Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 96

Llyfr Duw—Trysor Yw

Llyfr Duw—Trysor Yw

(Diarhebion 2:1)

  1. 1. Mae yna lyfr, ac yn ei dudalennau

    Mae gobaith byd o hedd i ddynol ryw.

    Y mae ei eiriau’n medru treiddio’r galon—

    Mae neges Duw yn rymus ac yn fyw.

    Y trysor gwerthfawr hwn yw’r Beibl Sanctaidd,

    Gwir euraidd anrheg yw gan Dduw i ddyn.

    Gan ysbryd glân cymhellwyd dynion ffyddlon

    I ysgrifennu’r cyfan yn gytûn.

  2. 2. Darllenwn ynddo hanes creadigaeth—

    Am Dduw yn creu’r bydysawd drwy ei rym,

    Am y dyn cyntaf, Adda, dyn heb bechod,

    A sut a pham y collodd ef bob dim.

    Mae hanes angel, twyllwr ac enllibiwr,

    A heriodd hawl sofraniaeth Duw ei hun.

    O hyn daeth inni bechod, poen, a dagrau,

    Ond bydd Jehofa Dduw yn cario’r dydd.

  3. 3. Ac felly, rheswm sydd dros fod yn llawen,

    Fe glyw y sawl a rydd i’w Air ei glust

    Y newydd da am Deyrnas Dduw Jehofa

    Ac am ei Frenin cyfiawn, Iesu Grist.

    Nid oes dim un llyfr arall yn bodoli

    Sy’n cynnig gobaith i holl ddynol ryw.

    Mae’n llyfr arbennig, gwerthfawr, ac unigryw,

    Mae’n amhrisiadwy—Trysor yw gan Dduw.

(Gweler hefyd 2 Tim. 3:16; 2 Pedr 1:21.)