Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 8

Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

1. Sut daeth drygioni i’r byd?

Mae Duw wedi caniatáu digon o amser i brofi na all llywodraethau dynol ddatrys problemau’r byd

Daeth drygioni i’r byd pan ddywedodd Satan y celwydd cyntaf. Cafodd Satan ei greu yn angel perffaith, ond ni wnaeth “sefyll yn y gwirionedd.” (Ioan 8:44) Roedd Satan yn dymuno cael ei addoli ond Duw yn unig sy’n deilwng o hynny. Dywedodd Satan gelwydd wrth Efa a’i pherswadio i ufuddhau iddo ef yn hytrach nag i Dduw. Roedd Adda hefyd yn anufudd a chanlyniad hynny oedd dioddefaint a marwolaeth.​—Darllenwch Genesis 3:1-6, 19.

Pan awgrymodd Satan y dylai Efa fod yn anufudd i Dduw, fe roddodd gychwyn ar wrthryfel a oedd yn herio hawl Duw i reoli. Mae’r rhan fwyaf o’r hil ddynol wedi dilyn Satan a gwrthod awdurdod Duw. Felly, mae Satan wedi dod yn ‘dywysog y byd hwn.’​—Darllenwch Ioan 14:30; 1 Ioan 5:19.

2. A oedd creadigaeth Duw yn ddiffygiol?

Mae gwaith Duw yn berffaith. Roedd Duw wedi creu bodau dynol ac angylion â’r gallu i fod yn berffaith ufudd iddo. (Deuteronomium 32:4, 5) Rydyn ni wedi cael ein creu â’r rhyddid i ddewis rhwng da a drwg. Mae’r rhyddid hwnnw yn rhoi’r cyfle inni ddangos ein cariad tuag at Dduw.​—Darllenwch Iago 1:13-15; 1 Ioan 5:3.

3. Pam mae Duw wedi caniatáu i ddioddefaint bara mor hir?

Mae Jehofah wedi caniatáu i’r gwrthryfel yn erbyn ei sofraniaeth barhau am gyfnod penodol. Pam felly? Er mwyn dangos na fydd unrhyw ymdrech i lywodraethu hebddo ef yn llwyddo. (Pregethwr 7:29; 8:9) Ar ôl 6,000 o flynyddoedd, mae’r dystiolaeth yn eglur. Mae llywodraethau dynol wedi methu cael gwared ar ryfel, trosedd, anghyfiawnder ac afiechyd.​—Darllenwch Jeremeia 10:23; Rhufeiniaid 9:17.

Yn wahanol i lywodraethau dynol, mae llywodraeth Duw yn gwneud lles i bawb sydd yn ei derbyn. (Eseia 48:17, 18) Yn fuan, bydd Jehofah yn rhoi terfyn ar bob llywodraeth ddynol. Dim ond y rhai sy’n dewis llywodraeth Duw fydd yn byw ar y ddaear.​—Eseia 11:9.​—Darllenwch Daniel 2:44.

Gwyliwch y fideo Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

4. Pa gyfle y mae amynedd Duw yn ei roi inni?

Cyhuddiad Satan oedd bod pawb sy’n gwasanaethu Duw yn gwneud hynny am resymau hunanol. A hoffech chi brofi bod Satan yn gelwyddog? Fe gewch chi! Mae amynedd Duw yn rhoi cyfle i bob un ohonon ni ddangos a ydyn ni o blaid llywodraeth Duw neu o blaid llywodraeth dyn. Mae’r ffordd rydyn ni’n byw yn dangos pa un rydyn ni’n ei ddewis.​—Darllenwch Job 1:8-12; Diarhebion 27:11.

5. Sut gallwn ni ddewis Duw fel Rheolwr?

Mae Duw wedi caniatáu digon o amser i brofi na all llywodraethau dynol ddatrys problemau’r byd

Gallwn ni ddewis Duw fel Rheolwr drwy ddysgu amdano a’i addoli yn y modd y mae’r Beibl yn ei gymeradwyo. (Ioan 4:23) Fel y gwnaeth Iesu, rydyn ni’n gwrthod llywodraeth Satan drwy beidio ag ymhél â gwleidyddiaeth a rhyfeloedd.​—Darllenwch Ioan 17:14.

Mae Satan yn defnyddio ei rym i hybu drygioni ac anfoesoldeb. Os ydyn ni’n penderfynu peidio â gwneud y fath bethau, efallai y bydd rhai o’n ffrindiau neu’n perthnasau yn gwneud hwyl am ein pennau neu hyd yn oed yn troi yn ein herbyn. (1 Pedr 4:3, 4) Felly, mae dewis gennyn ni. A fyddwn ni’n cymdeithasu â phobl sy’n caru Duw? A fyddwn ni’n ufuddhau i’w orchmynion doeth a chariadus? O wneud hynny, rydyn ni’n profi bod Satan yn dweud celwydd pan ddywedodd na fyddai neb yn aros yn ufudd i Dduw o dan bwysau.​—Darllenwch 1 Corinthiaid 6:9, 10; 15:33.

Mae cariad Duw tuag at ddynolryw yn sicrhau y bydd drygioni a dioddefaint yn dod i ben. Bydd y rhai sy’n dangos eu bod nhw’n credu hyn yn cael byw am byth ar y ddaear.​—Darllenwch Ioan 3:16.