Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae cell burum yn hynod o gymhleth. Mae ganddi gnewyllyn sy’n cynnwys DNA a pheiriannau microsgopig sy’n sortio, yn cludo, ac yn addasu moleciwlau—sydd i gyd yn hanfodol i fywyd y gell.

Beth Mae Bywyd yn ei Ddweud Wrthon Ni?

Beth Mae Bywyd yn ei Ddweud Wrthon Ni?

Mae’r ddaear yn llawn pethau byw sy’n tyfu, yn symud, ac yn atgenhedlu. Dyna sy’n gwneud ein planed yn unigryw ac yn hardd. A heddiw, rydyn ni’n gwybod mwy am bethau byw nag erioed o’r blaen. Beth mae bywyd yn ei ddweud wrthon ni am ei darddiad? Ystyriwch y canlynol.

Mae’n ymddangos bod bywyd wedi cael ei ddylunio. Mae popeth byw wedi cael ei adeiladu o gelloedd. Yn debyg i ffatrïoedd bychan bach, maen nhw’n gwneud miloedd o bethau hynod o gymhleth er mwyn cynnal bywyd ac atgenhedlu. Mae hynny’n wir hyd yn oed yn y pethau symlaf. Er enghraifft, ystyriwch furum sych, sy’n organeb un gell. O’i chymharu â’r gell ddynol, efallai fod cell burum yn ymddangos yn syml. Ond eto, mae hi’n hynod o gymhleth. Mae gan gelloedd burum gnewyllyn, sy’n cynnwys DNA. Mae ganddyn nhw “beiriannau” microsgopig sy’n sortio, yn cludo, ac yn addasu moleciwlau—camau sy’n hanfodol er mwyn i’r organebau hyn allu byw. Pan mae cell burum yn rhedeg allan o fwyd, mae’n cychwyn proses gemegol gymhleth sy’n ei arafu nes iddi gysgu fel petai. Mae hyn yn caniatáu i furum sych aros yn anweithredol ond eto’n dal yn fyw yn y cwpwrdd nes iddo gael ei ddeffro yn y broses bobi.

Mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio celloedd burum am ddegawdau er mwyn deall celloedd dynol yn well. Ond mae ’na dal fwy i’w ddarganfod. “Does ’na ddim digon o fiolegwyr o gwmpas i wneud yr holl arbrofion rydyn ni eisiau eu gwneud i ddeall sut mae burum yn gweithio hyd yn oed,” meddai Ross King, athro ym Mhrifysgol Technoleg Chalmers yn Sweden.

Beth rydych chi’n ei feddwl? Ydy cymhlethdod rhyfeddol cell burum yn awgrymu ei bod wedi cael ei dylunio? A allai fod wedi bodoli heb ddyluniwr?

Gall bywyd ond dod o fywyd. Mae DNA wedi ei wneud allan o foleciwlau o’r enw niwcleotidau. Mae gan bob cell ddynol 3.2 biliwn niwcleotid. Mae’r cyfuniad hwn o gemegion wedi ei osod mewn patrwm manwl fel bod y gell yn gallu creu ensymau a phroteinau.

Mae’r tebygolrwydd o hyd yn oed y llinyn symlaf o niwcleotidau yn ffurfio’r patrwm cywir ohono’i hun wedi cael ei gyfrifo i fod yn 1 mewn 10150 (1 wedi ei ddilyn gan 150 sero). Mae hyn mor annhebygol, waeth inni ddweud ei fod yn amhosib.

Y ffaith amdani yw, does ’na’r un arbrawf gwyddonol sydd wedi profi bod rhywbeth byw yn gallu tarddu o rywbeth sydd ddim yn fyw.

Mae bywyd dynol yn unigryw. Fel bodau dynol, mae gynnon ni nodweddion sy’n ein galluogi i fwynhau bywyd yn llawn—ac mewn ffyrdd dydy’r un rhywogaeth arall yn gallu eu gwneud. Mae gynnon ni sgiliau creadigol a chymdeithasol uchel, ac rydyn ni’n dangos teimladau mewn ffordd unigryw. Rydyn ni’n ymwybodol o wahanol fathau o flasau, arogleuon, synau, lliwiau, a golygfeydd, ac yn eu mwynhau. Rydyn ni’n cynllunio ar gyfer y dyfodol ac yn edrych am ystyr mewn bywyd.

Beth rydych chi’n ei feddwl? A wnaeth y nodweddion hynny esblygu ynon ni am ein bod eu hangen nhw i aros yn fyw ac i atgenhedlu? Neu tybed a ydyn nhw’n dangos bod bywyd yn anrheg oddi wrth Greawdwr cariadus?