Neidio i'r cynnwys

A Wnaeth Moses Ysgrifennu’r Beibl?

A Wnaeth Moses Ysgrifennu’r Beibl?

Ateb y Beibl

 Defnyddiodd Duw Moses i ysgrifennu pum llyfr cyntaf y Beibl: Genesis, Exodus, Lefiticus, Numeri, a Deuteronomium. Mae’n debyg iddo ysgrifennu llyfr Job a Salm 90 hefyd. Ond dim ond un o ryw 40 o bobl a ddefnyddiwyd gan Dduw i ysgrifennu’r Beibl oedd Moses.