Bydd y Rhai Sy’n Cael eu Cam-Drin yn Meddiannu’r Tir
Mae’r rhan fwyaf ohonon ni wedi gweld anghyfiawnder a phobl dda, ddieuog yn cael eu cam-drin gan bobl ddrwg. A fydd ’na amser yn y dyfodol pan fydd anghyfiawnder a drygioni yn dod i ben?
Mae Salm 37 yn y Beibl yn rhoi’r ateb, ynghyd ag arweiniad inni nawr. Sylwch ar beth mae’n ei ddweud am y cwestiynau pwysig canlynol.
Sut dylen ni ymateb i’r rhai sy’n ein cam-drin ni?—Adnodau 1, 2.
Beth fydd yn digwydd i bobl ddrwg?—Adnod 10.
Pa ddyfodol sydd i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn?—Adnodau 11, 29.
Beth ddylen ni ei wneud nawr?—Adnod 34.
Mae’r geiriau yn Salm 37 yn sôn am ddyfodol disglair i’r rhai sy’n dilyn y cyngor hwn: “Disgwyl am yr ARGLWYDD! Dos y ffordd mae e’n dweud.” Mae Tystion Jehofa yn hapus i’ch helpu chi i astudio’r Beibl a dysgu sut gallwch chi gael y dyfodol hwnnw i chithau ac i’r bobl rydych chi’n eu caru.