Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wedi Ein Creu i Fyw am Byth

Wedi Ein Creu i Fyw am Byth

ONID ydyn ni i gyd eisiau bywyd hir a hapus? Meddyliwch mor hyfryd fyddai byw am byth, yn hapus ac yn iach! Bydden ni’n gallu treulio mwy o amser gyda’r bobl rydyn ni’n eu caru, dysgu sgiliau newydd, meithrin rhinweddau, a dysgu mwy a mwy am ein diddordebau.

A ydy hi’n naturiol i deimlo felly? Wrth gwrs! Mae’r Ysgrythurau yn esbonio bod Duw wedi rhoi inni’r awydd i fyw am byth. (Pregethwr 3:11) Maen nhw hefyd yn dweud mai “cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) A ydy hi’n rhesymol i feddwl bod Duw wedi ein creu ni gyda’r awydd i fyw am byth ac wedyn gwneud hynny’n amhosib inni?

Mae’r Beibl yn dangos yn glir nad ffrind yw marwolaeth, ond “gelyn.” (1 Corinthiaid 15:26) Mae rhai yn marw’n ifanc ac eraill yn marw’n hen, ond does neb yn gallu dianc o afael marwolaeth. Mae hyd yn oed meddwl am farw yn codi ofn ar lawer. A allwn ni ddisgwyl gweld diwedd i’r gelyn hwn? Ydy hynny wir yn bosib?

GOBAITH A THYSTIOLAETH

A oeddech chi’n gwybod nad pwrpas gwreiddiol Duw oedd i bobl farw? Mae llyfr Genesis yn y Beibl yn tystio i’r ffaith fod Jehofa Dduw eisiau i bobl fyw am byth ar y ddaear. Paratôdd Jehofa y ddaear yn ofalus er mwyn i bobl fyw arni. Wedyn, creodd Adda, y dyn cyntaf, a’i osod mewn paradwys, sef gardd Eden. Ar ôl hynny, “edrychodd Duw ar bopeth roedd wedi’i wneud, a gweld fod y cwbl yn dda iawn.”—Genesis 1:26, 31.

Crëwyd Adda ar ddelw Duw, yn berffaith. (Deuteronomium 32:4) Roedd Efa, gwraig Adda, hefyd yn ddi-nam, â meddwl a chorff perffaith. Dywedodd Jehofa wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy’n hedfan yn yr awyr, a’r holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.”—Genesis 1:28.

Byddai’n rhaid i gryn dipyn o amser fynd heibio er mwyn llenwi’r ddaear â phobl. Byddai’n rhaid i Efa gael plant, ac i’w phlant hi gael plant, nes bod y ddaear wedi’i llenwi yn union fel y bwriadodd Duw. (Eseia 45:18) A ydy hi’n rhesymol i feddwl y byddai Jehofa wedi rhoi’r gobaith hwn i Adda ac Efa petaen nhw ond am fyw yn ddigon hir i weld dwy neu dair cenhedlaeth?

Meddyliwch hefyd am y gorchymyn i fod yn feistr ar yr anifeiliaid. Derbyniodd Adda’r dasg o enwi’r anifeiliaid—dychmygwch gymaint y byddai hynny wedi cymryd! (Genesis 2:19) Ond i fod yn feistr arnyn nhw byddai angen iddo ddod i’w deall yn well a dysgu sut i ofalu amdanyn nhw. Byddai hynny wedi cymryd hydoedd.

Felly, mae cyfarwyddiadau Duw i lenwi’r ddaear a darostwng yr anifeiliaid yn dangos ei fod wedi creu’r pâr cyntaf i fyw yn hir, ac mewn gwirionedd, cafodd Adda fywyd hir.

MAE DUW EISIAU INNI FYW AM BYTH MEWN PARADWYS AR Y DDAEAR

CAWSON NHW FYWYDAU HIRION

Adda, 930 mlynedd

Methwsela, 969 mlynedd

Noa, 950 mlynedd

Heddiw, 70-80 mlynedd

Mae’r Beibl yn dangos bod pobl, ar un adeg, wedi byw yn llawer hirach nag yr ydyn ni heddiw. Mae’n dweud: “Roedd Adda yn 930 oed yn marw.” Yna, mae’n rhestru chwe dyn arall a fu fyw am dros 900 mlynedd! Seth, Enosh, Cenan, Jared, Methwsela, a Noa oedden nhw. Roedd pob un yn byw cyn y Dilyw yn amser Noa, ac roedd Noa ei hun yn 600 mlwydd oed pan ddaeth y Dilyw. (Genesis 5:5-27; 7:6; 9:29) Sut roedd bywyd mor hir yn bosib?

Ganwyd y rhain yn agos at yr adeg pan oedd dynolryw yn berffaith. Mae’n debyg mai dyna’r rheswm dros eu hir oes. Ond beth yw’r cysylltiad rhwng bywyd perffaith a bywyd hir? A sut caiff marwolaeth ei threchu? Cyn cael yr atebion, mae’n rhaid deall pam rydyn ni’n heneiddio a marw.