Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Garu Eich Hun?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Garu Eich Hun?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn dangos ei fod yn briodol ac yn angenrheidiol i garu eich hun i raddau rhesymol. Mae cariad o’r fath yn cynnwys gofalu amdanoch eich hun, parchu eich hun, a chael teimlad o hunan-werth. (Mathew 10:31) Yn lle dyrchafu hunanoldeb, mae’r Beibl yn rhoi hunangariad yn ei briod le.

Pwy dylen ni ei garu yn gyntaf?

  1.   Dylai cariad tuag at Dduw ddod yn gyntaf yn ein calonnau. Mae’r Beibl yn dweud mai’r gorchymyn pwysicaf yw: “Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon.”—Marc 12:28-30; Deuteronomium 6:5.

  2.   Yr ail orchymyn yw: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.”—Marc 12:31; Lefiticus 19:18.

  3.   Er nad yw’r Beibl yn cynnwys gorchymyn penodol i garu eich hun, mae’r gorchymyn i “garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun” yn dangos bod gradd resymol o hunangariad a hunan-barch yn normal ac yn fuddiol.

Pwy oedd Iesu yn ei garu yn gyntaf?

 Dangosodd Iesu sut i gadw’r cydbwysedd rhwng caru Duw, caru eich cymydog, a charu eich hun, a rhoddodd gyfarwyddyd i’w ddisgyblion i ddilyn ei esiampl.—Ioan 13:34, 35.

  1.   Roedd ef yn caru Jehofa Dduw yn gyntaf ac yn ymroi i gyflawni Ei waith. “Rhaid i’r byd weld fy mod i’n caru’r Tad ac yn gwneud yn union beth mae’r Tad yn ei ddweud.”—Ioan 14:31.

  2.   Roedd Iesu yn caru ei gymydog, a dangosodd hyn drwy ofalu am anghenion pobl eraill, gan fynd mor bell â rhoi ei fywyd dros eraill.—Mathew 20:28.

  3.   Dangosodd gariad rhesymol tuag at ei hun drwy neilltuo amser i orffwyso, bwyta, a mwynhau cymdeithasu gyda’i ddilynwyr a disgyblion posib y dyfodol.—Marc 6:31, 32; Luc 5:29; Ioan 2:1, 2; 12:2.

A fydd caru eraill o flaen eich hun yn amharu ar eich hapusrwydd neu’ch hunan-barch?

 Na fydd, oherwydd ein bod ni wedi ein creu ar ddelw Duw, a’i brif rinwedd yw cariad anhunanol. (Genesis 1:27; 1 Ioan 4:8) Mae hyn yn golygu y cawson ni ein creu i ddangos cariad tuag at eraill. Mae gan hunangariad ei le, ond eto rydyn ni’n fwyaf hapus pan garwn Dduw yn bennaf a phan ganolbwyntiwn ar wneud pethau da ar gyfer eraill. Fel dywed y Beibl, “mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.”​—Actau 20:35.

 Heddiw, mae llawer yn honni bod rhoi eich hun yn gyntaf yn dod â hapusrwydd. Iddyn nhw, mae “caru dy hun” wedi cymryd lle “caru dy gymydog.” Fodd bynnag, mae tystiolaeth heddiw yn dangos bod iechyd gwell a hapusrwydd yn dod i’r rhai sy’n dilyn cyngor doeth y Beibl: “Ddylen ni ddim ceisio’n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.”—1 Corinthiaid 10:24.