Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

2 | Cysur o’r Beibl

2 | Cysur o’r Beibl

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Mae’r holl bethau a gafodd eu hysgrifennu amser maith yn ôl yn yr Ysgrythurau wedi cael eu hysgrifennu i’n dysgu ni, ac mae gynnon ni obaith oherwydd ein dyfalbarhad a’r anogaeth mae’r Ysgrythurau’n ei rhoi inni.”—RHUFEINIAID 15:4.

Beth Mae Hynny’n ei Olygu?

Mae’r Beibl yn ein cysuro ni ac yn rhoi’r nerth inni allu delio â meddyliau negyddol. Mae’r Beibl hefyd yn rhoi’r gobaith inni y bydd ein poen emosiynol yn diflannu’n fuan.

Sut Gall Hyn Helpu?

Rydyn ni i gyd yn teimlo’n drist ar adegau, ond mae’r rhai sy’n dioddef o iselder neu orbryder yn gorfod brwydro emosiynau poenus bob dydd. Sut gall y Beibl helpu?

  • Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o bethau positif a all ddisodli meddyliau negyddol. (Philipiaid 4:8) Mae’n gallu tawelu ein meddyliau a’n helpu ni i reoli ein hemosiynau.—Salm 94:18, 19.

  • Gall y Beibl ein helpu ni i wrthod y teimlad ein bod ni’n dda i ddim.—Luc 12:6, 7.

  • Mae’r Beibl yn ein hatgoffa dro ar ôl tro nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain ac yn dangos bod Duw, ein Creawdwr, yn ein deall ni i’r dim.—Salm 34:18; 1 Ioan 3:19, 20.

  • Mae’r Beibl yn addo y bydd Duw yn cael gwared ar ein holl atgofion poenus. (Eseia 65:17; Datguddiad 21:4) Pan mae meddyliau ac emosiynau anghyfforddus yn codi, mae’r addewid hwnnw yn gallu rhoi’r nerth inni ddal ati.