Neidio i'r cynnwys

Beth Yw’r Enaid?

Beth Yw’r Enaid?

Ateb y Beibl

 Mae’r gair “enaid” yn y Beibl yn gyfieithiad o’r gair Hebraeg neʹphesh a’r gair Groeg psu·cheʹ. Yn llythrennol, mae’r gair Hebraeg yn golygu “creadur sy’n anadlu,” a’r gair Groeg yn golygu “bod byw.” a Yr enaid, felly, yw’r creadur cyfan, nid rhywbeth mewnol sy’n goroesi pan fydd y corff yn marw. Ystyriwch sut mae’r Beibl yn dangos mai’r person cyfan yw’r enaid:

Ni wnaeth Adda dderbyn enaid—fe ddaeth “yn enaid byw”

  •   Pan greodd Jehofa Dduw y dyn cyntaf, Adda, mae’r Beibl yn dweud fe ddaeth y dyn “yn enaid byw.” (Genesis 2:7, Beibl Cysegr-lân) Ni wnaeth Adda dderbyn enaid​—fe ddaeth yn enaid byw, neu’n berson.

  •   Mae’r Beibl yn dweud bod yr enaid yn gallu gweithio, eisiau bwyd, bwyta, ufuddhau i gyfreithiau, a chyffwrdd â chorff marw. (Lefiticus 5:2; 7:20; 23:30; Deuteronomium 12:20; Rhufeiniaid 13:1) Mae’r gweithredoedd hynny yn cynnwys y person cyfan.

Ydy’r enaid yn anfarwol?

 Nac ydy, mae’r enaid yn gallu marw. Mae dwsinau o adnodau o’r Beibl yn sôn am yr enaid yn marw. Dyma rai enghreifftiau:

  •   “Yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.”—Eseciel 18:4, 20, Beibl Cysegr-lân.

  •   Yn Israel hynafol, mae’r Beibl yn dweud am bwy bynnag oedd yn troseddu’n ddifrifol, “yr enaid hwnnw a dorrir ymaith.” (Exodus 12:15, 19; Lefiticus 7:20, 21, 27; 19:8, Beibl Cysegr-lân) “Rhoddir i farwolaeth” y person hwnnw.​—Exodus 31:14, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

  •   Yn yr adnodau isod, mae llawer o gyfieithiadau o’r Beibl yn defnyddio’r termau “corff marw,” neu “person marw.” Ond, yn yr Hebraeg gwreiddiol, mae’n dweud neʹphesh, neu “enaid.”—Lefiticus 21:11; Numeri 6:6.

Gall “enaid” olygu “bywyd”

 Yn y Beibl, weithiau mae’r gair “enaid” yn gyfystyr â “bywyd.” Er enghraifft, yn Job 33:22, Beibl Cysegr-lân, mae’r Beibl yn defnyddio’r gair Hebraeg “enaid” (neʹphesh) i olygu “bywyd.” Yn debyg, mae’r Beibl yn dangos gall enaid, neu fywyd person, gael ei beryglu neu ei golli.—Exodus 4:19; Barnwyr 9:17, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Philipiaid 2:30.

 Mae’r defnydd hwn o’r gair “enaid” yn ein helpu ni i ddeall adnodau sy’n sôn am yr enaid yn “ymadael.” (Genesis 35:18; Beibl Cysegr-lân) Mae’r ymadrodd hwn yn awgrymu bod bywyd y person yn dod i ben. Mae rhai cyfieithiadau yn trosi’r ymadrodd yn Genesis 35:18 fel “wrth iddi dynnu ei hanadl olaf.”

Tarddiad y ddysgeidiaeth am enaid anfarwol

 Mae enwadau Cristnogol sy’n credu mewn enaid anfarwol yn cael y ddysgeidiaeth, nid o’r Beibl, ond o athroniaeth hynafol o wlad Groeg. Mae Geirfa beibl.net yn dweud: “Ystyr y gair enaid ydy ‘un sy’n fyw,’ felly mae cyfeirio gan amlaf at ‘y person cyfan.’ Nid rhannau gwahanol o berson ydy corff, enaid, meddwl ac ysbryd. Syniad Groegaidd sy’n ystyried yr enaid fel rhyw endid ‘bur’ sydd wedi ei gaethiwo yn y corff.”

 Dydy Duw ddim yn caniatáu i’w ddysgeidiaethau gael eu cymysgu ag athroniaethau dynol, fel y ddysgeidiaeth o’r enaid anfarwol. Yn hytrach, mae’r Beibl yn rhybuddio: “Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag—syniadau sy’n dilyn traddodiadau dynol.”—Colosiaid 2:8.

a Gweler The New Brown, Driver, and Briggs Hebrew and English Lexicon of the Old Testament, tudalen 659, a’r Lexicon in Veteris Testamenti Libros, tudalen 627. Mae llawer o gyfieithiadau o’r Beibl yn trosi’r geiriau neʹphesh a psu·cheʹ yn wahanol yn ôl y cyd-destun, gan ddefnyddio geiriau fel “enaid,” “bywyd,” “person,” “creadur,” neu “corff.”