Neidio i'r cynnwys

Pwy Yw’r Archangel Michael?

Pwy Yw’r Archangel Michael?

Ateb y Beibl

 Mae Michael a gyfeirir ato gan rai crefyddau fel “Sant Mihangel” yn amlwg yn enw a roddwyd i Iesu cyn ac ar ôl ei fywyd ar y ddaear. a Gwnaeth Michael ddadlau gyda Satan ar ôl marwolaeth Moses a helpodd angel i gyflwyno neges i’r proffwyd Daniel. (Daniel 10:13, 21; Jwdas 9) Gwnaeth Michael fodloni’r disgwyliadau oedd ynghlwm wrth ei enw—“Pwy Sydd Fel Duw?”—drwy amddiffyn teyrnasiad Duw a brwydro yn erbyn gelynion Duw.—Daniel 12:1; Datguddiad 12:7.

 Ystyriwch pam ei bod hi yn rhesymol i ddod i’r casgliad mai Iesu yw’r archangel Michael.

  •   Michael yw’r “archangel.” (Jwdas 9, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae’r teitl “archangel” neu “prif angel” yn ymddangos mewn dwy adnod yn unig. Yn y ddwy achos, mae’r gair yn unigol, sy’n awgrymu mae dim ond un angel sy’n dwyn y teitl hwnnw. Mae un o’r adnodau hynny yn dweud bod yr Arglwydd Iesu atgyfodedig yn mynd i “ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel.” (1 Thesaloniaid 4:16, Beibl Cysegr-lân) Mae gan Iesu ‘lef yr archangel’ am mai ef yw’r archangel, Michael.

  •   Mae Michael yn ben ar fyddin o angylion. “Roedd Michael a’i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig,” Satan. (Datguddiad 12:7) Mae gan Michael awdurdod mawr ym myd yr ysbrydion, am iddo gael ei alw yn “un o’r prif arweinwyr,” a’r “arweinydd mawr.” (Daniel 10:13, 21; 12:1) Yn ôl ysgolhaig y Testament Newydd David E. Aune mae’r teitlau hyn yn dynodi Michael fel “pennaeth lluoedd yr angylion.”

     Dim ond un enw arall sy’n cael ei grybwyll yn y Beibl am rywun sydd ag awdurdod dros fyddin o angylion. Mae’n disgrifio’r adeg “pan fydd yr Arglwydd Iesu yn dod i’r golwg eto. Bydd yn dod o’r nefoedd gyda’i angylion cryfion. Gyda thân yn llosgi’n wenfflam bydd yn cosbi’r rhai sydd ddim yn nabod Duw ac sydd wedi gwrthod y newyddion da am Iesu.” (2 Thesaloniaid 1:7, 8; Mathew 16:27) Mae Iesu bellach “yn y nefoedd, gyda’r angylion a’r awdurdodau a’r pwerau ysbrydol i gyd yn plygu iddo.” (1 Pedr 3:21, 22) Fyddai hi ddim yn gwneud synnwyr i Dduw sefydlu Iesu a Michael fel dau bennaeth yr angylion sanctaidd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Yn hytrach, mae’n fwy rhesymol i gasglu bod y ddau enw yn cyfeirio at yr un person.

  •   Bydd Michael “yn codi” yn ystod “amser caled” na welwyd erioed mohono o’r blaen. (Daniel 12:1) Yn llyfr Daniel, mae’r ymadrodd “yn codi” yn aml yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at frenin sy’n codi i weithredu mewn ffordd arbennig. (Daniel 11:2-4, 21) Bydd Iesu Grist, sy’n cael ei adnabod fel “Gair Duw,” yn gweithredu fel “Brenin ar frenhinoedd” ac yn taro i lawr gelynion Duw ac yn amddiffyn pobl Dduw. (Datguddiad 19:11-16) Bydd yn gwneud hyn yn ystod “argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o’r blaen.”—Mathew 24:21, 42.

a Mae’r Beibl yn cyfeirio at bobl eraill gydag amryw o enwau, gan gynnwys Jacob (sydd hefyd yn cael ei alw’n Israel), Pedr (sydd hefyd yn cael ei alw’n Simon), a Thadeus (sydd hefyd yn cael ei alw’n Jwdas).—Genesis 49:1, 2; Mathew 10:2, 3; Marc 3:18; Actau 1:13.