Neidio i'r cynnwys

Hanes Noa a’r Dilyw—Ai Dim Ond Myth Ydyw?

Hanes Noa a’r Dilyw—Ai Dim Ond Myth Ydyw?

Ateb y Beibl

 Digwyddiad hanesyddol oedd y Dilyw. Duw a ddaeth â’r Dilyw er mwyn dinistrio pobl ddrwg, ond gofynnodd i Noa adeiladu arch i achub y bobl dda a’r anifeiliaid. (Genesis 6:11-20) Gan fod yr hanes yn y Beibl, a “Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd,” gallwn gredu bod y Dilyw wedi digwydd.—2 Timotheus 3:16.

 Ffaith neu chwedl?

 Yn ôl y Beibl, dyn hanesyddol oedd Noa, a digwyddiad hanesyddol yn hytrach na chwedl oedd y Dilyw.

  •   Credai ysgrifenwyr y Beibl mai dyn hanesyddol oedd Noa. Er enghraifft, roedd Esra a Luc yn haneswyr medrus, ac mae’r ddau yn cynnwys Noa yn achau cenedl Israel. (1 Cronicl 1:4; Luc 3:36) Fe wnaeth ysgrifenwyr dwy o’r pedair Efengyl, sef Mathew a Luc, gofnodi sylwadau Iesu am Noa a’r Dilyw.—Mathew 24:37-39; Luc 17:26, 27.

     Cyfeiriodd y proffwyd Eseciel a’r apostol Paul hefyd at Noa fel dyn ffyddlon a chyfiawn i’w efelychu. (Eseciel 14:14, 20; Hebreaid 11:7) A yw’n rhesymol i gredu y byddai’r ysgrifenwyr hyn yn cyfeirio at gymeriad mytholegol fel esiampl i’w dilyn? Yn amlwg, roedd Noa ac eraill yn esiamplau i’w dilyn oherwydd eu bod nhw’n bobl go iawn.—Hebreaid 12:1; Iago 5:17.

  •   Mae’r Beibl yn rhoi manylion penodol am y Dilyw. Mae’r hanes am y Dilyw yn y Beibl yn hollol wahanol i hen chwedlau sy’n dechrau “Un tro, amser maith yn ôl.” Wrth drafod digwyddiadau a oedd yn gysylltiedig â’r Dilyw, mae’r Beibl yn cyfeirio at y flwyddyn, y mis, a’r diwrnod. (Genesis 7:11; 8:4, 13, 14) Mae hefyd yn rhoi mesuriadau’r arch a adeiladodd Noa. (Genesis 6:15) Drwy roi manylion o’r fath, mae’r Beibl yn cyflwyno’r Dilyw fel ffaith, nid chwedl.

 Pam digwyddodd y Dilyw?

 Yn ôl y Beibl, cyn y Dilyw, roedd y ddynoliaeth “yn ofnadwy o ddrwg.” (Genesis 6:5) Mae’n ychwanegu bod “y byd wedi ei sbwylio yng ngolwg Duw,” oherwydd ei fod yn llawn trais ac anfoesoldeb rhywiol.—Genesis 6:11; Jwdas 6, 7.

 Mae’r Beibl yn dweud mai angylion drwg oedd yn gyfrifol am lawer o’r drygioni. Roedden nhw wedi gadael y nef er mwyn cael perthynas rywiol â merched ar y ddaear. Roedd plant yr angylion hyn yn gewri, neu Neffilim, ac fe wnaethon nhw achosi llawer o ddioddefaint i’r bobl oedd yn byw ar y pryd. (Genesis 6:1, 2, 4) Penderfynodd Duw y byddai’n gwaredu’r ddaear o’r holl ddrygioni, a gadael i bobl dda ddechrau o’r newydd.—Genesis 6:6, 7, 17.

 A oedd pobl yn gwybod bod y Dilyw yn dod?

 Oedden. Dywedodd Duw wrth Noa am beth oedd yn mynd i ddigwydd. Gorchmynnodd iddo adeiladu arch i achub ei deulu a’r anifeiliaid. (Genesis 6:13, 14; 7:1-4) Roedd Noa yn rhybuddio eraill am y dinistr i ddod ac “yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.” (2 Pedr 2:5) Ond ni thalon nhw ddim sylw “nes i’r llifogydd ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd!”—Mathew 24:37-39.

 Sut olwg oedd ar yr arch?

 Cist neu flwch mawr hirsgwar oedd yr arch, tua 133 metr (437 troedfedd) o hyd, 22 metr (73 troedfedd) o led, a 13 metr (44 troedfedd) o uchder. a Fe’i gwnaed o goed goffer, sy’n llawn resin, a’i gorchuddio oddi fewn ac oddi allan â phyg. Roedd iddi dri llawr, a nifer o ystafelloedd. Roedd drws yn ei hystlys ac ymddengys fod ffenestri o dan y to. Mae’n debyg bod y to wedi ei godi rywfaint yn y canol fel bod y dŵr yn llifo oddi arno.—Genesis 6:14-16.

 Faint gymerodd i Noa adeiladu’r arch?

 Nid yw’r Beibl yn dweud faint o amser a gymerodd i Noa adeiladu’r arch, ond mae’n debyg iddo dreulio sawl degawd ar y prosiect. Roedd Noa yn fwy na 500 mlwydd oed pan aned ei fab cyntaf, ac roedd yn 600 mlwydd oed pan ddaeth y Dilyw. bGenesis 5:32; 7:6.

 Pan ddywedodd Duw wrth Noa am adeiladu’r arch roedd ei feibion wedi tyfu’n ddynion ac wedi priodi. Byddai hynny wedi cymryd ryw 50 neu 60 o flynyddoedd. (Genesis 6:14, 18) Felly, rhesymol yw credu iddi gymryd 40 neu 50 mlynedd i adeiladu’r arch.

a Mae’r Beibl yn rhoi mesuriadau’r arch mewn cufyddau. “Hyd y cufydd cyffredin Hebreig oedd 17.5 modfedd (44.45 cm).”—The Illustrated Bible Dictionary, Argraffiad Diwygiedig, Rhan 3, tudalen 1635.

b O ran hyd oes pobl fel Noa, gweler yr erthygl “Did People in Bible Times Really Live So Long?” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, rhifyn Rhagfyr 1, 2010.