Neidio i'r cynnwys

Eisiau Marw​—Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ymdopi â Meddyliau Hunanladdol?

Eisiau Marw​—Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ymdopi â Meddyliau Hunanladdol?

Ateb y Beibl

 Ydy! Mae’r Beibl yn dod oddi wrth Dduw sy’n “cysuro’r rhai sy’n ddigalon.” (2 Corinthiaid 7:6) Nid llawlyfr ar gyfer iechyd meddwl mo’r Beibl, ond y mae wedi helpu llawer i drechu teimladau hunanladdol. Mae ei gyngor ymarferol yn gallu eich helpu chi hefyd.

 Pa gyngor ymarferol sydd yn y Beibl?

  • Dywedwch wrth rywun am eich teimladau.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.

     Ystyr: Pan fydd ein teimladau yn ein llethu, mae angen cymorth pobl eraill arnon ni.

     Os ydych chi’n cuddio eich teimladau, gall y baich fynd yn ormod i’w gario. Ond gall rhannu eich teimladau leihau’r straen a’ch helpu i gael golwg newydd ar y sefyllfa.

     Rhowch gynnig ar hyn: Siaradwch â rhywun heddiw, efallai yn aelod teulu, neu’n ffrind agos. a Gallwch hefyd roi eich meddyliau ar bapur.

  • Ewch am gymorth proffesiynol.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl.”—Mathew 9:12.

     Ystyr: Dylen ni fynd am gymorth meddygol pan fyddwn ni’n sâl.

     Gall teimladau hunanladdol fod yn symptom o salwch meddwl neu emosiynol. Yn debyg i salwch corfforol, nid rhywbeth i deimlo cywilydd ohono yw salwch meddwl. Mae triniaeth ar gael.

     Rhowch gynnig ar hyn: Ewch am gymorth gan feddyg sydd â chymhwyster yn y maes, cyn gynted â phosib.

  • Cofiwch fod Duw yn eich caru.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae Duw’n gofalu am bob un aderyn bach. Dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! . . . Felly peidiwch bod ofn dim byd.”—Luc 12:6, 7.

     Ystyr: Rydych chi’n werthfawr iawn i Dduw.

     Efallai byddwch yn teimlo ar eich pen eich hun, ond mae Duw yn gweld yn union beth rydych yn ei ddioddef. Rydych chi’n dal yn annwyl iddo, hyd yn oed os ydych chi wedi colli’r awydd i fyw. Dywed Salm 51:17: “Ysbryd wedi ei ddryllio, calon wedi ei thorri, . . . Wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw.” Mae Duw eisiau ichi fyw oherwydd ei fod yn eich caru.

     Rhowch gynnig ar hyn: Edrychwch ar dystiolaeth yn y Beibl sy’n dangos bod Duw yn eich caru. Er enghraifft, gweler yr erthygl “Mae Jehofa yn Gofalu Amdanat Ti” yn y Tŵr Gwylio Mehefin 2016, tudalennau 3-5, a phennod 24 o’r llyfr Saesneg Draw Close to Jehovah.

  • Gweddïwch ar Dduw.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw [i Dduw], achos mae e’n gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 5:7.

     Ystyr: Mae Duw yn gofyn ichi agor eich calon iddo a sôn wrtho am unrhyw beth sy’n pwyso ar eich meddwl.

     Mae Duw yn gallu rhoi ichi heddwch meddwl a’r nerth sydd ei angen i ddal ati. (Philipiaid 4:6, 7, 13, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Dyma’r ffordd y mae’n cynnal y rhai sy’n troi ato am help.—Salm 55:22.

     Rhowch gynnig ar hyn: Gweddïwch ar Dduw heddiw. Defnyddiwch ei enw Jehofa, a dywedwch wrtho am eich teimladau. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gofynnwch iddo i’ch helpu i ddal ati.

  • Myfyriwch ar y gobaith y mae’r Beibl yn ei gynnig.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r gobaith hwn yn obaith sicr—mae fel angor i’n bywydau ni, yn gwbl ddiogel.”—Hebreaid 6:19.

     Ystyr: Gall eich teimladau newid o un munud i’r llall nes eich bod chi’n teimlo fel llong mewn storm, ond bydd y gobaith yn y Beibl yn eich helpu i deimlo’n fwy sefydlog.

     Nid breuddwyd ofer yw’r gobaith hwn, ond un sy’n seiliedig ar addewid Duw i gael gwared ar y pethau sy’n achosi poen inni.—Datguddiad 21:4.

     Rhowch gynnig ar hyn: Dysgwch fwy am y gobaith yn y Beibl drwy ddarllen gwers 5 yn y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!

  • Gwnewch rywbeth rydych chi’n ei fwynhau.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae llawenydd yn iechyd i’r corff.”—Diarhebion 17:22.

     Ystyr: Mae gwneud pethau sy’n dod â llawenydd inni’n gallu cael effaith dda ar ein hiechyd meddwl a’n hemosiynau.

     Rhowch gynnig ar hyn: Gwnewch rywbeth rydych chi fel arfer yn ei fwynhau. Er enghraifft, treuliwch amser yn gwrando ar gerddoriaeth, yn darllen rhywbeth calonogol, neu’n gwneud hobi. Byddwch chi’n teimlo’n hapusach hefyd os gwnewch chi rywbeth i helpu rhywun arall, ni waeth pa mor syml.—Actau 20:35.

  • Gofalwch am eich iechyd corfforol.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ymarfer corff yn beth da.”—1 Timotheus 4:8.

     Ystyr: Mae bwyta’n iach, cael digon o gwsg, a gwneud ymarfer corff yn gwneud lles inni.

     Rhowch gynnig ar hyn: Ewch am dro; bydd hyd yn oed 15 munud yn helpu.

  • Cofiwch fod teimladau a phethau eraill mewn bywyd yn newid.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory!”—Iago 4:14.

     Ystyr: Mae’n ddigon posib mai rhywbeth dros dro yw’r broblem, hyd yn oed os yw’n edrych y tu hwnt i’ch rheolaeth.

     Ni waeth pa mor dywyll mae’r sefyllfa heddiw, gall pethau newid yfory. Felly chwiliwch am ffyrdd i ymdopi. (2 Corinthiaid 4:8) Mae’n debyg y bydd eich sefyllfa yn newid ymhen amser, ond allwch chi ddim dad-wneud hunanladdiad.

     Rhowch gynnig ar hyn: Darllenwch hanesion yn y Beibl am bobl a oedd eisiau marw oherwydd eu bod mor ddigalon. Gwelwch sut newidiodd eu bywydau er gwell yn y pen draw, a hynny’n aml mewn ffyrdd na allen nhw fod wedi eu rhagweld. Ystyriwch rai esiamplau.

 Oes sôn yn y Beibl am bobl a oedd eisiau marw?

 Oes. Mae’r Beibl yn sôn am nifer o bobl a oedd eisiau marw. Cynnig help a wnaeth Duw, nid eu ceryddu. Fe all Duw wneud yr un fath ichi.

Elias

  •  Pwy oedd Elias? Proffwyd dewr oedd Elias. Ond fe deimlodd yn ddigalon iawn ar adegau. “Dyn cyffredin fel ni oedd Elias,” meddai Iago 5:17.

  •  Pam roedd Elias eisiau marw? Ar un adeg, roedd Elias yn teimlo’n unig, yn ofnus, ac yn dda i ddim. Erfyniodd ar Jehofa: “ARGLWYDD, cymer fy mywyd i.”—1 Brenhinoedd 19:4.

  •  Beth a helpodd Elias? Soniodd Elias wrth Dduw am ei deimladau, gan dywallt ei galon. Sut gwnaeth Duw ei galonogi? Gofalodd Duw amdano, a dangosodd iddo pa mor bwerus ydoedd. Eglurodd i Elias fod ei waith yn dal yn bwysig a rhoddodd ddyn caredig a galluog iddo i’w helpu.

  •  Darllenwch am Elias: 1 Brenhinoedd 19:2-18.

Job

  •  Pwy oedd Job? Dyn cyfoethog gyda theulu mawr oedd Job. Roedd yn addoli’r gwir Dduw yn ffyddlon.

  •  Pam roedd Job eisiau marw? Newidiodd bywyd Job yn sydyn. Collodd ei holl eiddo. Bu farw pob un o’i blant mewn trychineb. Aeth yn ddifrifol wael gyda salwch poenus ofnadwy. Ar ben yr ergydion hyn, cafodd ei gyhuddo ar gam o achosi ei broblemau ei hun. Dywedodd Job: “Dw i wedi cael llond bol, does gen i ddim eisiau byw ddim mwy.”—Job 7:16.

  •  Beth a helpodd Job? Gweddïodd Job ar Dduw a siaradodd â phobl eraill. (Job 10:1-3) Cafodd ei galonogi gan ei ffrind caredig Elihw a’i helpodd i edrych ar ei sefyllfa o safbwynt gwahanol. Yn anad dim, roedd Job yn barod i wrando ar gyngor Duw a derbyn ei help.

  •  Darllenwch am Job: Job 1:1-3, 13-​22; 2:7; 3:1-13; 36:1-7; 38:1-3; 42:1, 2, 10-13.

Moses

  •  Pwy oedd Moses? Proffwyd ffyddlon ac un o arweinwyr Israel gynt oedd Moses.

  •  Pam roedd Moses eisiau marw? Roedd gan Moses gyfrifoldebau mawr. Roedd yn cael ei feirniadu drwy’r amser, ac fe deimlai ei fod wedi blino’n lân. Felly dywedodd wrth Dduw: “Gwna ffafr â mi a lladd fi nawr!”—Numeri 11:11, 15.

  •  Beth a helpodd Moses? Soniodd Moses wrth Dduw am ei deimladau. Trefnodd Duw i Moses gael help i ysgafnhau’r baich a lleihau’r straen.

  •  Darllenwch am Moses: Numeri 11:4-6, 10-17.

a Os ydy eich meddyliau hunanladdol yn dechrau mynd yn drech na chi, ac nad oes anwyliaid ar gael, ffoniwch linell gymorth neu’r gwasanaethau brys.