Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 10

Clodfori Ein Duw Jehofa

Clodfori Ein Duw Jehofa

(Salm 145:12)

  1. 1. Canwch glod, clod Jehofa Dduw!

    Enw’r Iôr cyhoeddwch i’r byd!

    ‘Dod yn nes mae’r angerddol ddydd,’

    Dweud a wnawn wrth bobloedd dae’r i gyd.

    Swydd uchel a roes Jehofa i’w Fab—

    Dros y Cread, mawr Frenin yw.

    Gwahoddiad a rown wrth dystio am hyn—

    ‘Dewch i brofi bendithion gwiw.’

    (CYTGAN)

    Mawl a chlod i Jehofa Dduw!

    Boed i’w fawredd lenwi’r ddaear gron!

  2. 2. Canwn glod! Cân o’r galon rhown!

    Canwn fawl! Moliannwn yr Iôr!

    Am ragoriaeth ei enw glân

    Tystio’n selog wnawn dros dir a môr.

    Ysblander a nerth sy’n perthyn i’n Duw;

    Ond, yn dyner, ei help mae’n rhoi.

    Mae’n gwrando, mae’n deall beth yw ein cais—

    Mae’n ymateb i’n llais yn glou.

    (CYTGAN)

    Mawl a chlod i Jehofa Dduw!

    Boed i’w fawredd lenwi’r ddaear gron!

(Gweler hefyd Salm 89:27; 105:1; Jer. 33:11.)