Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ofalu am Rieni Oedrannus?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ofalu am Rieni Oedrannus?

Ateb y Beibl

 Mae cyfrifoldeb ar blant sydd bellach yn oedolion i sicrhau gofal i’w rhieni oedrannus. Mae’r Beibl yn dweud y dylai plant sy’n oedolion “ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw.” (1 Timotheus 5:4) Pan fydd plant sy’n oedolion yn sicrhau gofal i’w rhieni oedrannus, maen nhw hefyd yn dilyn gorchymyn y Beibl i anrhydeddu eu rhieni.—Effesiaid 6:2, 3, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

 Nid yw’r Beibl yn rhoi cyfarwyddiadau manwl ar sut i ofalu am rieni sy’n heneiddio. Ond mae’n cynnwys esiamplau o’r hyn y mae pobl ffyddlon wedi ei wneud. Mae hefyd yn rhoi cyngor a all fod yn help ymarferol i’r rhai sy’n gofalu am eraill.

 Sut roedd rhai teuluoedd yn gofalu am rieni oedrannus yn amser y Beibl?

 Roedden nhw’n gofalu mewn sawl ffordd wahanol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

  •   Joseff: Roedd Joseff yn byw yn bell o’i dad oedrannus, Jacob. Pan gafodd Joseff y cyfle, trefnodd i Jacob symud i fyw yn nes ato. O hynny ymlaen, rhoddodd Joseff gartref, bwyd, a gofal i’w dad.—Genesis 45:9-11; 47:11, 12.

  •   Ruth: Symudodd Ruth i wlad ei mam yng nghyfraith gan weithio’n ddiflino i ofalu amdani.—Ruth 1:16; 2:2, 17, 18, 23.

  •   Iesu: Ychydig cyn iddo farw, dewisodd Iesu rywun i ofalu am ei fam, Mair, a oedd yn wraig weddw erbyn hynny yn ôl pob tebyg.—Ioan 19:26, 27. a

 Pa gyngor ymarferol o’r Beibl sy’n gallu helpu gofalwyr?

 Mae’r Beibl yn cynnwys egwyddorion sy’n gallu helpu gofalwyr i ymdrin â’r blinder corfforol ac emosiynol sydd weithiau’n wynebu’r rhai sy’n gofalu am rieni oedrannus.

  •   Anrhydeddwch eich rhieni.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Anrhydedda dy dad a’th fam.”—Exodus 20:12, BCND.

     Sut mae rhoi’r egwyddor ar waith? Anrhydeddwch eich rhieni drwy eu helpu i aros mor annibynnol ag y mae eu hiechyd yn caniatáu. Cyn belled â phosib, gadewch iddyn nhw benderfynu pa ofal sydd ei angen. Ar yr un pryd, gallwch eu hanrhydeddu drwy wneud popeth a allwch o fewn rheswm i’w helpu.

  •   Byddwch yn amyneddgar ac yn faddeugar.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i’w ganmol am faddau i rywun sy’n pechu yn ei erbyn.”—Diarhebion 19:11.

     Sut mae rhoi’r egwyddor ar waith? Os bydd rhiant oedrannus yn dweud rhywbeth angharedig, neu i’w weld yn anniolchgar am eich help, gofynnwch i chi’ch hun, ‘Sut byddwn i’n teimlo petaswn i’n methu gwneud y pethau roeddwn i’n arfer eu gwneud?’ Drwy geisio cydymdeimlo a maddau, gallwch osgoi gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth.

  •   Ymgynghorwch ag eraill.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cynlluniau’n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.”—Diarhebion 15:22.

     Sut mae rhoi’r egwyddor ar waith? Ymchwiliwch am wybodaeth am y ffordd orau i reoli problemau iechyd eich rhieni. Ceisiwch gael gwybod pa adnoddau sydd ar gael yn eich ardal chi i helpu gyda’u gofal. Siaradwch ag eraill sydd wedi gofalu am rieni mewn oed. Os oes gynnoch chi frodyr a chwiorydd, ystyriwch gyfarfod fel teulu i drafod anghenion eich rhieni, sut i gwrdd â’r anghenion, a sut i rannu’r gwaith.

    Ystyriwch gyfarfod fel teulu i drafod anghenion rhieni oedrannus

  •   Byddwch yn rhesymol.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Pobl wylaidd ydy’r rhai doeth.”—Diarhebion 11:2.

     Sut mae rhoi’r egwyddor ar waith? Cofiwch na allwch chi wneud pob peth. Mae terfyn ar amser ac egni pob un ohonon ni ac mae’n rhaid bod yn realistig. Bydd y cyfyngiadau hyn yn penderfynu faint rydych chi’n gallu ei wneud dros eich rhieni. Os ydych yn teimlo bod gofalu am eich rhieni oedrannus yn mynd yn ormod ichi, ystyriwch ofyn am help gan aelodau’r teulu neu ofalwyr proffesiynol.

  •   Gofalwch am eich anghenion eich hun.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain—maen nhw’n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw.”—Effesiaid 5:29.

     Sut mae rhoi’r egwyddor ar waith? Er bod cyfrifoldeb arnoch chi i ofalu am eich rhieni, mae hefyd yn bwysig ichi ofalu am eich anghenion eich hun, ac anghenion eich cymar a’ch plant. Mae angen ichi fwyta’n iach. Mae’n rhaid ichi gael gorffwys a ddigon o gwsg. (Pregethwr 4:6) Ac mae angen cael seibiant o bryd i’w gilydd, pan fydd hynny’n bosib. Drwy wneud y pethau hyn, byddwch mewn sefyllfa well—yn emosiynol, yn feddyliol, ac yn gorfforol—i edrych ar ôl eich rhieni.

 Ydy’r Beibl yn dweud bod rhaid gofalu am rieni oedrannus yn y cartref?

 Nid yw’r Beibl yn dweud bod plant, sydd bellach yn oedolion,yn gorfod gofalu am eu rhieni yn y cartref. Mae rhai teuluoedd yn dewis cadw eu rhieni oedrannus gartref mor hir â phosib. Ond efallai fe ddaw’r dydd pan fydd gofal preswyl yn ddewis gwell. Gall y teulu gyfarfod i benderfynu beth sydd orau i bawb.—Galatiaid 6:4, 5.

a Dywed un esboniad ar y Beibl am hyn: “Mae’n debyg bod Joseff [gŵr Mair] wedi hen farw erbyn hyn, a bod ei mab Iesu wedi ei chynnal hi ers hynny, ond beth fyddai’n digwydd iddi nawr bod Iesu yn marw? . . . Yma mae Crist wedi dysgu plant i ddarparu dros eu rhieni yn eu henaint.”—The NIV Matthew Henry Commentary in One Volume, tudalennau 428-429.