Neidio i'r cynnwys

MAWRTH 9, 2022
ECWADOR

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Nhafodieithoedd Citshwa o Daleithiau Chimborazo ac Imbabura

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Nhafodieithoedd Citshwa o Daleithiau Chimborazo ac Imbabura

Ar ddydd Sadwrn, Mawrth 5, 2022, gwnaeth y Brawd Alan Costa, aelod o Bwyllgor Cangen Ecwador, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn nhafodieithoedd Citshwa o daleithiau Chimborazo ac Imbabura. Dyma’r ddwy brif dafodiaith o’r iaith Citshwa a siaredir yn Ecwador. Cafodd y Beiblau eu rhyddhau mewn fformatiau digidol a phrintiedig yn ystod rhaglen fyw, a gafodd ei ffrydio i gyhoeddwyr.

Y swyddfa gyfieithu Imbabura yn ucheldiroedd yr Andes. Mae wedi ei lleoli yn Otavalo, 90 cilomedr (56 milltir) i’r gogledd o’r brifddinas, Quito

Mae mwyafrif o’r siaradwyr Citshwa yn byw ym Mynyddoedd yr Andes, rhwng 2,700 a 3,700 metr (8,900 a 12,200 tr) uwch lefel y môr. Maen nhw’n byw mewn cymunedau clòs ac yn adnabyddus am fod yn hael, yn weithgar, ac yn lletygar. Mae llawer yn credu yn y Creawdwr ac mae ganddyn nhw barch mawr tuag at y Beibl.

Yn y 1990au, roedd Tystion Jehofa yn cyfieithu cyhoeddiadau i’r hyn sy’n cael ei galw’n Citshwa Unedig, sef cymysgedd o wahanol dafodieithoedd sy’n cael eu siarad ar draws Ecwador. Ond, prin oedd y bobl oedd yn ymateb i neges y Deyrnas yn y diriogaeth Citshwa. Daeth yn amlwg bod y brodyr angen llenyddiaeth oedd wedi ei chyfieithu i’r gwahanol dafodieithoedd unigol er mwyn bod yn effeithiol.

Y swyddfa gyfieithu Chimborazo yn Riobamba, 208 cilomedr (129 milltir) i’r de o Quito

Cafodd y timau cyfieithu Citshwa gymorth gan gyhoeddwyr mewn gwahanol rannau o’r wlad. Roedd y rhain yn adolygu’r cyfieithiadau. “Gyda’u help nhw, fe wnaethon ni gyfieithiad y byddai pawb yn gallu ei ddeall,” meddai un cyfieithydd, a oedd yn siarad am yr her o gynhyrchu Beibl Chimborazo ar gyfer grŵp ieithyddol mor amrywiol. Esboniodd cyfieithydd o’r tîm Imbabura: “Buodd Jehofa yn ein harwain ni, a gallwn weld yn glir ei fod eisiau i bawb wybod ei Air a’i ddeall.”

Bydd y ddau gyfieithiad newydd yn fendith i’r brodyr a chwiorydd Citshwa eu hiaith wrth iddyn nhw wasanaethu ein Duw, Jehofa, yr Un “sy’n achub pob math o bobl.”—1 Timotheus 4:10.