Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 79

Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn

Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn

(Mathew 28:19, 20)

  1. 1. Pleser pur yw dysgu’r defaid mwyn—

    Gweld eu tyfiant, hyfryd yw.

    Mae Jehofa wedi’u harwain hwy,

    Iddynt oll mae’r gwir yn fyw.

    (CYTGAN)

    Jehofa, Gofyn rydym ni,

    Yn daer, yn enw Iesu Grist,

    I ti eu cadw’n d’ofal clyd—Gwir lwyddiant gânt.

    Ar graig yn gadarn sefyll wnânt.

  2. 2. Aml weddi gofynasom ni

    Pan oedd prawf mawr ar eu ffydd.

    Lawer awr o ofal rhoesom ni.

    Safant nawr ar sail sy’n gryf.

    (CYTGAN)

    Jehofa, Gofyn rydym ni,

    Yn daer, yn enw Iesu Grist,

    I ti eu cadw’n d’ofal clyd—Gwir lwyddiant gânt.

    Ar graig yn gadarn sefyll wnânt.

  3. 3. Wrth gryfhau eu ffydd yn Nuw a’i Fab

    Ceisiant wneud eu gorau glas.

    Wrth ddal ati, gwerthfawr fendith gânt,

    Ennill byddant yn y ras.

    (CYTGAN)

    Jehofa, Gofyn rydym ni,

    Yn daer, yn enw Iesu Grist,

    I ti eu cadw’n d’ofal clyd—Gwir lwyddiant gânt.

    Ar graig yn gadarn sefyll wnânt.