Neidio i'r cynnwys

Ydy Ysmygu yn Bechod?

Ydy Ysmygu yn Bechod?

Ateb y Beibl

 Nid yw’r Beibl yn sôn am ysmygu a nac unrhyw ffordd arall o ddefnyddio tybaco. Ond, mae’n cynnwys egwyddorion sy’n dangos bod Duw ddim yn cymeradwyo arferion sy’n afiach ac yn aflan, ac felly’n gweld ysmygu yn bechod.

  •   Parch am fywyd. “Duw . . . sy’n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.” (Actau 17:24, 25) Gan fod bywyd yn rhodd gan Dduw, dylen ni beidio â gwneud unrhyw beth a fyddai’n cwtogi ein bywyd, fel ysmygu. Ledled y byd, mae ysmygu yn un o brif achosion marwolaeth y gellir ei atal.

  •   Cariad am gymydog. “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” (Mathew 22:39) Nid yw ysmygu yng nghwmni eraill yn dangos cariad. Mae pobl sy’n mewnanadlu mwg ail-law yn rheolaidd mewn mwy o berygl o gael yr un heintiau ag y mae ysmygwyr yn eu cael.

  •   Yr angen i fod yn sanctaidd. “Cyflwyno eich hunain [i Dduw] yn aberth byw​—un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo.” (Rhufeiniaid 12:1) “Gadewch i ni lanhau’n hunain o unrhyw beth allai’n gwneud ni’n aflan. Am fod Duw i’w ofni, gadewch i ni gyrraedd at y nod o roi’n hunain iddo yn bobl lân.” (2 Corinthiaid 7:1) Mae ysmygu yn rhywbeth annaturiol sy’n mynd yn groes i sancteiddrwydd​—hynny yw, glendid a phurdeb​—oherwydd bod ysmygwyr yn cymryd tocsinau i’w cyrff yn fwriadol, sy’n gwneud niwed difrifol iddyn nhw.

Ydy’r Beibl yn dweud rhywbeth am ddefnydd cyffuriau adloniant fel mariwana?

 Nid yw’r Beibl yn sôn am mariwana, neu gyffuriau tebyg, wrth eu henw. Ond mae’n cynnwys egwyddorion sy’n gwahardd defnyddio sylweddau caethiwus o’r fath yn adloniadol. Yn ychwanegol i’r egwyddorion blaenorol, mae’r canlynol hefyd i’w hystyried:

  •   Yr angen i reoli ein galluoedd meddyliol. “Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw . . . a’th holl feddwl.” (Mathew 22:37, 38) “Gwyliwch sut ydych chi’n ymddwyn.” (1 Pedr 1:​13) Ni all berson reoli ei feddwl na’i ymddygiad yn llwyr wrth gamddefnyddio cyffuriau, ac mae llawer o bobl yn mynd yn gaeth i’w dylanwad. Mae eu bryd ar gael a defnyddio cyffuriau yn hytrach nac ar bethau adeiladol.​—Philipiaid 4:8.

  •   Ufudd-dod i gyfreithiau seciwlar. “Rhaid iddyn nhw fod yn atebol i’r llywodraeth a’r awdurdodau.” (Titus 3:1) Mae’r gyfraith mewn llawer o wledydd yn gosod rheolau cyfyng ar ddefnyddio rhai cyffuriau. Os ydyn ni eisiau plesio Duw, dylen ni ufuddhau i’r awdurdodau seciwlar.​—Rhufeiniaid 13:1.

a Mae’r term ysmygu yn cyfeirio yma at fewnanadlu mwg tybaco o sigaréts, sigarau, pibellau, neu bibellau dŵr yn fwriadol. Ond, mae’r egwyddorion sy’n cael eu trafod yr un mor gymwys i arferion fel cnoi tybaco, defnyddio snisin, e-sigaréts sydd â chynnwys nicotin, a phethau tebyg.