Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 101

Cydweithio Mewn Undod

Cydweithio Mewn Undod

(Effesiaid 4:3)

  1. 1. Mae yr holl ddynoliaeth ar chwâl,

    Ond y mae ein hundod mor braf.

    Rydym wedi’n casglu gan Dduw.

    Ein hundod, hyfryd yw.

    Yn y praidd cawn heddwch

    A llawenydd pur.

    Wrth gydweithio, mwy o waith wnawn,

    Teg arweiniad Iesu fwynhawn.

    Harmoni a chytgord yw’n nod.

    Hapus a llon cawn fod.

  2. 2. Ceisiwn roi ein hundod ar waith,

    Dysgwn eiriau mwyn y bur iaith,

    Pontio’r bwlch rhwng gwybod a gwneud,

    Hafan o hedd cawn greu.

    Caru wnawn ein ceraint,

    Teulu clyd ’dyn ni.

    Gydag undod, gweithiwn fel tîm,

    Gyda’n heddwch, awn yn gytûn.

    Ym mhlith llawen gwmni cawn fyw

    Wrth ganu clod ein Duw.

(Gweler hefyd Mich. 2:12; Seff. 3:9; 1 Cor. 1:10.)