Neidio i'r cynnwys

Beth Sy’n Gwneud Teulu yn Un Hapus?

Beth Sy’n Gwneud Teulu yn Un Hapus?

Beth fyddech chi’n ei ddweud?

  • Cariad?

  • Arian?

  • Rhywbeth arall?

MAE’R BEIBL YN DWEUD:

“Gwyn eu byd y rhai sy’n clywed gair Duw ac yn ei gadw.”—Luc 11:28, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

MAE HYNNY’N GOLYGU

Mwy o gariad yn y teulu.—Effesiaid 5:28, 29.

Mwy o barch yn y teulu.—Effesiaid 5:33.

Mwy o undod yn y teulu.—Marc 10:6-9.

OND ALLWN NI GREDU BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?

Gallwn, am o leiaf ddau reswm:

  • Duw a greodd y teulu. Mae’r Beibl yn dweud bod “pob teulu . . . yn cymryd ei enw” oddi wrth Jehofa Dduw. (Effesiaid 3:14, 15) Hynny yw, mae’r uned deuluol yn bod oherwydd iddi gael ei chreu gan Jehofa. Pam mae hynny’n berthnasol?

    Ystyriwch hyn: Dychmygwch eich bod yn mwynhau pryd o fwyd blasus ac eisiau gwybod beth oedd ynddo a sut i’w goginio. Pwy fyddech chi’n ei holi? Oni fyddech chi’n holi’r un a goginiodd y bwyd?

    Yn yr un modd, os ydyn ni eisiau gwybod beth sydd ei angen ar gyfer bywyd teuluol hapus, oni ddylen ni droi at Jehofa, yr un a greodd y teulu yn y lle cyntaf?—Genesis 2:18-24.

  • Mae Duw yn eich caru. Peth doeth yw i deuluoedd droi at Jehofa am y cyngor sydd i’w gael yn ei Air. Pam? “Achos mae e’n gofalu amdanoch chi.” (1 Pedr 5:6, 7, beibl.net) Mae Jehofa yn gwybod beth sy’n gwneud lles ichi, ac mae ei gyngor bob amser yn gweithio!—Diarhebion 3:5, 6; Eseia 48:17, 18.

CWESTIWN I FEDDWL AMDANO

Sut gallwch chi lwyddo fel gŵr, gwraig, neu riant?

Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw yn EFFESIAID 5:1, 2 ac yn COLOSIAID 3:18-21.