Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Fydd y Cri am Gyfiawnder yn Cael ei Glywed?

A Fydd y Cri am Gyfiawnder yn Cael ei Glywed?

 Mae’n ymddangos bod anghyfiawnder ym mhobman. Ystyriwch ddwy esiampl o’r system cyfiawnder troseddol:

  •   Ym mis Ionawr 2018, gorchmynnodd barnwraig yn yr Unol Daleithiau i ddyn oedd wedi cael ei garcharu am bron i 38 mlynedd gael ei ryddhau. Cafodd ei brofi’n ddieuog gan dystiolaeth DNA.

  •   Ym mis Medi 1994, cafodd tri dyn ifanc mewn un wlad yn Affrica eu carcharu am eu gwrthwynebiad cydwybodol i wasanaethu yn y fyddin. Erbyn Medi 2020, roedden nhw wedi treulio 26 mlynedd yn y carchar heb gael eu cyhuddo’n ffurfiol o drosedd na chael eu dwyn o flaen llys.

 Os ydych chi wedi dioddef anghyfiawnder, efallai byddwch chi’n teimlo fel gwnaeth Job yn adeg y Beibl, a ddywedodd: “Dw i’n . . . gweiddi am help, ond does dim tegwch.” (Job 19:7) Ond er bod gwir gyfiawnder efallai’n ymddangos fel dim ond breuddwyd, mae’r Beibl yn addo adeg pan fydd y cri am gyfiawnder yn cael ei glywed. Ar ben hynny, gall ei ddoethineb eich helpu i ddelio ag anghyfiawnder nawr.

Beth sy’n achosi anghyfiawnder?

 Mae anghyfiawnder yn digwydd pan fydd pobl yn gwrthod arweiniad Duw. Mae’r Beibl yn dangos bod Duw wastad yn gwneud y peth cyfiawn. (Eseia 51:4) Yn y Beibl, mae ’na gysylltiad agos rhwng gwneud y peth iawn a gwneud y peth teg. (Salm 33:5) Pan fydd pobl yn gwneud yr hyn sy’n iawn yn ôl safonau Duw, byddan nhw’n trin eraill yn deg. Ar y llaw arall, mae anghyfiawnder yn dod o ganlyniad i bechod, sy’n golygu bod pobl yn mynd yn erbyn safonau cyfiawn Duw. Ystyriwch yr esiamplau canlynol:

  •   Hunanoldeb. Mae ’na gysylltiad agos rhwng dymuniadau hunanol a phechod. (Iago 1:14, 15) Er mwyn cael yr hyn maen nhw eisiau, mae llawer yn cymryd mantais o bobl eraill drwy eu trin nhw’n annheg. Yn wahanol i hyn, mae Duw eisiau inni roi lles pobl eraill yn gyntaf.—1 Corinthiaid 10:24.

  •   Anwybodaeth. Gall rhai drin eraill yn annheg heb hyd yn oed sylweddoli, ond eto mae hyn yn dal yn bechod yng ngolwg Duw. (Rhufeiniaid 10:3, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mewn gwirionedd, anwybodaeth oedd y tu ôl i un o’r anghyfiawnderau gwaethaf oll—dienyddiad Iesu Grist.—Actau 3:15, 17.

  •   Systemau dynol sydd wedi methu. Mewn egwyddor, dylai systemau gwleidyddol, masnachol, a chrefyddol y byd hyrwyddo triniaeth deg a chyfiawnder cymdeithasol. Ond mewn gwirionedd, y systemau hyn sy’n aml yn achosi camgymeriadau, llygredd, rhagfarn, trachwant, annhegwch ariannol eithafol, ac anoddefgarwch—gall unrhyw un o’r rhain arwain at anghyfiawnder. Mae rhai o’r systemau hyn yn cael eu hyrwyddo gan bobl â chymhellion da. Ond yn y pen draw, mae unrhyw ymdrechion dynol sy’n anwybyddu arweiniad Duw yn sicr o fethu.—Pregethwr 8:9; Jeremeia 10:23.

Ydy anghyfiawnder yn bwysig i Dduw?

 Ydy, mae Duw yn casáu anghyfiawnder a’r agweddau a gweithredoedd sy’n ei achosi. (Diarhebion 6:16-18) Ysbrydolodd Duw y proffwyd Eseia i ysgrifennu: “Rwyf fi, yr ARGLWYDD, a yn hoffi cyfiawnder, ac yn casáu trais a chamwri [anghyfiawnder].”—Eseia 61:8, BCND.

 Roedd y Gyfraith a roddodd Duw i’r Israeliaid gynt yn dangos ei fod eisiau i’r bobl fod yn deg. Gorchmynnodd i’w barnwyr wrthod breibiau a gweithredoedd eraill a allai wyrdroi cwrs cyfiawnder. (Deuteronomium 16:18-20) Cafodd yr Israeliaid, a oedd yn anufuddhau iddo drwy gymryd mantais ar y tlawd a’r anghenus, eu condemnio ganddo, ac yn y pen draw gwnaeth ef eu gwrthod am fethu â chadw ei safonau.—Eseia 10:1-3.

A fydd Duw yn cael gwared ar anghyfiawnder?

 Bydd. Drwy Iesu Grist, bydd Duw yn cael gwared ar bechod, sef gwraidd anghyfiawnder, ac yn adfer y teulu dynol i berffeithrwydd. (Ioan 1:29; Rhufeiniaid 6:23) Mae ef hefyd wedi sefydlu Teyrnas a fydd yn dod â byd newydd cyfiawn lle fydd pawb yn cael eu trin yn deg. (Eseia 32:1; 2 Pedr 3:13, BCND) Er mwyn dysgu mwy am y Deyrnas nefol honno, gwyliwch y fideo Beth Yw Teyrnas Dduw?

Sut bydd bywyd yn y byd newydd cyfiawn?

 Pan fydd cyfiawnder yn llenwi’r ddaear, y canlyniad fydd heddwch a diogelwch i bawb. (Eseia 32:16-18) Mae pob bywyd dynol yr un mor werthfawr yng ngolwg Duw, felly bydd pawb yn cael ei drin yn deg. Bydd y tristwch, y wylo, a’r boen sy’n dod o anghyfiawnder wedi mynd am byth, a bydd hyd yn oed atgofion poenus anghyfiawnder yn diflannu’n raddol o’r cof. (Eseia 65:17; Datguddiad 21:3, 4) Am fwy o fanylion, gweler yr erthygl “Beth Bydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?

A allwch chi gredu addewid Duw am fyd heb anghyfiawnder?

 Gallwch. Mae gan y Beibl hanes dibynadwy o broffwydoliaeth yn dod yn wir, cywirdeb gwyddonol a hanesyddol, a chytundeb mewnol. Mae hyn i gyd yn dangos eich bod chi’n gallu ymddiried yn ei addewidion. Mae manylion pellach i’w cael yn yr erthyglau canlynol:

Beth am frwydro anghyfiawnder heddiw?

 Roedd pobl dda yn adeg y Beibl yn gwneud beth allan nhw i osgoi cael eu trin yn annheg. Er enghraifft, cafodd yr apostol Paul ei fygwth â threial annheg a allai fod wedi arwain at ei farwolaeth. Yn hytrach na derbyn y fath anghyfiawnder, defnyddiodd ei hawliau cyfreithiol ac apeliodd at Gesar.—Actau 25:8-12.

 Ond y gwir amdani yw, mae ymdrechion dynol i gywiro’r holl anghyfiawnder yn y byd hwn yn sicr o fethu. (Pregethwr 1:15) Eto, mae llawer wedi gweld bod adeiladu eu ffydd yn addewid Duw o fyd newydd cyfiawn wedi eu helpu i gael heddwch meddwl yn wyneb triniaeth annheg.

a Mae “ARGLWYDD” yn cyfeirio at enw personol Duw, Jehofa.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.