Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CreativeDesignArt/DigitalVision Vectors via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Ai Dim Ond Breuddwyd Yw Cydraddoldeb Hiliol?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Ai Dim Ond Breuddwyd Yw Cydraddoldeb Hiliol?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 I lawer o bobl, mae cydraddoldeb hiliol yn dal yn freuddwyd sydd heb ei gwireddu.

  •   “Mae hiliaeth yn dal i wenwyno sefydliadau, strwythur y gymdeithas, a bywyd bob dydd pobl ym mhob man. Mae’n dal i fod yn ffactor allweddol mewn anghydraddoldeb parhaus.”—António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

 A fyddwn ni’n gweld cydraddoldeb hiliol ryw ddydd? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Agwedd Duw tuag at gydraddoldeb hiliol

 Mae’r Beibl yn dangos sut mae Duw yn gweld pobl o wahanol hiliau.

  •   “Allan o un dyn, fe wnaeth [Duw] bob cenedl o ddynion i fyw ar holl wyneb y ddaear.”—Actau 17:26.

  •   “Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth, ond ym mhob cenedl, mae’r dyn sy’n ei ofni ac sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dderbyniol iddo.”—Actau 10:34, 35.

 Mae’r Beibl yn dangos bod pawb ar y ddaear yn perthyn i’r un teulu a bod Duw yn derbyn pobl o bob hil.

Sut caiff y freuddwyd am gydraddoldeb hiliol ei gwireddu?

 Caiff y freuddwyd am gydraddoldeb hiliol ei gwireddu o dan Deyrnas Dduw, sydd yn llywodraeth nefol. Bydd y llywodraeth honno’n dysgu pobl sut i drin eraill mewn ffordd deg. Bydd pobl yn dysgu sut i gael gwared ar unrhyw ragfarn hiliol sy’n llechu yn eu calonnau.

  •   “Bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.”—Eseia 26:9, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

  •   “Bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch, ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.”—Eseia 32:17.

 Heddiw, mae miliynau o bobl yn dysgu o’r Beibl sut i drin eraill â pharch ac urddas.