Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Heintiau Pandemig?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Heintiau Pandemig?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn dweud y bydd heintiau eang eu heffaith, gan gynnwys pandemigau, yn digwydd yn ystod y dyddiau diwethaf. (Luc 21:11) Ond nid cosb gan Dduw ydyn nhw. Yn wir, cyn bo hir, bydd Teyrnas Dduw yn dod â phob salwch i ben, gan gynnwys pandemigau.

 A oedd y Beibl yn rhagweld heintiau pandemig?

 Nid yw’r Beibl yn rhagfynegi clefydau neu heintiau pandemig penodol, fel COVID-19, AIDS, neu ffliw Sbaen. Ond y mae’n rhagweld “heintiau.” (Luc 21:11; Datguddiad 6:8) Mae’r pethau hyn yn rhan o arwydd “y cyfnod olaf.”—2 Timotheus 3:1; Mathew 24:3.

 Ydy Duw erioed wedi defnyddio afiechydon i gosbi pobl?

 Mae’r Beibl yn cyfeirio at ychydig o achlysuron pan ddefnyddiodd Duw afiechyd i gosbi pobl. Er enghraifft, fe drawodd rai pobl â’r gwahanglwyf. (Numeri 12:1-16; 2 Brenhinoedd 5:20-27; 2 Cronicl 26:16-21) Ond digwyddiadau unigol oedd y rhain, nid heintiau a ledodd i bobl ddiniwed. Cosbau penodol oedden nhw, ar unigolion oedd wedi gwrthryfela’n fwriadol yn erbyn Duw.

 Ai cosb gan Dduw yw’r heintiau pandemig a welwn ni heddiw?

 Nage. Mae rhai yn honni bod Duw yn anfon heintiau a chlefydau eraill i gosbi pobl heddiw. Ond nid dyna mae’r Beibl yn ei ddweud. Pam felly?

 Yn un peth, mae rhai pobl ffyddlon—yn y gorffennol a’r presennol—wedi dioddef afiechyd. Roedd Timotheus, er enghraifft, yn ‘dioddef salwch yn aml’. (1 Timotheus 5:23) Ond dydy’r Beibl ddim yn dweud bod hyn yn arwydd bod Duw yn ddig wrth Timotheus. Yn yr un modd heddiw, mae rhai sy’n gwasanaethu Duw yn ffyddlon yn mynd yn sâl neu yn dal haint. Yn aml, mater o fod yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir ydyw.—Pregethwr 9:11.

 At hynny, er bod y Beibl yn dweud y bydd Duw yn galw pobl ddrwg i gyfrif, nid yw’r amser hwnnw wedi cyrraedd. “Dydd i Dduw achub” ydy hwn. Ar hyn o bryd, mae Duw yn cynnig cyfle i bobl nesáu ato a chael eu hachub. (2 Corinthiaid 6:2) Un ffordd y mae’n cynnig y cyfle hwnnw yw drwy’r neges galonogol sy’n cael ei chyhoeddi trwy’r byd​—“y newyddion da am deyrnasiad Duw.”​—Mathew 24:14.

 A fydd diwedd ar heintiau pandemig?

 Bydd. Mae’r Beibl yn rhagweld amser yn y dyfodol agos pan na fydd neb yn sâl. Pan fydd Teyrnas Dduw yn rheoli’r byd, bydd Duw yn gwella pob afiechyd. (Eseia 33:24; 35:5, 6) Bydd yn rhoi terfyn ar ddioddefaint, poen a marwolaeth. (Datguddiad 21:4) Bydd yn atgyfodi’r rhai sydd wedi marw i fyw yn iach ar ddaear berffaith.—Salm 37:29; Actau 24:15.

 Adnodau o’r Beibl sy’n sôn am salwch

 Mathew 4:23: “Roedd Iesu’n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu’r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi’r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl.”

 Ystyr: Enghreifftiau oedd gwyrthiau Iesu a ddangosodd ar raddfa fach beth y bydd Teyrnas Dduw yn ei wneud dros yr holl ddynoliaeth yn fuan.

 Luc 21:11: “Bydd . . . heintiau mewn gwahanol leoedd.”

 Ystyr: Mae heintiau eang eu heffaith yn rhan o arwydd y dyddiau diwethaf.

 Datguddiad 6:8: “Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl llwyd o mlaen i! Marwolaeth oedd enw’r marchog oedd ar ei gefn, ac roedd Byd y Meirw yn dilyn yn glòs y tu ôl iddo. Dyma nhw’n cael awdurdod . . . i ladd gyda . . haint.”

 Ystyr: Mae’r broffwydoliaeth am bedwar marchog y Datguddiad yn dangos y byddai clefydau heintus yn digwydd yn ein hamser ni.