Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 84

Rhown Help Llaw

Rhown Help Llaw

(Mathew 9:37, 38)

  1. 1. Jehofa Dduw a ŵyr yn iawn

    Sut gallwn fyw bywydau llawn,

    Ac felly rhoi i ni y mae

    Waith sy’n gyffrous mewn llawer maes.

    (CYTGAN)

    Rhown help llaw, rhown o’n dawn,

    Dangos cariad wnawn.

    Pan welwn angen mawr, yno’r awn—

    Awn i roi help llaw.

  2. 2. Ledled y byd mae angen mawr

    Am wirfoddolwyr cariadlawn.

    Dyheuwn fynd i roi help llaw;

    Lle gwelwn fwlch, i’r adwy’r awn.

    (CYTGAN)

    Rhown help llaw, rhown o’n dawn,

    Dangos cariad wnawn.

    Pan welwn angen mawr, yno’r awn—

    Awn i roi help llaw.

  3. 3. Heb fynd ymhell o’n milltir sgwâr,

    Cawn fod yn chwa o awyr iach;

    Cawn bontio bwlch, cawn ddysgu iaith,

    Cawn hogi sgìl a’i roi ar waith.

    (CYTGAN)

    Rhown help llaw, rhown o’n dawn,

    Dangos cariad wnawn.

    Pan welwn angen mawr, yno’r awn—

    Awn i roi help llaw.