Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 13

Brenhinoedd Da a Brenhinoedd Drwg

Brenhinoedd Da a Brenhinoedd Drwg

Israel yn cael ei rhannu. Cyfres o frenhinoedd yn teyrnasu yn Israel, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n anffyddlon. Jerwsalem yn cael ei dinistrio gan y Babiloniaid

YN UNION fel y rhagfynegodd Jehofa, cafodd Israel ei rhannu ar ôl i Solomon gefnu ar addoliad pur. Daeth ei fab Rehoboam yn frenin. Gan fod Rehoboam yn ddyn caled, gwrthryfelodd deg llwyth a ffurfio teyrnas Israel yn y gogledd. Arhosodd dau lwyth yn ffyddlon i linach Dafydd yn Jerwsalem a ffurfio teyrnas Jwda yn y de.

Roedd hanes y ddwy deyrnas yn gythryblus oherwydd diffyg ffydd llawer o’r brenhinoedd. Roedd y sefyllfa yn Israel yn waeth nag yn Jwda gan fod brenhinoedd Israel yn hyrwyddo gau addoliad o’r cychwyn. Er bod proffwydi fel Elias ac Eliseus yn gwneud gweithredoedd nerthol, gan gynnwys atgyfodi’r meirw, aeth Israel yn ôl i’w drygioni dro ar ôl tro. Yn y pen draw, gadawodd Duw i’r Asyriaid ddinistrio teyrnas y gogledd.

Parhaodd teyrnas Jwda am ryw gan mlynedd arall ond roedd hithau hefyd yn wynebu cosb ddwyfol. Dim ond ychydig o frenhinoedd Jwda a gymerodd sylw o rybuddion proffwydi Duw a cheisio troi’r genedl yn ôl at Jehofa. Er enghraifft, fe aeth y Brenin Joseia ati i adfer teml Jehofa ac ailsefydlu addoliad pur. Pan ddaethon nhw o hyd i lyfr Cyfraith Duw, roedd y geiriau yn cyffwrdd â chalon Joseia a gwneud iddo weithio’n galetach i ddiwygio’r deyrnas.

Ond ni wnaeth olynwyr Joseia ddilyn ei esiampl. Caniataodd Jehofa i’r Babiloniaid goncro Jwda a dinistrio Jerwsalem a’r deml. Cludwyd y rhai a oroesodd yn alltudion i Fabilon. Rhagfynegodd Duw y bydden nhw’n alltud am 70 o flynyddoedd. Trwy’r cyfnod hwnnw, roedd Jwda yn ddiffaith, nes i’r genedl ddychwelyd i’w gwlad ei hun fel yr oedd Duw wedi ei addo.

Sut bynnag, ni fyddai’r un brenin o linach Dafydd ar yr orsedd nes bod y Gwaredwr neu’r Meseia addawedig yn teyrnasu. Mae hanes y brenhinoedd yn Jerwsalem yn profi nad oes gan bobl amherffaith y gallu i reoli’n llwyddiannus. Dim ond y Meseia fyddai â’r gallu i wneud hynny. Felly, dywedodd Jehofa wrth y brenin olaf yn llinach Dafydd: ‘Tyn y goron . . . nes i’r hwn a’i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef.’—Eseciel 21:26, 27.

—Yn seiliedig ar 1 Brenhinoedd; 2 Brenhinoedd; 2 Cronicl penodau 10-36; Jeremeia 25:8-11.