Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 9

Addolwch Jehofa fel Teulu

Addolwch Jehofa fel Teulu

“Addolwch yr hwn a wnaeth nef a daear.”—Datguddiad 14:7

Fel yr ydych wedi ei ddysgu yn y llyfryn hwn, mae’r Beibl yn cynnwys llawer iawn o egwyddorion a fydd yn eich helpu chi a’ch teulu. Mae Jehofa eisiau ichi fod yn hapus. Os ydych yn rhoi ei addoliad ef yn gyntaf, mae’n addo rhoi “y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi.” (Mathew 6:33) Mae ef wir eisiau ichi fod yn ffrind iddo. Defnyddiwch bob cyfle i feithrin eich cyfeillgarwch â Duw. Hon yw’r fraint fwyaf gall person ei chael.—Mathew 22:37, 38.

1 CRYFHEWCH EICH PERTHYNAS Â JEHOFA

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “‘Byddaf i chwi yn dad, a byddwch chwi’n feibion a merched i mi,’ medd yr Arglwydd.” (2 Corinthiaid 6:18) Mae Duw eisiau ichi fod yn ffrind agos ato. Un ffordd o wneud hyn yw drwy weddïo. Mae Jehofa yn eich gwahodd i ‘weddïo yn ddi-baid.’ (1 Thesaloniaid 5:17) Mae’n awyddus i glywed eich pryderon a’ch meddyliau dwfn. (Philipiaid 4:6) Wrth ichi weddïo gyda’ch teulu, fe fydden nhw’n gweld pa mor wir yw Duw i chi.

Ynghyd â siarad â Duw, dylech wrando arno hefyd. Gallwch wneud hynny drwy astudio ei Air a llenyddiaeth sy’n seiliedig ar y Beibl. (Salm 1:1, 2) Myfyriwch ar yr hyn rydych chi’n ei ddysgu. (Salm 77:11, 12) Mae gwrando ar Dduw hefyd yn golygu mynychu cyfarfodydd Cristnogol.—Salm 122:1-4.

Ffordd bwysig arall i gryfhau eich perthynas â Jehofa yw drwy siarad amdano ag eraill. Wrth ichi wneud hyn, byddwch yn teimlo’n agosach ato.—Mathew 28:19, 20.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Neilltuwch amser bob dydd i ddarllen y Beibl ac i weddïo

  • Fel teulu, rhowch flaenoriaeth i weithgareddau ysbrydol yn hytrach nag adloniant ac ymlacio

2 MWYNHEWCH EICH ADDOLIAD TEULUOL

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi.” (Iago 4:8) Mae’n rhaid ichi greu rhaglen gyson ar gyfer addoliad teuluol a’i dilyn yn rheolaidd. (Genesis 18:19) Ond, mae angen gwneud mwy na hynny. Mae’n hanfodol bod Duw yn rhan o’ch bywyd bob dydd. Cryfhewch y perthynas rhwng eich teulu a Duw drwy siarad amdano ‘pan fyddwch yn eistedd yn eich tŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddwch yn mynd i gysgu ac yn codi.’ (Deuteronomium 6:6, 7) Ceisiwch fod fel Josua, a ddywedodd: “Byddaf fi a’m teulu yn gwasanaethu’r ARGLWYDD.”—Josua 24:15.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Trefnwch raglen gyson i hyfforddi eich teulu, gan ystyried anghenion pob aelod o’r teulu