Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 29, 2021
MOSAMBÎC

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Niwngwe

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Niwngwe

Ar Fehefin 27, 2021, rhyddhaodd y Brawd Adão Costa, aelod o Bwyllgor Cangen Mosambîc, Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Niwngwe. Cafodd y Beibl ei ryddhau mewn fformat digidol yn ystod rhaglen a gafodd ei recordio o flaen llaw a’i ffrydio i fwy na 2,600 o gyhoeddwyr. Hefyd, cafodd y rhaglen ei darlledu ar orsaf deledu genedlaethol ac ar amryw orsafoedd radio lleol.

Prif Ffeithiau’r Prosiect

  • Mae Niwngwe yn cael ei siarad fwyaf yng ngogledd-orllewin Mosambîc yn Nhalaith Tete

  • Mae tua 400,000 o bobl yn siarad Niwngwe

  • Cymerodd 6 chyfieithydd 2 flynedd i gwblhau’r cyfieithiad

Dywedodd y Brawd Costa: “Am lawer o flynyddoedd, doedd y Beibl ddim ar gael yn yr iaith Niwngwe. Felly byddai ein brodyr a’n chwiorydd yn defnyddio cyfieithiad Tsitseweg o’r Beibl. Roedd hyn yn creu problemau am fod llawer o eiriau ac ymadroddion Tsitseweg yn cael eu camddeall.”

Cyn i’r Beibl gael ei ryddhau, dywedodd un aelod o’r tîm cyfieithu: “Bydd y cyhoeddwyr yn neidio o lawenydd pan gân nhw’r Beibl ’ma. Iddyn nhw mi fydd hi fel breuddwyd, gwyrth oddi wrth Jehofa. A byddan nhw’n diolch i Jehofa’n fawr iawn.”

Ein gweddi yw y bydd y Beibl hwn yn helpu llawer o unigolion diffuant i elwa ar ei neges.—Datguddiad 22:17.