Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Tystion Jehofa a’r Holocost—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Tystion Jehofa a’r Holocost—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Ar 27 Ionawr, 2023, bydd pobl mewn llawer o wledydd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Holocost. Ar ôl dysgu am erchyllterau’r cyfnod hwnnw, dros 75 o flynyddoedd yn ôl, efallai byddwch chi’n gofyn pam roedd Duw yn caniatáu i’r Holocost ddigwydd.

 Roedd Iddewon yn dioddef yn ofnadwy yn yr Holocost. Cafodd miliynau eu lladd mewn ffordd systematig. Cafodd grwpiau eraill eu herlid a’u lladd hefyd yn ystod yr Holocost. Yn eu plith oedd Tystion Jehofa, a gafodd eu herlid oherwydd eu daliadau Beiblaidd.

“Dyfodol llawn gobaith”

 Mae llawer yn poeni y gallai rhywbeth tebyg i’r Holocost ddigwydd eto. Ond mae’r Beibl yn sôn am amser pan fydd pob trychineb o’r fath yn perthyn i’r gorffennol.

  •   “Fi sy’n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i’n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.”—Jeremeia 29:11.

 Bydd yr addewid hwn yn cael ei wireddu pan fydd Jehofa Dduw a yn dod â phob drygioni i ben a dad-wneud yr holl niwed y mae drygioni wedi ei achosi. Yn fuan iawn bydd Duw:

  •   Yn cael gwared ar bobl ddrwg sy’n niweidio eraill.—Salm 37:10.

  •   Yn iacháu pawb sydd wedi dioddef.—Datguddiad 21:4.

  •   Yn dod â’r meirw yn ôl i fyw ar y ddaear.—Ioan 5:28, 29.

 Gallwch ddibynnu ar y gobaith mae’r Beibl yn ei gynnig. I ddysgu pam mae hynny yn wir, rydyn ni’n eich gwahodd chi i edrych ar ein cwrs astudio’r Beibl. Mae’r cwrs am ddim ac mae arweiniad ar gael.

a Enw personol Duw yw Jehofa.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.