Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

1

Yr Enw Dwyfol yn yr Ysgrythurau Hebraeg

Yr Enw Dwyfol yn yr Ysgrythurau Hebraeg

Llythrennau’r enw dwyfol yn yr hen Hebraeg a ddefnyddid cyn y gaethglud ym Mabilon

Llythrennau’r enw dwyfol yn yr hen Hebraeg a ddefnyddid ar ôl y gaethglud ym Mabilon

Mae’r enw dwyfol a gynrychiolir gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה, yn ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg. Mae rhai cyfieithiadau yn trosi’r pedair llythyren hynny, a elwir y Tetragramaton, yn “Jehofa.” Mae’r enw hwnnw yn ymddangos yn y Beibl fwy nag unrhyw enw arall o bell ffordd. Mae ysgrifenwyr ysbrydoledig y Beibl yn cyfeirio at Dduw drwy ddefnyddio llawer o deitlau megis “yr Hollalluog,” “y Goruchaf,” ac “Arglwydd.” Ond, er hynny, y Tetragramaton yw’r unig enw personol y mae’r ysgrifenwyr hynny yn ei ddefnyddio ar gyfer Duw.

Jehofa ei hun a ddywedodd wrth ysgrifenwyr y Beibl am ddefnyddio ei enw. Er enghraifft, dywedodd y proffwyd Joel: “A bydd pob un sy’n galw ar enw’r ARGLWYDD [Jehofa] yn cael ei achub.” (Joel 2:32; cymharer Actau 2:21, Thomas Briscoe) Hefyd, ysbrydolodd Duw un o’r Salmwyr i ysgrifennu: “Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.” (Salm 83:18, Y Beibl Cysegr-lân) Mae’r enw dwyfol yn ymddangos bron 700 o weithiau yn y Salmau yn unig—llyfr o farddoniaeth a oedd yn cael ei chanu gan bobl Dduw. Pam, felly, y mae llawer o gyfieithiadau o’r Beibl wedi hepgor enw Duw? A pham mae rhai cyfieithiadau yn defnyddio’r ffurf “Jehofa”? Hefyd, beth yw ystyr yr enw dwyfol Jehofa?

Rhannau o’r Salmau yn un o Sgroliau’r Môr Marw sy’n dyddio yn ôl i hanner cyntaf y ganrif gyntaf OG. Mae’r testun wedi ei ysgrifennu gan ddefnyddio’r llythrennau Hebraeg a oedd yn gyffredin ar ôl y gaethglud ym Mabilon, ond mae’r Tetragramaton wedi ei ysgrifennu drosodd a throsodd mewn llythrennau unigryw yr hen Hebraeg

Pam mae llawer o gyfieithiadau o’r Beibl wedi hepgor yr enw dwyfol? Mae’r rhesymau’n amrywio. Mae rhai’n teimlo nad oes angen enw unigryw ar Dduw Hollalluog. Efallai y cafodd rhai cyfieithwyr eu dylanwadu gan y traddodiad Iddewig o beidio ag ynganu’r enw dwyfol rhag ofn iddo gael ei amharchu. Ond mae rhai eraill yn credu nad oes neb yn gwybod yn union sut y dylid ynganu enw Duw, felly, gwell fyddai defnyddio teitl fel “Duw” neu “Arglwydd.” Does dim synnwyr i’r dadleuon hyn am y rhesymau canlynol:

  • Mae’r rhai sy’n dadlau nad oes angen enw unigryw ar y Duw Hollalluog yn anwybyddu’r ffaith fod enw personol Duw wedi ei ysgrifennu yng nghopïau cynnar o’i Air, gan gynnwys copïau o’r cyfnod cyn Crist. Fel y soniwyd amdano uchod, rhoddodd Duw’r cyfarwyddyd i’w enw gael ei gynnwys yn ei Air ryw 7,000 o weithiau. Mae’n amlwg, felly, fod Duw eisiau inni wybod am ei enw a’i ddefnyddio.

  • Mae cyfieithwyr sy’n dileu enw Duw oherwydd eu bod nhw’n glynu wrth draddodiad Iddewig wedi methu cydnabod un ffaith allweddol bwysig. Er bod rhai ysgrifenyddion Iddewig wedi gwrthod ynganu’r enw, ni wnaethon nhw ddileu’r enw o’u copïau o’r Beibl. Mae hen sgroliau a ddarganfuwyd yn Qumran, wrth ymyl y Môr Marw, yn cynnwys yr enw lawer gwaith. Drwy ddefnyddio’r teitl “ARGLWYDD” a’i roi mewn priflythrennau, mae rhai cyfieithwyr yn lled awgrymu bod enw Duw wedi ymddangos yn y testun gwreiddiol. Ond, pam roedd y cyfieithwyr hyn yn teimlo bod ganddyn nhw’r hawl i ddisodli enw Duw neu i’w ddileu yn gyfan gwbl o’r Beibl a hynny pan oedden nhw’n cydnabod bod enw Duw yn ymddangos yn nhestun y Beibl filoedd o weithiau? Yn eu meddwl nhw, pwy a roddodd yr awdurdod iddyn nhw wneud y fath newidiadau? Nhw yn unig sy’n gallu ateb.

  • Mae’r rhai sy’n dweud na ddylen ni ddefnyddio enw Duw oherwydd nad ydyn ni’n gwybod yn union sut i ynganu’r enw hwnnw, yn ddigon parod i ddefnyddio enw Iesu. Ond eto, roedd disgyblion Iesu yn y ganrif gyntaf yn ynganu ei enw mewn modd hollol wahanol i’r ffordd y mae’r mwyafrif o Gristnogion yn ei ddweud heddiw. Mae’n debyg mai Ieshwa oedd y ffordd roedd Cristnogion Iddewig yn dweud yr enw Iesu. A’r teitl “Crist” oedd Mashiach, sy’n golygu “Meseia.” Roedd Cristnogion a oedd yn siarad yr iaith Roeg yn ei alw’n Ieswsʹ Christosʹ, a’r rhai a oedd yn siarad Lladin yn ei alw’n Iesws Cristws. Cafwyd cyfieithiad Groeg o enw Iesu ei recordio yn y Beibl o dan ysbrydoliaeth Duw ac mae hyn yn dangos bod Cristnogion y ganrif gyntaf wedi dangos synnwyr cyffredin a defnyddio ffurf o’r enw a oedd yn gyffredin yn eu hiaith nhw. Yn yr un modd, mae Tystion Jehofa yn teimlo ei bod hi’n rhesymol i ddefnyddio’r ffurf “Jehofa,” er nad yw’r cyfieithiad hwnnw’n adlewyrchu’r union ffordd roedd yr enw dwyfol yn cael ei ynganu yn yr hen Hebraeg.

Pam mae Tystion Jehofa yn defnyddio’r ffurf “Jehofa”? Yn y Gymraeg, mae pedair llythyren y Tetragramaton (יהוה) yn cael eu cynrychioli gan y cytseiniaid IHWH. Fel yn achos pob gair ysgrifenedig yn yr hen Hebraeg, nid oedd y Tetragramaton yn cynnwys llafariaid. Pan oedd Hebraeg hynafol yn cael ei defnyddio fel iaith bob dydd, roedd darllenwyr yn gwybod pa bryd y dylen nhw ychwanegu’r llafariaid.

Tua mil o flynyddoedd ar ôl i’r Ysgrythurau Hebraeg gael eu cwblhau, datblygodd ysgolheigion Iddewig system o lafarnodau, neu arwyddion, a ddangosai pa lafariaid y dylid eu defnyddio wrth ddarllen Hebraeg. Ond, erbyn hynny, roedd llawer o Iddewon yn arddel y syniad ofergoelus fod ynganu enw Duw yn anghywir, ac felly, fe ddefnyddion nhw ymadroddion eraill yn ei le. Felly, pan oedden nhw’n copïo’r Tetragramaton, mae’n ymddangos eu bod nhw wedi cyfuno’r llafariaid a ddefnyddid ar gyfer yr ymadroddion eraill â’r pedair cytsain sy’n cynrychioli’r enw dwyfol. Yn anffodus, felly, nid yw’r llawysgrifau sy’n cynnwys y llafarnodau hyn yn ein helpu ni i wybod sut yr ynganwyd yr enw yn Hebraeg. Mae rhai yn credu mai “Iahwe,” neu “Iafe,” yw’r ynganiad cywir, ond mae eraill yn cynnig ffurfiau gwahanol. Mae un o Sgroliau’r Môr Marw sy’n cynnwys rhan o Lefiticus yn yr iaith Roeg yn trawslythrennu’r enw dwyfol yn Iao. Yn ogystal â’r ffurf honno, mae ysgrifenwyr Groeg cynnar hefyd yn awgrymu’r ffurfiau Iae, Iabeʹ, ac Iaweʹ. Ond ni all neb fod yn rhy bendant ynglŷn â’r peth. Y gwir amdani yw dydyn ni ddim yn gwybod sut roedd gweision Duw gynt yn dweud ei enw yn Hebraeg. (Genesis 13:4; Exodus 3:15) Ond yr hyn rydyn ni yn ei wybod yw bod Duw wedi defnyddio ei enw dro ar ôl tro wrth iddo gyfathrebu â’i bobl. Hefyd, roedd pobl Dduw yn defnyddio ei enw i’w gyfarch ac i siarad ag eraill amdano.—Exodus 6:2, Beibl Cysegr-lân; 1 Brenhinoedd 8:23; Salm 100:1-3, Lewis Valentine.

Pam mae Tystion Jehofa, felly, yn defnyddio’r ffurf “Jehofa”? Oherwydd bod hen hanes i’r ffurf honno o’r enw dwyfol mewn llawer iawn o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg.

Y tro cyntaf i enw personol Duw gael ei drosi mewn Beibl Cymraeg oedd yng nghyfieithiad William Salesbury o’r Salmau ym 1567. Fe ddefnyddiodd Salesbury y ffurf “Iehováh” yn Salm 83:18. Wrth i’r iaith Gymraeg ddatblygu, cafodd sillafu’r enw dwyfol ei foderneiddio. Er enghraifft, ym 1588, defnyddiodd William Morgan y ffurf “Iehofa.” Yn ystod y canrifoedd sy’n dilyn, roedd gwahanol fersiynau diwygiedig o’r Beibl Cysegr-lân yn defnyddio’r ffurf “Jehofah.” Ym 1853, defnyddiodd Thomas Briscoe y ffurf “Iehofah” wrth gyfieithu llyfr Eseia. Ym 1936, fe ailddefnyddiodd Lewis Valentine y ffurf “Iehofa” yn ei gyfieithiad o’r Salmau. Hefyd, mae cyfieithiadau mwy diweddar o’r Beibl yn defnyddio’r ffurf “Jehofa” ac fe geir enghraifft o hyn yn Barnwyr 6:24.

Enw Duw yn Genesis 15:2 fel y mae’n ymddangos yng nghyfieithiad William Tyndale o’r Pumllyfr, 1530

Y tro cyntaf i enw personol Duw gael ei ddefnyddio mewn Beibl Saesneg oedd yn y flwyddyn 1530 yng nghyfieithiad William Tyndale o’r Pumllyfr. Yn ei waith Studies in the Psalms (1911), eglurodd yr ysgolhaig Beiblaidd Joseph Bryant Rotherham ei fod wedi defnyddio’r enw “Jehovah” yn hytrach na “Yahweh” oherwydd ei fod eisiau defnyddio “ffurf o’r enw sy’n fwy cyfarwydd (a derbyniol yr un pryd) i ddarllenwyr cyffredin y Beibl.” Ym 1930, dywedodd yr ysgolhaig A. F. Kirkpatrick: “Mae gramadegwyr cyfoes yn dadlau y dylid dweud Yahveh neu Yahaveh; ond mae’n ymddangos bod y ffurf JEHOVAH wedi ei wreiddio’n ddwfn yn yr iaith Saesneg, a’r peth pwysicaf yma yw nid union ynganiad y gair, ond cydnabod mai Enw Priod ydyw, yn hytrach na theitl cyffredin fel ‘Arglwydd.’”

Y Tetragramaton, IHWH: “Mae Ef yn Peri i Fod”

Y ferf HWH: “bod”

Beth yw ystyr yr enw Jehofa? Yn Hebraeg, mae’r enw Jehofa yn tarddu o ferf sy’n golygu “bod,” ond mae nifer o ysgolheigion yn teimlo bod yr enw yn adlewyrchu ffurf achosol y ferf Hebraeg honno. Felly, dealltwriaeth Tystion Jehofa yw bod enw Duw yn golygu “Mae Ef yn Peri i Fod.” Wedi dweud hynny, nid yw pob ysgolhaig yn cytuno, felly, ni allwn fod yn ddogmatig yn hyn o beth. Fodd bynnag, mae’r diffiniad hwn yn addas ar gyfer Jehofa gan mai ef yw Creawdwr pob peth a chyflawnwr ei bwrpas. Nid yn unig y creodd y bydysawd a bodau deallus, ond, wrth i amser fynd rhagddo, y mae o hyd ac o hyd yn achosi i’w ewyllys a’i bwrpas gael eu cyflawni.

Felly, mae’r enw Jehofa yn golygu mwy na’r ferf sydd i’w chael yn Exodus 3:14, sy’n darllen: “Ydwyf yr Hyn Ydwyf” neu, “Byddaf yr hyn a fyddaf” (Y Beibl Cyssegr-lan, 1908, troednodyn). A bod yn fanwl gywir, nid yw’r geiriau hynny yn cyfleu union ystyr enw Duw. Ond maen nhw’n datgelu un wedd arbennig ar ei bersonoliaeth: Bydd Duw ym mhob achos yn gwneud beth bynnag y mae angen iddo ei wneud er mwyn cyflawni ei bwrpas. Felly, er bod yr enw Jehofa yn gallu cynnwys y syniad hwn, mae’n medru golygu llawer iawn mwy. Mae hefyd yn cynnwys y syniad bod Duw yn ‘peri i ddigwydd’ yn achos ei greadigaeth ac yn achos cyflawni ei bwrpas.