy bwyso a mesur yr amryw o opsiynau sydd ar gael ar gyfer addysg bellach, yn ogystal â’r gost a gwerth pob un. Er enghraifft, mae hyfforddiant galwedigaethol yn gost-effeithiol ac yn ddefnydd rhesymol o amser.

 Mae addysg ysbrydol yn fwy gwerthfawr nag addysg seciwlar. Yn wahanol i addysg seciwlar, mae addysg ysbrydol, sydd wedi’i seilio ar y Beibl, yn agor y ffordd i fywyd tragwyddol trwy ddod i adnabod Duw. (Ioan 17:3) Mae hefyd yn dysgu gwerthoedd moesol​—“Beth sy’n iawn, yn gytbwys, ac yn deg​—ie, popeth sy’n dda.” (Diarhebion 2:9) Cafodd yr apostol Paul addysg oedd o safon debyg i addysg brifysgol heddiw, ond roedd yn cydnabod pa mor werthfawr oedd addysg ysbrydol drwy ddweud: “Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na’r fraint aruthrol gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu!” (Philipiaid 3:8; Actau 22:3) Heddiw, mae nifer o Dystion Jehofa wedi cael addysg uwch, ond maen nhw’n credu bod eu haddysg ysbrydol yn llawer mwy gwerthfawr. f

Mae addysg ysbrydol yn dysgu gwerthoedd moesol pwysig

 Gall addysg uwch arwain at beryglon moesol ac ysbrydol

 Dywed un ddihareb o’r Beibl: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi.” (Diarhebion 22:3) Teimlai Tystion Jehofa fod peryglon moesol ac ysbrydol yn gallu codi o fewn awyrgylch prifysgol, a llefydd eraill sy’n cynnig addysg uwch. Am y rheswm hwnnw, mae llawer o Dystion wedi dewis peidio â’u rhoi eu hunain na’u plant yn y fath awyrgylch. Teimlai nifer ohonyn nhw fod llefydd sydd yn cynnig addysg uwch yn hyrwyddo syniadau anghywir, er enghraifft:

  •   Camsyniad: Daw arian â hapusrwydd a diogelwch

     Yn aml, mae addysg uwch yn cael ei hysbysu fel y ffordd gorau o ennill lot o bres, felly mae mwy a mwy o fyfyrwyr yn mynychu prifysgol dim ond er mwyn gwneud arian. Mae rhai yn gobeithio y bydd arian yn dod â hapusrwydd a diogelwch, ond mae’r Beibl yn amlygu oferedd y fath feddylfryd. (Pregethwr 5:​10) Yn bwysicach fyth, mae’r Beibl hefyd yn dysgu bod “ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni,” ac yn arwain yn aml at ddiffyg ffydd. (1 Timotheus 6:​10) Ymdrechai Tystion Jehofa i osgoi cael eu denu gan yr ymgais i wneud arian.​—Mathew 13:22.

  •   Camsyniad: Dylai pobl anelu at yr enwogrwydd a’r statws sy’n dod gydag addysg uwch

     Er Enghraifft, ysgrifennodd Nika Gilauri, cyn-brif weinidog Georgia, ynglŷn â safbwynt cyffredin ei wlad: “Mae cael gradd o’r brifysgol bron yn orfodol er mwyn cael statws cymdeithasol uchel yn Georgia. . . . [Yn y gorffennol,] os nad oedd person ifanc yn cael gradd, oedd hyn yn dwyn cywilydd ar ei deulu.” g Mae’r Beibl yn cyferbynnu hyn gan rybuddio yn erbyn ceisio dod i fri yn y byd hwn. Dywedodd Iesu wrth yr arweinwyr crefyddol a oedd yn ceisio enwogrwydd yn y cyfnodau hynny: “Sut y gallwch gredu, a chwithau yn derbyn clod gan eich gilydd?” (Ioan 5:​44, BCND) Gall awyrgylch y brifysgol fagu agwedd ffroenuchel y mae Duw yn ei chasáu.​—Diarhebion 6:​16, 17; 1 Pedr 5:5.

  •   Camsyniad: Dylai pobl osod eu safonau eu hunain ynglŷn â beth sy’n dda a drwg

     Mae Tystion Jehofa yn derbyn safonau Duw ynglŷn â beth sy’n dda a drwg. (Eseia 5:​20) Ond yn ôl un erthygl a gafodd ei chyhoeddi yn y Journal of Alcohol and Drug Education, pwysau gan gyfoedion eraill yn y brifysgol sy’n arwain nifer o fyfyrwyr i “wneud penderfyniadau sy’n mynd yn groes i’w safonau arferol o beth sy’n dda neu’n ddrwg.” h Mae’r sylwadau hyn yn cytuno ag egwyddor y Beibl: “Mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” (1 Corinthiaid 15:33) Ym myd y brifysgol, gwelir yn aml ymddygiad y mae Duw yn ei gasáu, megis meddwi, defnyddio cyffuriau, a chael rhyw heb briodi. Fel arfer mae ymddygiad o’r fath yn rhywbeth arferol a hyd yn oed yn cael ei annog.​—1 Corinthiaid 6:​9, 10; 2 Corinthiaid 7:1.

  •   Camsyniad: Addysg uwch yw’r ffordd orau o wella’r byd

     Rydyn ni’n cydnabod bod rhai yn dilyn addysg uwch, nid ar gyfer cyfoeth, enwogrwydd, neu er mwyn mwynhau pleserau anweddus, ond i’w gwella eu hunain a’r byd. Mae amcanion felly yn haeddu canmoliaeth, ond mae Tystion Jehofa wedi dewis ffordd wahanol o wneud hynny. Fel Iesu, rydyn ninnau hefyd yn credu mai Teyrnas Dduw yw’r unig obaith o gael byd gwell. (Mathew 6:​9, 10) Ond, nid ydyn ni’n disgwyl yn oddefol nes bod y Deyrnas yn datrys problemau’r byd. Yn hytrach, fel Iesu, rydyn ni’n rhannu “y newyddion da am deyrnasiad Duw” ledled y byd, gan helpu cannoedd ar filoedd o bobl bob blwyddyn i newid eu bywydau er gwell. i​—Mathew 24:14.

a Mae Tystion ifanc sydd yn byw gartref, yn dilyn dymuniadau eu rhieni ynglŷn ag addysg cyhyd ag eu bod nhw’n unol â chyfraith Duw.​—Colosiaid 3:​20.

b Am y rheswm hwn rydyn ni wedi cyhoeddi mwy nag 11 miliwn copi o lyfrau sy’n cefnogi llythrennedd, megis Apply Yourself to Reading and Writing. Hefyd, rydyn ni’n cynnal gwersi llythrennedd yn rhad ac am ddim ledled y byd mewn 120 o ieithoedd. Rhwng 2003 a 2017, rydyn ni wedi dysgu oddeutu 70,000 o bobl i ddarllen ac i ysgrifennu.

c Gweler yr erthygl “Should I Quit School?

d Er enghraifft, rydyn ni’n annog rhieni i anfon bechgyn a merched i’r ysgol. Gweler The Watchtower, rhifyn 15 Mawrth 2003, “Should My Child Go to School?

f Gweler yr adran “Safbwyntiau ar Darddiad Bywyd” ar jw.org/cy.

g Practical Economics: Economic Transformation and Government Reform in Georgia 2004​—2012, tudalen 170.

h Cyfrol 61, Rhif 1, Ebrill 2017, tudalen 72.

i Gweler yr adran “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” ar jw.org/cy, am brofiadau bywyd sy’n dangos grym Gair Duw a neges ei Deyrnas.